Lleuad: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS
Llinell 15: Llinell 15:
== Dwy ochr y Lleuad ==
== Dwy ochr y Lleuad ==
Gan fod y Lleuad yn cymryd yr un cyfnod i droelli unwaith ac i fynd o amgylch [[y Ddaear]] unwaith, mae un ochr wastad yn wynebu i ffwrdd o'r Ddaear. Fe welwyd ochr arall y Lleuad am y tro cyntaf pan anfonodd y chwiliedydd gofod [[Luna 3]] luniau ohoni yn ôl i'r Ddaear yn [[1959]].
Gan fod y Lleuad yn cymryd yr un cyfnod i droelli unwaith ac i fynd o amgylch [[y Ddaear]] unwaith, mae un ochr wastad yn wynebu i ffwrdd o'r Ddaear. Fe welwyd ochr arall y Lleuad am y tro cyntaf pan anfonodd y chwiliedydd gofod [[Luna 3]] luniau ohoni yn ôl i'r Ddaear yn [[1959]].

==Geirfa==

*Lloergan
Noson golau lleuad yw "noson loergan. Mae gŵyl ''Kann al Loar'' a gynhelir yn flynyddol yn ''Landerne'' yn Llydaw yn ein harwain i ystyr ein gair. Ystyr ''Kann al Loar'' yw lleuad llawn, ''kann'' yn golygu gwyn (cymharer "bara cann", "cannu" = ''to bleach'') a ''loar'' yn golygu lloer. Fel enw ar ŵyl, mae hefyd yn chwarae ar debygrwydd kann i'r gair mwy cyfarwydd canu, sydd hefyd yn cael ei rannu rhwng y ddwy iaith - ac mae yna ddipyn o hynny yn digwydd yn yr ŵyl hefyd! (Mae'r gair Landerne)au ar y cap, gyda chromfachyn siap gewin o leuad ar ôl yr e, yn fodd i ddangos enw'r dref LANDERNE yn Llydaweg, yn ogystal a'r enw Ffrangeg LANDERNEAU...clyfar 'te?


==Cefn gwlad==
==Cefn gwlad==

Fersiwn yn ôl 23:09, 21 Ionawr 2019

Seryddiaeth
Seryddiaeth

Lleuad
Planed
Seren
Galaeth
Bydysawd


Astroffiseg
Cosmoleg


Nifwl

Y Lleuad

Y Lleuad (enw gwrywaidd) neu'r Lloer (enw benywaidd) yw unig loeren naturiol y Ddaear o sylwedd.

Mae'r Lleuad yn troi o amgylch y ddaear mewn orbit o 27.3 diwrnod ac mae tua 384,403 km o'r ddaear. Fe gymer 1.3 eiliad i'r goleuni o'r haul a adlewyrchir oddi ar wyneb y Lleuad deithio i'r ddaear (yn ôl cyflymdra goleuni). Mae tua 500,000 o graterau ar ei hwyneb. Grym disgyrchiant sydd yn dal y lleuad yn ei horbit. Does fawr ddim atmosffer ganddi i'w hamddiffyn. Credir i'r lleuad gael ei ffurfio 4.5 biliwn o flynyddoed yn ôl, ychydig wedi i'r Ddaear gael ei ffurfio. Ceir sawl damcaniaeth ynghylch sut y crewyd y Lleuad, ond y mwyaf poblogaidd gan seryddwyr yw iddo gael ei ffurfio o ddarnau o'r Ddaear wedi i gorff enfawr o faint y blaned Mawrth wrthdaro a'r Ddaear. Gelwir y corff hwn yn Theia.

Mae ymchwil diweddar yn awgrymu bod rhai o'r craterau ger pigyn y De yn cynnwys dŵr mewn ffurf rhew, ond dydy'r canlyniadau yma ddim wedi cael eu cadarnhau eto.

Rocedi a gwrthrychau eraill

Y gwrthrych cyntaf a wnaed gan ddyn i gyrraedd y Lleuad oedd Luna 2 yn 1959, ac fe wnaeth Luna 3 yn yr un flwyddyn anfon yn ôl luniau o ochr bellaf y Lleuad. Cafodd y ddau ohonyn nhw eu lawnsio gan rocedi Sofietaidd.

Gwahanol ystumiau, mewn blwyddyn gron

Ar 20 Gorffennaf 1969 glaniodd ddau ofodwr Americanaidd yn y modiwl lleuad Eagle – sef rhan o'r llong gofod Apollo 11 – arni, ac un ohonynt, Neil Armstrong, oedd y dyn cyntaf i gerdded ar y lleuad. Rhwng 1969 a 1972, ymwelodd 27 o ddynion â'r Lleuad; cerddodd 12 ohonynt arni. Gadawodd y criw olaf, sef Eugene Cernan a Harrison Schmitt, yn 1972. Mae gan sawl gwlad gynllun i anfon pobl i'r Lleuad rhywbryd yn y 30 blwyddyn nesaf, gan gynnwys y UDA a Tsieina.

Dwy ochr y Lleuad

Gan fod y Lleuad yn cymryd yr un cyfnod i droelli unwaith ac i fynd o amgylch y Ddaear unwaith, mae un ochr wastad yn wynebu i ffwrdd o'r Ddaear. Fe welwyd ochr arall y Lleuad am y tro cyntaf pan anfonodd y chwiliedydd gofod Luna 3 luniau ohoni yn ôl i'r Ddaear yn 1959.

Geirfa

  • Lloergan

Noson golau lleuad yw "noson loergan. Mae gŵyl Kann al Loar a gynhelir yn flynyddol yn Landerne yn Llydaw yn ein harwain i ystyr ein gair. Ystyr Kann al Loar yw lleuad llawn, kann yn golygu gwyn (cymharer "bara cann", "cannu" = to bleach) a loar yn golygu lloer. Fel enw ar ŵyl, mae hefyd yn chwarae ar debygrwydd kann i'r gair mwy cyfarwydd canu, sydd hefyd yn cael ei rannu rhwng y ddwy iaith - ac mae yna ddipyn o hynny yn digwydd yn yr ŵyl hefyd! (Mae'r gair Landerne)au ar y cap, gyda chromfachyn siap gewin o leuad ar ôl yr e, yn fodd i ddangos enw'r dref LANDERNE yn Llydaweg, yn ogystal a'r enw Ffrangeg LANDERNEAU...clyfar 'te?

Cefn gwlad

Cynnydd a Gwendid

Mae hi'n goel eitha cryf hydnoed heddiw – fod y lleuad yn dylanwadu ar gyflwr pethau byw o bob math. H.y. wrth i'r lleuad gryfhau (neu dod i'w llawnder) fe fyddai'n ysgogi tyfiant ac wrth iddi leihau, neu wanio, byddai egni pethau byw yn lleihau yn ogystal. O ganlyniad, arferai ffermwyr a garddwyr gynllunio'u gwaith o amgylch y lleuad ac yn darllen Almanac Caergybi neu Almanac y Miloedd i gael dyddiadau cyflyrau'r lleuad yn fanwl bob mis.

Byddid yn hau yn y gerddi a'r caeau ar y cynnydd (yn chwarter cynta'r lleuad newydd os yn bosib) fel bod planhigion ifanc yn egino a thyfu a rhoddid ieir i orri fel bo'r cywion yn deor a chynyddu efo'r lleuad. Dyma'r adeg i hel planhigion meddyginiaethol hefyd fel eu bod yn fwy effeithiol. Yn ogystal byddai coed ffrwythau yn cael eu tocio a'u himpio a byddai priodasau a dîls busnes yn fwy llwyddiannus pe digwyddant pan fo'r lleuad ar gynnydd. Byddid hefyd yn lladd a halltu mochyn pan fo'r lleuad ar ei "chelder" (Morgannwg).

Adeg gwendid neu "dywyllwch" y lleuad y dylsid tynnu chwyn o'r ddaear, pigo ffrwythau, tynnu llysiau, medi'r cnydau a thorri ffyn neu goed (er mwyn i'r coedyn aeddfedu'n iawn). Casglwyd ffrwythau gan y credid y byddai golau'r lleuad yn gwneud i'r ffrwythau bydru'n gynt.

Llawnder y lleuad oedd yr adeg orrau i roi tarw i'r fuwch, myharen i'r defaid, a chawsai'r rhai fyddai'n priodi ar leuad llawn lond tŷ o blant. Dyma hefyd yr adeg orrau i gneifio'r defaid ac i dorri eich gwallt! Byddai'r lleuad llawn yn peri i ferched esgor, yn enwedig os oeddent eisoes ychydig yn hwyr – cymaint felly nes yr arferai Nyrs Jones (y fydwraig) o Nefyn alw'r lleuad llawn yn "Leuad Babis".

Hen enwau

Bu'r lleuad llawn dros y canrifoedd yn goleuo'r nos inni a cheir enwau arni, fel "Hen Lantar y Plwy", "Canwyll y Plwy", "y Lanter Fawr" a "Haul Tomos Jôs" ac roedd hi'n arfer ar un adeg i gyfarfodydd ac eisteddfodau lleol gael eu cynnal oddeutu'r lleuad llawn – er mwyn i'r goleuni fod o gymorth i bobl gerdded adre liw nos.

Cawsai y lleuad llawn cynta ar ôl Cyhydnos yr hydref (22ain o Fedi) ei alw'n "Lleuad Fedi" neu "Leuad y Cynheuaf", pryd y ceid y "Naw Nos Olau". Byddai'r Naw Nos Olau yn eithriadol o bwysig i ffermwyr ar un adeg oherwydd ei goleuni llachar – bron fel golau dydd am o leia' y 4 noson cyn, ac ar ôl y lleuad llawn ei hun. Roedd hyn yn eithriadol o hwylus at gario'r ysgubau ŷd i'r teisi ac am y byddai'r lleuad yn codi hefo'r machlud gellid dal ati i gario o'r caeau (h. y., cyn dyddiau'r dyrnwr medi) ymhell i'r nos – hyd y wawr pe bai angen.

Lwc, anlwc a darogan

Dros y canrifoedd, a hyd yn oed yn 2018, cred rhai ei bod yn anlwcus gweld y lleuad newydd drwy wydr, neu drwy ganghennau coed am fod y gwydr, neu'r canghennau'n atal, neu "ddwyn", lwc dda cynnydd y lleuad. Ac mae rhai yn dangos eu harian i'r lleuad newydd neu'n troi'r arian drosodd yn eu poced – er mwyn iddo gynyddu efo'r lleuad?

I sicrhau lwc dda arferai pobl Ceredigion godi eu hetiau'n barchus pan welid y lleuad newydd gynta a byddai'r merched yn bowio iddi. Mae'n lwcus gweld y lleuad newydd dros yr ysgwydd chwith ac os wnewch chi ddymuniad i leuad newydd gynta'r flwyddyn fe gaiff ei wireddu. Yn Sir Gaernarfon, pe gofynai bachgen neu ferch ifanc i'r lleuad newydd pwy fyddent yn eu priodi, fe fyddant yn siwr o weld eu darpar briod mewn breuddwyd y noson honno.

Lloerig

Fe dybid ers talwm fod y lleuad yn effeithio ar gyflwr meddyliol pobl, a tan tua canrif yn ôl roedd yn cael ei hystyried fel un o brif achosion gwallgofrwydd. Mae'r geiriau “Lunatic” yn Saesneg a "Lloerig" yn Gymraeg yn cyfeirio at hynny – ac mae'r Lunacy Act (neu Ddeddf Lloerigrwydd) 1842, yn dweud yn ddigon clir bod rhywun lloerig yn dioddef o "benwendid" yn y cyfnod a ddilynai'r lleuad lawn. Roedd yn anlwcus iawn cysgu yng ngolau'r lleuad oherwydd hynny – rhag ofn ichi fynd dan ei ddylanwad!

Dyn neu Sgwarnog y Lleuad

Coel sy'n gyffredin drwy wledydd Ewrop yw y gallwch weld llun ar wyneb y lleuad, llun o hen ŵr yn cario baich o goed ar ei ysgwydd ac mai wedi ei alltudio yno yr oedd o am hel priciau tân ar y Sul! Arferid dweud hyn yng Nghymru tan yn ddiweddar, yn enwedig i blant. Ond yn yr India, Tsieina, Japan, a De Affrica sgwarnog neu wningen a welir. Gwningen hefyd geir yn ysgrif-luniau'r Aztec ym Mecsico i bortreadu'r lleuad. Cysylltir y sgwarnog â duwies y lleuad Geltaidd. Efallai bod adlais o'r cyswllt hwnnw yn yr hen stori am Melangell yn rhoi lloches i'r sgwarnog rhag helgwn y tywysog Brochfael ym Maldwyn?

Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun a sgwennwyd ac a briodolir i Twm Elias ac a uwchlwythwyd ar Wicipedia gan Defnyddiwr:Twm Elias. Cyhoeddwyd y gwaith yn gyntaf yn : Gwyddoniadur Cymru (Gwasg y Brifysgol).


Chwiliwch am lleuad
yn Wiciadur.