Ynys Enlli: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol |
RadiX (sgwrs | cyfraniadau) B Wedi gwrthdroi golygiadau gan 95.144.91.26 (Sgwrs); wedi adfer y golygiad diweddaraf gan Sian EJ. Tagiau: Gwrthdroi |
||
Llinell 14: | Llinell 14: | ||
==Gerallt Gymro== |
==Gerallt Gymro== |
||
Galwodd [[Gerallt Gymro]] yn [[Nefyn]] ar ei ''[[Hanes y Daith Trwy Gymru|daith trwy Gymru]]'' yn [[1188]]. Dyma ei ddisgrifiad o'r ynys: |
|||
:'Ond y mae'n gorwedd y tu draw i Lŷn ynys fechan y preswylia ynddi fynaich ffyddlon iawn eu crefydd, a alwant Coelibes ("gwŷr dibriod") neu Colidei ("addolwyr Duw"). Rhyfeddod a berthyn i'r ynys hon, naill ai oherwydd iachusrwydd yr awyr a dderbyn o'i chymdogaeth agos at Iwerddon, neu'n hytrach trwy ryw wyrth a haeddianau'r saint, yw bod y bobl hynaf ynddi yn marw gyntaf, gan mai'n brin iawn y ceir clefydon ynddi; ac yn anaml, heu nid o gwbl, y bydd neb farw yma, onid ar ôl nychdod hir henaint. Enlli, yn Gymraeg, y gelwir yr ynys hon, ac yn yr iaith Saesneg, Bardsey. Ac ynddi, yn ôl traddodiad, y mae cyrff dirifedi saint wedi eu claddu; a thystiant mai yno y gorwedd corff y gwynfydedig [[Deiniol|Ddaniel]], [[esgob Bangor]].' |
:'Ond y mae'n gorwedd y tu draw i Lŷn ynys fechan y preswylia ynddi fynaich ffyddlon iawn eu crefydd, a alwant Coelibes ("gwŷr dibriod") neu Colidei ("addolwyr Duw"). Rhyfeddod a berthyn i'r ynys hon, naill ai oherwydd iachusrwydd yr awyr a dderbyn o'i chymdogaeth agos at Iwerddon, neu'n hytrach trwy ryw wyrth a haeddianau'r saint, yw bod y bobl hynaf ynddi yn marw gyntaf, gan mai'n brin iawn y ceir clefydon ynddi; ac yn anaml, heu nid o gwbl, y bydd neb farw yma, onid ar ôl nychdod hir henaint. Enlli, yn Gymraeg, y gelwir yr ynys hon, ac yn yr iaith Saesneg, Bardsey. Ac ynddi, yn ôl traddodiad, y mae cyrff dirifedi saint wedi eu claddu; a thystiant mai yno y gorwedd corff y gwynfydedig [[Deiniol|Ddaniel]], [[esgob Bangor]].' |
||
Fersiwn yn ôl 19:33, 17 Ionawr 2019
Math | ynys |
---|---|
Poblogaeth | 4 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Aberdaron |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 1.79 km² |
Gerllaw | Môr Iwerddon |
Cyfesurynnau | 52.756955°N 4.791464°W |
Cod OS | SH122218 |
Cod post | LL53 |
Hyd | 1.6 cilometr |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru) |
AS/au | Liz Saville Roberts (Plaid Cymru) |
Statws treftadaeth | Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig |
Manylion | |
Ynys ar gwr gogleddol Bae Ceredigion sy'n gorwedd i'r gorllewin o benrhyn Llŷn, yng Ngwynedd, yw Ynys Enlli (Saesneg: Bardsey Island).
Rhaid croesi'r Swnt, sef y môr rhwng Aberdaron ac Enlli, i fynd i'r ynys.
Hanes
Sefydlwyd mynachlog ar Enlli yn y bumed ganrif gan Sant Cadfan. Dichon bod meudwyon clas Aberdaron yn croesi i'r ynys er mwyn ymneilltuo o'r byd yn yr oesoedd cynnar. Yn ystod yr Oesoedd Canol daeth yr ynys yn gyrchfan pererindota enwog. Roedd tair pererindod i Ynys Enlli yn cyfateb i un i Rufain. Yn ôl traddodiad mae ugain mil o saint wedi eu claddu yno. Yn ddiweddarach disodlwyd yr hen fynachlog Geltaidd gan Abaty'r Santes Fair, abaty Awstinaidd; mae olion yr hen abaty i'w gweld yno o hyd.
Gerallt Gymro
Galwodd Gerallt Gymro yn Nefyn ar ei daith trwy Gymru yn 1188. Dyma ei ddisgrifiad o'r ynys:
- 'Ond y mae'n gorwedd y tu draw i Lŷn ynys fechan y preswylia ynddi fynaich ffyddlon iawn eu crefydd, a alwant Coelibes ("gwŷr dibriod") neu Colidei ("addolwyr Duw"). Rhyfeddod a berthyn i'r ynys hon, naill ai oherwydd iachusrwydd yr awyr a dderbyn o'i chymdogaeth agos at Iwerddon, neu'n hytrach trwy ryw wyrth a haeddianau'r saint, yw bod y bobl hynaf ynddi yn marw gyntaf, gan mai'n brin iawn y ceir clefydon ynddi; ac yn anaml, heu nid o gwbl, y bydd neb farw yma, onid ar ôl nychdod hir henaint. Enlli, yn Gymraeg, y gelwir yr ynys hon, ac yn yr iaith Saesneg, Bardsey. Ac ynddi, yn ôl traddodiad, y mae cyrff dirifedi saint wedi eu claddu; a thystiant mai yno y gorwedd corff y gwynfydedig Ddaniel, esgob Bangor.'
Y goleudy
Codwyd goleudy ar bwynt deheuol yr ynys yn 1821. Mae'r goleudy o siâp sgwâr anghyffredin ac yn gant troedfedd o uchder. Fel yn achos Ynys Lawd, Joseph Nelson oedd y pensaer. Costiodd £2,950 i godi. Mae'r goleudy yn otomatig bellach ac yn cael ei redeg o ganolfan gwylio'r glannau Caergybi.
Adar
Mae Gwylfa Adar ar yr ynys, sy'n bwysig fel man nythu i nifer o rywogaethau, yn enwedig Aderyn-Drycin Manaw. Yn ystod y tymor mudo yn yr hydref gellir gweld adar anarferol iawn ar yr ynys.
Ymddiriedolaeth Ynys Enlli
Mae'r ynys yng ngofal Ymddiriedolaeth Ynys Enlli. Ceir fferm weithredol ar yr ynys o hyd ac mae hi'n boblogaidd gan ymwelwyr sy'n ceisio tawelwch. Ar dywydd braf gellir croesi'r Swnt iddi ar gychod sy'n hwylio o Aberdaron.
Afalau Ynys Enlli
Enlli yw cartref gwreiddiol Afalau Ynys Enlli, a elwir weithiau "yr afal mwyaf prin yn y byd". Credir i'r coed afalau gael eu tyfu yno aers y 14g gan y mynachod. Goroesoedd rhai enghreifftiau dros y canrifoedd ond ni chafodd ei hadnabod yn rhywogaeth arbennig tan 1998 pan anfonodd Ian Sturrock sampl i'r Casgliad Ffrwythau Cenedlaethol yn Brogdale, Caint. Mae coed Afalau Enlli ar werth mewn sawl man erbyn heddiw.
Oriel
-
885
Gweler hefyd
- A'u Bryd ar Ynys Enlli; cyfrol gan Enid Roberts
Llyfryddiaeth
- Thomas Jones (gol.), Gerallt Gymro (Caerdydd, 1938), t.126.
- Jennie Jones, Tomos o Enlli (Llyfrau'r Dryw, Llandybie, 1964). Atgofion difyr ac unigryw Tomos Jones, hen lanc chwech a phedwar ugain oed a aned ar yr ynys ac a dreuliodd ei oes yno, wedi ei godi oddi ar dafod-leferydd gan yr awdures.