Eid ul-Fitr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
ychwanegiadau
Llinell 1: Llinell 1:
'''Eid ul-Fitr''' (Arabeg: عيد الفطر), neu '''Eid el-Fitr''' (yng [[Gogledd Affrica|Ngogledd Affrica]]), yw'r ŵyl [[Islam|Islamaidd]] a ddethlir gan [[Mwslim|Fwslemiaid]] ar ddiwedd mis sanctaidd [[Ramadan]].
'''Eid ul-Fitr''' (Arabeg: عيد الفطر), neu '''Aïd el-Fitr''' (yng [[Gogledd Affrica|Ngogledd Affrica]]), yw'r ŵyl [[Islam|Islamaidd]] a ddethlir gan [[Mwslim|Fwslemiaid]] ar ddiwedd mis sanctaidd [[Ramadan]].

==Arwyddocád Eid==
Dethlir Eid ar ddyfodiad y [[lleuad]] newydd ar ddiwedd Ramadan, sef diwrnod cyntaf mis ''Shawaal'', degfed fis y calendr Islamaidd, sy'n dilyn y lleuad. Mae'n dynodi diwedd y mis sanctaidd hwnnw - pan ymprydia Mwslemiaid yn ystod y dydd gan bwyta gyda'r nos yn unig - ac fe'i dethlir gyda gweddïau arbennig, gwleddau teuluol a chyfnewid anrhegion a bendithion.

Ystyr '''Eid ul-Fitr''' yn llythrennol yw "Diwedd yr Ymprydio" (''eid'' "diwedd", ''ul-'' "yr", ''fitr'' "ympryd"). Mae pobl yn gwisgo dillad newydd, yn ymweld â'r teulu a ffrindiau, ac yn mynd i'r [[Mosg|fosg]] yn y bore i gymryd rhan yn ''Salat ul-Eid'' (gweddïau Eid). Mae pawb yn dymuno ''Eid Mubarak'' ("bendith Eid") i'w gilydd.

Agwedd bwysig arall ar Eid yw rhoi elusen i bobl mewn angen, gweithred a ystyrir un un o bump colofn y ffydd Islamaidd.
Agwedd bwysig arall ar Eid yw rhoi elusen (''zaqat'' neu ''zakat'') i bobl mewn angen, gweithred a ystyrir un un o bump colofn y ffydd Islamaidd. Yr enw ar elusen Eid yw '''Zaqat ul-Eid''.

==Dathliadau==
[[Delwedd:Libyan_Asida.jpg|250px|bawd|'''Asida''' - danteithyn arbennig ar gyfer Eid ul-Fitr a fwyteir yng Ngogledd Affrica]]Mae Eid ul-Fitr yn amser i ddathlu bywyd ac i ddiolch am fendithion Duw. Mewn cyferbyniaeth lwyr â gweddill Ramadan mae ymprydio ar Eid ul-Fatr yn cael ei ystyried yn weithred aflan. Dyma'r amser i fod yn llaw-agored wrth bawb, i anghofio hen gwerylau a drwgdeimladau ac i droi tudalen newydd gan fod pechodau'r hen flwyddyn yn cael eu golchi i ffwrdd trwy gadw Ramadan.

Llinell 12: Llinell 14:

Mae goleuni'n bwysig hefyd. Rhoddir goleuadau lliwgar ar y mosgiau ac yn y strydoedd ac mae pawb yn ymdrechu i wisgo'n ddeniadol. Clywir cerddoriaeth seciwlar a chrefyddol ymhobman, o uchelseinyddion ar y strydoedd, yn y caffis a'r bwytai ac yn y gwleddau teuluol.

==Enwau eraill am Eid==
Yn [[Morocco]] mae Aïd el-Fitr yn cael ei galw 'n '''Aïd es-Seghir''', mewn cyferbyniaeth ag [[Eid ul-Kabir]] (neu ''Aïd el-Kebir''), Gŵyl yr Aberth; y ddwy ŵyl hon yw'r dyddiau gŵyl pwysicaf gan y Mwslemiaid.

Yn [[Twrci]], mae'r ŵyl yn cael ei galw'n ''şeker bayramı'', sef Gŵyl y Siwgr, oherwydd fod cymaint o ddanteithion melus yn cael eu bwyta gyda'r nos.

Yn [[Gorllewin Affrica|Ngorllewin Affrica]], mewn gwledydd fel [[Mali]], [[Senegal]] a [[Niger]], enwir yr ŵyl ''Korité''.

[[Categori:Islam]]
[[Categori:Islam]]

Fersiwn yn ôl 15:01, 17 Hydref 2006

Eid ul-Fitr (Arabeg: عيد الفطر), neu Aïd el-Fitr (yng Ngogledd Affrica), yw'r ŵyl Islamaidd a ddethlir gan Fwslemiaid ar ddiwedd mis sanctaidd Ramadan.

Arwyddocád Eid

Dethlir Eid ar ddyfodiad y lleuad newydd ar ddiwedd Ramadan, sef diwrnod cyntaf mis Shawaal, degfed fis y calendr Islamaidd, sy'n dilyn y lleuad. Mae'n dynodi diwedd y mis sanctaidd hwnnw - pan ymprydia Mwslemiaid yn ystod y dydd gan bwyta gyda'r nos yn unig - ac fe'i dethlir gyda gweddïau arbennig, gwleddau teuluol a chyfnewid anrhegion a bendithion.

Ystyr Eid ul-Fitr yn llythrennol yw "Diwedd yr Ymprydio" (eid "diwedd", ul- "yr", fitr "ympryd"). Mae pobl yn gwisgo dillad newydd, yn ymweld â'r teulu a ffrindiau, ac yn mynd i'r fosg yn y bore i gymryd rhan yn Salat ul-Eid (gweddïau Eid). Mae pawb yn dymuno Eid Mubarak ("bendith Eid") i'w gilydd.

Agwedd bwysig arall ar Eid yw rhoi elusen (zaqat neu zakat) i bobl mewn angen, gweithred a ystyrir un un o bump colofn y ffydd Islamaidd. Yr enw ar elusen Eid yw 'Zaqat ul-Eid.

Dathliadau

Asida - danteithyn arbennig ar gyfer Eid ul-Fitr a fwyteir yng Ngogledd Affrica

Mae Eid ul-Fitr yn amser i ddathlu bywyd ac i ddiolch am fendithion Duw. Mewn cyferbyniaeth lwyr â gweddill Ramadan mae ymprydio ar Eid ul-Fatr yn cael ei ystyried yn weithred aflan. Dyma'r amser i fod yn llaw-agored wrth bawb, i anghofio hen gwerylau a drwgdeimladau ac i droi tudalen newydd gan fod pechodau'r hen flwyddyn yn cael eu golchi i ffwrdd trwy gadw Ramadan.

Uchafbwynt Eid yw'r glwedda mawr sy'n parhau trwy'r nos. Mae teuluoedd ar wasgar yn ymgynnull ac mae pobl yn mynd o dŷ i dŷ i gymryd rhan mewn gwleddau traddodiadol gyda phrydau arbennig a digonedd o ddiodydd, cacenau, pwdins a melysion. Mae pawb yn rhoi anrhegion bach a melysion i blant, yn y cartref ac yn y stryd. Mae teuluoedd sy'n medru ffordio hynny yn lladd dafad neu fuwch ar gyfer yr ŵyl, mewn coffiadwriaeth o aberth Ibrahim (Abraham); rhoddir y cig i aelodau o'r teulu, i ffrindiau ac i'r tlawd a'r anghenus.

Mae goleuni'n bwysig hefyd. Rhoddir goleuadau lliwgar ar y mosgiau ac yn y strydoedd ac mae pawb yn ymdrechu i wisgo'n ddeniadol. Clywir cerddoriaeth seciwlar a chrefyddol ymhobman, o uchelseinyddion ar y strydoedd, yn y caffis a'r bwytai ac yn y gwleddau teuluol.

Enwau eraill am Eid

Yn Morocco mae Aïd el-Fitr yn cael ei galw 'n Aïd es-Seghir, mewn cyferbyniaeth ag Eid ul-Kabir (neu Aïd el-Kebir), Gŵyl yr Aberth; y ddwy ŵyl hon yw'r dyddiau gŵyl pwysicaf gan y Mwslemiaid.

Yn Twrci, mae'r ŵyl yn cael ei galw'n şeker bayramı, sef Gŵyl y Siwgr, oherwydd fod cymaint o ddanteithion melus yn cael eu bwyta gyda'r nos.

Yn Ngorllewin Affrica, mewn gwledydd fel Mali, Senegal a Niger, enwir yr ŵyl Korité.