Eid ul-Fitr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
BDim crynodeb golygu |
interwiki |
||
Llinell 14: | Llinell 14: | ||
[[Categori:Islam]] |
[[Categori:Islam]] |
||
[[ar:عيد الفطر]] |
|||
[[ur:عيد الفطر]] |
|||
[[da:Eid ul-Fitr]] |
|||
[[de:'Īd al-fitr]] |
|||
[[eo:Eid ul-Fitr]] |
|||
[[fr:Aïd el-Fitr]] |
|||
[[id:Idul Fitri]] |
|||
[[he:עיד אל-פיטר]] |
|||
[[ms:Hari Raya Aidil Fitri]] |
|||
[[nl:Suikerfeest]] |
|||
[[no:Id ul-fitr]] |
|||
[[nn:Id ul-fitr]] |
|||
[[pt:Eid ul-Fitr]] |
|||
[[ru:Праздник разговения]] |
|||
[[sl:Eid ul-Fitr]] |
|||
[[sv:Eid ul-Fitr]] |
|||
[[tr:Ramazan Bayramı]] |
Fersiwn yn ôl 14:39, 17 Hydref 2006
Eid ul-Fitr (Arabeg: عيد الفطر), neu Eid el-Fitr (yng Ngogledd Affrica), yw'r ŵyl Islamaidd a ddethlir gan Fwslemiaid ar ddiwedd mis sanctaidd Ramadan.
Dethlir Eid ar ddyfodiad y lleuad newydd ar ddiwedd Ramadan, sef diwrnod cyntaf mis Shawaal, degfed fis y calendr Islamaidd, sy'n dilyn y lleuad. Mae'n dynodi diwedd y mis sanctaidd hwnnw - pan ymprydia Mwslemiaid yn ystod y dydd gan bwyta gyda'r nos yn unig - ac fe'i dethlir gyda gweddïau arbennig, gwleddau teuluol a chyfnewid anrhegion a bendithion.
Ystyr Eid ul-Fitr yn llythrennol yw "Diwedd yr Ymprydio" (eid "diwedd", ul- "yr", fitr "ympryd"). Mae pobl yn gwisgo dillad newydd, yn ymweld â'r teulu a ffrindiau, ac yn mynd i'r fosg yn y bore i gymryd rhan yn Salat ul-Eid (gweddïau Eid). Mae pawb yn dymuno Eid Mubarak ("bendith Eid") i'w gilydd.
Agwedd bwysig arall ar Eid yw rhoi elusen i bobl mewn angen, gweithred a ystyrir un un o bump colofn y ffydd Islamaidd.
Mae Eid ul-Fitr yn amser i ddathlu bywyd ac i ddiolch am fendithion Duw. Mewn cyferbyniaeth lwyr â gweddill Ramadan mae ymprydio ar Eid ul-Fatr yn cael ei ystyried yn weithred aflan. Dyma'r amser i fod yn llaw-agored wrth bawb, i anghofio hen gwerylau a drwgdeimladau ac i droi tudalen newydd gan fod pechodau'r hen flwyddyn yn cael eu golchi i ffwrdd trwy gadw Ramadan.
Uchafbwynt Eid yw'r glwedda mawr sy'n parhau trwy'r nos. Mae teuluoedd ar wasgar yn ymgynnull ac mae pobl yn mynd o dŷ i dŷ i gymryd rhan mewn gwleddau traddodiadol gyda phrydau arbennig a digonedd o ddiodydd, cacenau, pwdins a melysion. Mae pawb yn rhoi anrhegion bach a melysion i blant, yn y cartref ac yn y stryd. Mae teuluoedd sy'n medru ffordio hynny yn lladd dafad neu fuwch ar gyfer yr ŵyl, mewn coffiadwriaeth o aberth Ibrahim (Abraham); rhoddir y cig i aelodau o'r teulu, i ffrindiau ac i'r tlawd a'r anghenus.
Mae goleuni'n bwysig hefyd. Rhoddir goleuadau lliwgar ar y mosgiau ac yn y strydoedd ac mae pawb yn ymdrechu i wisgo'n ddeniadol. Clywir cerddoriaeth seciwlar a chrefyddol ymhobman, o uchelseinyddion ar y strydoedd, yn y caffis a'r bwytai ac yn y gwleddau teuluol.