Antiochia: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
JAnDbot (sgwrs | cyfraniadau) B robot yn newid: uk:Антіохія |
SieBot (sgwrs | cyfraniadau) B robot yn ychwanegu: th:อันติออค |
||
Llinell 48: | Llinell 48: | ||
[[ru:Антиохия]] |
[[ru:Антиохия]] |
||
[[sv:Antiochia vid Orontes]] |
[[sv:Antiochia vid Orontes]] |
||
[[th:อันติออค]] |
|||
[[tr:Antakya, Hatay#Tarih]] |
[[tr:Antakya, Hatay#Tarih]] |
||
[[uk:Антіохія]] |
[[uk:Антіохія]] |
Fersiwn yn ôl 03:42, 1 Mawrth 2010
Roedd Antiochia ar yr Orontes (Groeg: Αντιόχεια η επί Δάφνη, Αντιόχεια η επί Ορόντου neu Αντιόχεια η Μεγάλη; Lladin: Antiochia ad Orontem; yn ddinas ar lan ddwyreiniol Afon Orontes, ar safle dinas fodern Antakya, yn ne-orllewin Twrci.
Sefydlwyd Antiochia tua diwedd y 4edd ganrif CC gan Seleucus I Nicator, un o gadfridogion Alecsander Fawr. Dywedir i gynllun gwreiddiol strydoedd y ddinas gael ei osod gan y pensaer Xenarius i efelychu dinas Alexandria. Tyfodd i fod yn ddinas fawr a phwysig, yn brifddinas yr Ymerodraeth Seleucaidd, yn cystadlu ag Alexandria fel dinas bwysicaf y dwyrain, ac yn ddinas bwysig iawn yn hanes datblygiad Cristionogaeth.
Yn ystod oes aur y ddinas tua diwedd y cyfnod Hellenistaidd a dechrau'r cyfnod Rhufeinig, roedd ei phoblogaeth wedi cyrraedd tua 500,000; y drydedd dinas yn y byd ar ôl Rhufain ac Alexandria. Erbyn y 4edd ganrif, yn ôl Chrysostom roedd y boblogaeth wedi lleihau i tua 200,00. Nid yw'r ffigyrau hyn yn cynnwys caethweision.
Yn ddiweddarach bu ymgiprys am y ddinas rhwng yr Arabiaid a'r Ymerodraeth Fysantaidd. Bu gwarchae hir ar y ddinas yn ystod y Groesgad Gyntaf, a daeth Bohemund, tywysog Taranto, yn arglwydd y ddinas. Cipiwyd y ddinas yn ôl yn 1268 gan y Swltan Mamluk Baibars wedi gwarchae hir arall. Lladdodd Baibars lawer o'r boblogaeth Gristionogol, a rhwng hyn a'r ffaith fod y porthladd erbyn hyn allan o gyrraedd llongau mawr, dirywiodd y ddinas.
Enwogion
- Ammianus Marcellinus, hanesydd fu'n enedigol o'r ddinas
- Justina o Antiochia, santes gynnar a merthyr