Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B cat
Tagiau: Golygiad cod 2017
Tagiau: Golygiad cod 2017
Llinell 13: Llinell 13:


==Llyfryddiaeth==
==Llyfryddiaeth==
*Gweler ''Canrif Gron/ The Welsh Folk-Song Society: A Whole Century'' gan [[D. Roy Saer]], a gyhoeddwyd gan y Gymdeithas yn 2006 (ISBN 0 9532555 5 7).
* ''[[Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru: Canrif Gron]]'' gan [[D. Roy Saer]], a gyhoeddwyd gan y Gymdeithas yn 2006 (ISBN 0 9532555 5 7).


[[Categori:Canu gwerin yng Nghymru]]
[[Categori:Canu gwerin yng Nghymru]]

Fersiwn yn ôl 01:02, 19 Ionawr 2019

Pibgyrn Y glerorfa yng Ngŵyl Tegeingl.

Sefydlwyd Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru, sy'n elusen gofrestredig, (rhif 259772) mewn cyfarfod yn Llangollen ar 2 Medi, 1906. Nod y gymdeithas oedd i gasglu cerddoriaeth werin a hybu canu traddodiadol y wlad. Ar eu gwefan, dywedir i'r gymdeithas gael ei sefydlu i 'gasglu, diogelu, dehongli a chyflwyno caneuon gwerin Cymru, cyhoeddi enghreifftiau ohonynt a hybu ymchwil i’w cefndir llenyddol a cherddorol, yn ogystal â meithrin diddordeb mewn canu gwerin a llên gwerin yn gyffredinol.'

Mae Canu Gwerin, sef cylchgrawn y Gymdeithas, yn ymddangos bob Awst, a chynhelir cyfarfod blynyddol o ddarlithiau, trafodaethau a chanu yn ogystal â darlith yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Cyhoeddir cyfrolau o alawon a threfniannau hefyd yn achlysurol. Cymraeg yw iaith y Gymdeithas, ond ceir peth gwybodaeth yn Saesneg ar eu gwefan.

Sefydlu

Un o brif sylfaenwyr y Gymdeithas oedd Dr J. Lloyd Williams, darlithydd mewn botaneg ym Mhrifysgol Bangor oedd hefyd yn gyfarwyddwr cerdd y coleg. Sefydlodd barti canu o blith ei fyfyrwyr gan eu hanog i gofnodi hen ganeuon llafar gwlad yn ystod eu gwyliau[1]

O fewn hanner can mlynedd o'i sefydlu roedd y Gymdeithas wedi llwyddo i gasglu bron i 600 o ganeuon traddodiadol Cymraeg. Yn 1988 ailargraffwyd casgliad pwysig Maria Jane Williams a gyhoeddwyd yn gyntaf yn 1844.

Cyfeiriadau

  1. Gwyn Jenkins (gol.). Llyfr y Ganrif. Y Lolfa. ISBN 0-86243-504-8.

Llyfryddiaeth