Eid ul-Fitr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
BDim crynodeb golygu |
|||
Llinell 6: | Llinell 6: | ||
Ystyr '''Eid ul-Fitr''' yn llythrennol yw "Diwedd yr Ympryd" (''eid'' "diwedd", ''ul-'' "yr", ''fitr'' "ympryd"). Mae pobl yn gwisgo dillad newydd, yn ymweld â'r teulu a ffrindiau, ac yn mynd i'r [[Mosg|fosg]] yn y bore i gymryd rhan yn ''Salat ul-Eid'' (gweddïau Eid) a gwrando pregethau. Mae pawb yn dymuno ''Eid Mubarak'' ("bendith Eid") i'w gilydd. |
Ystyr '''Eid ul-Fitr''' yn llythrennol yw "Diwedd yr Ympryd" (''eid'' "diwedd", ''ul-'' "yr", ''fitr'' "ympryd"). Mae pobl yn gwisgo dillad newydd, yn ymweld â'r teulu a ffrindiau, ac yn mynd i'r [[Mosg|fosg]] yn y bore i gymryd rhan yn ''Salat ul-Eid'' (gweddïau Eid) a gwrando pregethau. Mae pawb yn dymuno ''Eid Mubarak'' ("bendith Eid") i'w gilydd. |
||
Agwedd bwysig arall ar Eid yw rhoi elusen (''zaqat'' neu ''zakat'') i bobl mewn angen, gweithred a ystyrir yn un o bump colofn y ffydd Islamaidd (Islam|Arkán al-Dín). Yr enw ar elusen Eid yw '''Zaqat ul-Eid''. |
Agwedd bwysig arall ar Eid yw rhoi elusen (''zaqat'' neu ''zakat'') i bobl mewn angen, gweithred a ystyrir yn un o bump colofn y ffydd Islamaidd ([[Islam|Arkán al-Dín]]). Yr enw ar elusen Eid yw '''Zaqat ul-Eid''. |
||
==Dathliadau== |
==Dathliadau== |
Fersiwn yn ôl 19:24, 17 Hydref 2006
Eid ul-Fitr (Arabeg: عيد الفطر), neu Aïd el-Fitr (yng Ngogledd Affrica), yw'r ŵyl Islamaidd a ddethlir gan Fwslemiaid ar ddiwedd mis sanctaidd Ramadan.
Arwyddocád Eid
Dethlir Eid ar ddyfodiad y lleuad newydd ar ddiwedd Ramadan, sef diwrnod cyntaf mis Shawaal, degfed fis y calendr Islamaidd, sy'n dilyn y lleuad. Mae'n dynodi diwedd y mis sanctaidd hwnnw - pan ymprydia Mwslemiaid yn ystod y dydd gan bwyta gyda'r nos yn unig - ac fe'i dethlir gyda gweddïau arbennig, gwleddau teuluol a chyfnewid anrhegion a bendithion.
Ystyr Eid ul-Fitr yn llythrennol yw "Diwedd yr Ympryd" (eid "diwedd", ul- "yr", fitr "ympryd"). Mae pobl yn gwisgo dillad newydd, yn ymweld â'r teulu a ffrindiau, ac yn mynd i'r fosg yn y bore i gymryd rhan yn Salat ul-Eid (gweddïau Eid) a gwrando pregethau. Mae pawb yn dymuno Eid Mubarak ("bendith Eid") i'w gilydd.
Agwedd bwysig arall ar Eid yw rhoi elusen (zaqat neu zakat) i bobl mewn angen, gweithred a ystyrir yn un o bump colofn y ffydd Islamaidd (Arkán al-Dín). Yr enw ar elusen Eid yw 'Zaqat ul-Eid.
Dathliadau
Mae Eid ul-Fitr yn amser i ddathlu bywyd ac i ddiolch am fendithion Duw. Mewn cyferbyniaeth lwyr â gweddill Ramadan mae ymprydio ar Eid ul-Fatr yn cael ei ystyried yn weithred aflan. Dyma'r amser i fod yn llaw-agored wrth bawb, i anghofio hen gwerylau a drwgdeimladau ac i droi tudalen newydd gan fod pechodau'r hen flwyddyn yn cael eu golchi i ffwrdd trwy gadw Ramadan.
Uchafbwynt Eid yw'r glwedda mawr sy'n parhau trwy'r nos. Mae teuluoedd ar wasgar yn ymgynnull ac mae pobl yn mynd o dŷ i dŷ i gymryd rhan mewn gwleddau traddodiadol gyda phrydau arbennig a digonedd o ddiodydd, cacenau, pwdins a melysion. Mae pawb yn rhoi anrhegion bach a melysion i blant, yn y cartref ac yn y stryd. Mae teuluoedd sy'n medru ffordio hynny yn lladd dafad neu fuwch ar gyfer yr ŵyl, mewn coffiadwriaeth o aberth Ibrahim (Abraham); rhoddir y cig i aelodau o'r teulu, i ffrindiau ac i'r tlawd a'r anghenus.
Mae goleuni'n bwysig hefyd. Rhoddir goleuadau lliwgar ar y mosgiau ac yn y strydoedd ac mae pawb yn ymdrechu i wisgo'n ddeniadol. Clywir cerddoriaeth seciwlar a chrefyddol ymhobman, o uchelseinyddion ar y strydoedd, yn y caffis a'r bwytai ac yn y gwleddau teuluol.
Enwau eraill am Eid
Yn Morocco mae Aïd el-Fitr yn cael ei galw 'n Aïd es-Seghir, mewn cyferbyniaeth ag Eid ul-Kabir (neu Aïd el-Kebir), Gŵyl yr Aberth; y ddwy ŵyl hon yw'r dyddiau gŵyl pwysicaf gan y Mwslemiaid.
Yn Twrci, mae'r ŵyl yn cael ei galw'n şeker bayramı, sef Gŵyl y Siwgr, oherwydd fod cymaint o ddanteithion melus yn cael eu bwyta gyda'r nos.
Yn Ngorllewin Affrica, mewn gwledydd fel Mali, Senegal a Niger, enwir yr ŵyl Korité.
Dyddiadau nesaf Eid ul-Fitr
Gan fod union ddyddiad Eid yn amrywio rhywfaint o wlad i wlad a bod y calendr Islamaidd yn dilyn y lleuad, amcangyfrif yw'r dyddiadau isod.