Eira: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS |
Dim crynodeb golygu Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS |
||
Llinell 14: | Llinell 14: | ||
'''1947'''</br> |
'''1947'''</br> |
||
Ar Gader Idris cafodd Peter Benoit o’r Bermo ''snow patch'' ar ben y Llwybr Gwernan (''Fox's Path'' ar 28 Mai 1947 ar ôl gaeaf oer iawn y flwyddyn honno. |
|||
== Gweler hefyd == |
== Gweler hefyd == |
Fersiwn yn ôl 14:18, 22 Ionawr 2019
Ffurfir eira (hefyd: 'eiry', 'ôd' neu 'nyf') pan fo gwlybaniaeth yn yr awyr yn troi'n grisialau rhew. Dan rai amgylchiadau, gellir cael eirlaw, sef eira yn gymysg â glaw, neu gesair (cenllysg), sef glaw wedi rhewi.
Fel rheol ceir eira yn y rhannau oeraf o'r byd, yn y gogledd ac yn y de. Yn nes at y cyhydedd, ni cheir eira fel rheol, ond ceir eira ar fynyddoedd uchel e.e. ar fynydd Kilimanjaro yn Tansanïa ac yn yr Andes yn Ne America. Ceir nifer o ddywediadau ar lafar am eira gan gynnwys 'eira mân, eira mawr' a cheir llawer o farddoniaeth amdano gan gynnwys Dafydd ap Gwilym:
- Ni chysgaf, nid af o dŷ
- Ym mhoen ydd wyf am hynny...
Eira hwyr
Blynyddoedd o eira yn sefyll yn hwyr i'r gwanwyn (fel arfer ar ôl gaeaf oer):
2010
- Roedd cymaint â thy o hyd ar 5ed Mehefin [2010] pan rhedasom heibio iddo... 100-150 troedfedd o hyd a 10 troedfedd da o drwch o hyd. Ymddangosai mor fach o Fangor, ond mor anferth yn agos. Fe'i lleolais yn agos i'r Afon Caseg o dan Foel Grach tua SH 685656. Credaf iddo oroesi tan tua'r 15ed Mehefin.[1]
1947
Ar Gader Idris cafodd Peter Benoit o’r Bermo snow patch ar ben y Llwybr Gwernan (Fox's Path ar 28 Mai 1947 ar ôl gaeaf oer iawn y flwyddyn honno.
Gweler hefyd
- Eirlithriad
- Eira'r gors: cotton grass