Ystadegaeth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
BDim crynodeb golygu |
manion |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
[[Delwedd:Normal distribution and scales.gif|de|bawd|350px|Graff yn dangos cromlin y [[Dosraniad normal|ddosraniad normal]], fel y'i defnyddir mewn asesu [[addysg]]ol i gymharu amryw o ddulliau graddio. Dangosir ''gwahaniad safonol, canrannau cronus, cyfwerthau canrannol, sgorau-Z, sgorau-T, naw safonol,'' a ''chanran stanin.'']] |
[[Delwedd:Normal distribution and scales.gif|de|bawd|350px|Graff yn dangos cromlin y [[Dosraniad normal|ddosraniad normal]], fel y'i defnyddir mewn asesu [[addysg]]ol i gymharu amryw o ddulliau graddio. Dangosir ''gwahaniad safonol, canrannau cronus, cyfwerthau canrannol, sgorau-Z, sgorau-T, naw safonol,'' a ''chanran stanin.'']] |
||
Disgyblaeth [[Mathemateg|fathemategol]] |
Disgyblaeth [[Mathemateg|fathemategol]] yw '''ystadegaeth''' sy'n astudio ffyrdd o gasglu, crynhoi, dadansoddi, dod i gasgliadau a chyflwyno [[data]].<ref>Moses, Lincoln E. ''Think and Explain with statistics'', pp. 1 - 3. Addison-Wesley, 1986.</ref> Mae'n ddefnyddiol ar gyfer amrywiaeth lydan o [[Disgyblaeth academaidd|ddisgyblaethau academaidd]] o'r [[gwyddoniaeth|gwyddorau]] ffisegol a chymdeithasol i'r [[dyniaethau]], yn ogystal a [[busnes]], [[llywodraeth]], a [[diwydiant]]. |
||
Mae llawer o gysyniadau ystadegaeth yn dibynnu ar ddealltwriaeth o [[tebygolrwydd|debygolrwydd]], ac fe ddaw sawl term ystadegol o'r maes hwnnw, er enghraifft: ''poblogaeth'', ''sampl'' |
Mae llawer o gysyniadau ystadegaeth yn dibynnu ar ddealltwriaeth o [[tebygolrwydd|debygolrwydd]], ac fe ddaw sawl term ystadegol o'r maes hwnnw, er enghraifft: ''poblogaeth'', ''sampl'' ''thebygolrwydd''. |
||
⚫ | |||
⚫ | |||
⚫ | [[modelu|Modelir]] patrymau yn y data i dynnu casgliadau ynglŷn â'r boblogaeth ehangach, gan ddefnyddio '''[[ |
||
⚫ | [[modelu|Modelir]] patrymau yn y data i dynnu casgliadau ynglŷn â'r boblogaeth ehangach, gan ddefnyddio '''[[ystadegaeth gasgliadol]]''' i ddehongli [[hapder]] ac ansicrwydd y sefyllfa. Gall y casgliadau fod yn atebion i gwestiynau "ie/na" ([[profi rhagdybiaeth]]), [[amcangyfrif]] nodweddau rhifyddol, [[rhagweld]] yr arsylwadau sydd i ddod, disgrifiadau o gysylltiad, neu modelu perthynasau. |
||
⚫ | |||
⚫ | |||
== Gweler hefyd == |
== Gweler hefyd == |
Fersiwn yn ôl 07:16, 17 Ionawr 2019
Disgyblaeth fathemategol yw ystadegaeth sy'n astudio ffyrdd o gasglu, crynhoi, dadansoddi, dod i gasgliadau a chyflwyno data.[1] Mae'n ddefnyddiol ar gyfer amrywiaeth lydan o ddisgyblaethau academaidd o'r gwyddorau ffisegol a chymdeithasol i'r dyniaethau, yn ogystal a busnes, llywodraeth, a diwydiant.
Mae llawer o gysyniadau ystadegaeth yn dibynnu ar ddealltwriaeth o debygolrwydd, ac fe ddaw sawl term ystadegol o'r maes hwnnw, er enghraifft: poblogaeth, sampl thebygolrwydd.
Unwaith mae'r data wedi ei gasglu (trwy ddull samplu ffurfiol, neu drwy nodi canlyniadau rhyw arbrawf neu'i gilydd, neu drwy arsylwi rhyw broses drosodd a throsodd dros amser), gellir cynhyrchu crynhöadau rhifyddol gan ddefnyddio ystadegaeth ddisgrifiol.
Modelir patrymau yn y data i dynnu casgliadau ynglŷn â'r boblogaeth ehangach, gan ddefnyddio ystadegaeth gasgliadol i ddehongli hapder ac ansicrwydd y sefyllfa. Gall y casgliadau fod yn atebion i gwestiynau "ie/na" (profi rhagdybiaeth), amcangyfrif nodweddau rhifyddol, rhagweld yr arsylwadau sydd i ddod, disgrifiadau o gysylltiad, neu modelu perthynasau.
Ystadegaeth gymwysiedig yw'r uchod yn y bôn. O gymharu, mae ystadegaeth haniaethol yn is-ddisgybliaeth fathemategol sy'n defnyddio tebygolrwydd a dadansoddi i roi sylfaen theoretig, gadarn i ystadegaeth.
Gweler hefyd
Cyfeiriadau
- ↑ Moses, Lincoln E. Think and Explain with statistics, pp. 1 - 3. Addison-Wesley, 1986.