Parc Cenedlaethol Northumberland: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
TobeBot (sgwrs | cyfraniadau) B robot yn ychwanegu: cs, de, es, fr, no, pl, zh |
|||
Llinell 17: | Llinell 17: | ||
{{eginyn Lloegr}} |
{{eginyn Lloegr}} |
||
[[cs:Národní park Northumberland]] |
|||
[[de:Northumberland-Nationalpark]] |
|||
[[en:Northumberland National Park]] |
[[en:Northumberland National Park]] |
||
[[es:Parque Nacional de Northumberland]] |
|||
[[fr:Parc naturel du Northumberland]] |
|||
[[no:Northumberland nasjonalpark]] |
|||
[[pl:Park Narodowy Northumberland]] |
|||
[[zh:諾森伯蘭國家公園]] |
Fersiwn yn ôl 05:57, 5 Mawrth 2010
Gorwedd Parc Cenedlaethol Northumberland yn sir Northumberland yng ngogledd-ddwyrain Lloegr. Dyma'r parc cenedlaethol mwyaf gogleddol yn Lloegr. Mae'n cynnwys ardal o dros 1030 km² sy'n ymestyn o'r ffin gyda'r Alban yn y gogledd i'r ardal i'r de o Fur Hadrian. Mae'n un o'r parciau cenedlaethol lleiaf poblogaidd gan ymwelwyr yn Lloegr. Mae'r parc yn gorwedd yn gyfangwbl o fewn ffiniau Northumberland ac yn ffurfio tua chwarter y sir honno. Ychydig iawn o bobl sy'n byw yno.
Ceir sawl ardal neilltuol yn y parc. Yn y gogledd ceir Bryniau Cheviot, cadwyn o fryniau am y ffin rhwng yr Alban a Lloegr. Yng nghanolbarth y parc ceir ardal o waundir a rhosydd eang, gyda rhannu'n orchuddiedig gan goedwigoedd, e.e. Coedwig Kielder. Mae rhan ddeheuol y parc yn cynnwys rhan ganol Mur Hadrian a'r tir o'i gwmpas.
Mae ardal y parc yn cynnwys sawl safle archaeolegol sy'n adlewyrchu hanes hir y rhan yma o Ororau'r Alban a Lloegr, o henebion cynhanesyddol i safleoedd o gyfnod y Rhufeiniaid a'r Oesoedd Canol pan fu'r ardal yn rhan o deyrnas Northumbria.
Dolenni allanol
- (Saesneg) Gwefan swyddogol y parc