Graffiti: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS
Llinell 6: Llinell 6:

Gall graffiti gael ei ddefnyddio i gyfleu neges wleidyddol neu gymdeithasol (er enghraifft "''Do all you can, the English need the water''" mewn toiled cyhoeddus yng Nghymru - cyfeiriad at [[Capel Celyn|Gapel Celyn]]<ref>Nigel Rees, ''Graffiti lives OK'', 1979.</ref>), neu fel math o "hysbysebu" (mae nifer o [[giang]]iau cymdogaeth yn nodi eu tiriogaeth felly yn ninasoedd yr Unol Daleithiau, er enghraifft). Erbyn heddiw mae rhai mathau o graffiti yn cael eu hystyried yn weithiau [[celf]] modern, a gellir eu gweld mewn sawl arddangosfa ac amgueddfa ledled y byd.

i ba raddau y mau grym graffiti yn dibynnu ar y ffactor 'tabŵ'. Cawsant eu parchuso rhywfaint yn y blynyddoedd diwethaf gyda Banksey yn cyfuno eu "gwerth" fel celf gyda gwedd anhysbys cyrion cymdeithas. Yn ddiddorol hefyd mewn parciau sglefr-fyrddau ayb. comisiynwyd artistiaid graffiti i ddylunio graffiti "coeth" i geisio milwrio yn erbyn y graffiti go iawn trwy amddifadu lle iddynt.

==Mathau o graffiti==
==Mathau o graffiti==

Fersiwn yn ôl 09:27, 16 Ionawr 2019

Graffiti fel celf: "Miss Van y Ciou", Barcelona, Sbaen.
Graffiti gang yn Llanrug, Gwynedd.

Graffiti (o'r gair Eidaleg graffiti) yw delweddau neu ysgrifen a roddir ar arwynebau gweladwy cyhoeddus fel muriau a phontydd. Mae graffiti o ryw fath wedi bodoli ers cyfnodau cynnar iawn mewn hanes, e.e. yn Ngroeg yr Henfyd a'r Ymerodraeth Rufeinig. Yn bennaf mae graffiti yn rhoi llais i'r rhai sy'n teimlo'n ddi-lais, ond mae nhw hefyd yn gallu cyflawni amryw o weithrediafau sraill.

Yn aml mae'r graffiti cynharaf yn cymryd y ffurf o dorri enw neu neges ar garreg mewn mannau cyhoeddus (e.e. "Roeddwn i yma" ar golofn adeilad). Gyda threigliad amser mae graffiti wedi newid a heddiw ceir yr hyn a elwir yn "graffiti modern", sef creu graffiti ar arwyneb cyhoeddus gan ddefnyddio paentiau sbrae, pens marcer, a deunyddiau eraill. Pan greir graffiti o'r fath heb ganiatad y perchennog gellir ei ystyried yn fandaliaeth, sy'n drosedd yn y rhan fwyaf o wledydd y byd.

Gall graffiti gael ei ddefnyddio i gyfleu neges wleidyddol neu gymdeithasol (er enghraifft "Do all you can, the English need the water" mewn toiled cyhoeddus yng Nghymru - cyfeiriad at Gapel Celyn[1]), neu fel math o "hysbysebu" (mae nifer o giangiau cymdogaeth yn nodi eu tiriogaeth felly yn ninasoedd yr Unol Daleithiau, er enghraifft). Erbyn heddiw mae rhai mathau o graffiti yn cael eu hystyried yn weithiau celf modern, a gellir eu gweld mewn sawl arddangosfa ac amgueddfa ledled y byd.

i ba raddau y mau grym graffiti yn dibynnu ar y ffactor 'tabŵ'. Cawsant eu parchuso rhywfaint yn y blynyddoedd diwethaf gyda Banksey yn cyfuno eu "gwerth" fel celf gyda gwedd anhysbys cyrion cymdeithas. Yn ddiddorol hefyd mewn parciau sglefr-fyrddau ayb. comisiynwyd artistiaid graffiti i ddylunio graffiti "coeth" i geisio milwrio yn erbyn y graffiti go iawn trwy amddifadu lle iddynt.

Mathau o graffiti

  • y graffiti cyntaf

Y math hynaf mwyaf cyntefig o graffiti sydd wedi eu canfod yn ogofau y bobl gynharaf.

Gaffito o amlinelliad llaw wedi ei gerfio ar lechen gydag enw yn ei ganol ar ben wal yn Groeslon Uchaf, Waunfawr.
  • Graffiti marcio tiriogaeth

(gweler y cyflwyniad)

  • Graffiti creadigol

Mae natur di-enw graffiti yn codi'r cwestiwn 'i ba ddosbarth o gymdeithas mae graffitwyr yn perthyn' gan nad oes nemor neb yn fodlon cyfaddef iddynt (cymh. yr anhysbys Banksy). Mae'r graffito hwn yn syml, yn 'arbenigol' ac yn soffistogedig yr un pryd. Fe'i casglwyd mewn toiled yn swyddfeydd Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Bangor. Mae fel petai yn trafod pa rywogaeth o fadfall mae'n cynrychioli.

Graffito creadigol - manteisio ar ffurf pliciad o blastr
  • Graffiti 'ieithyddol':

Un o nodweddion llawer o graffiti Cymraeg eu hiaith yw eu tueddiad i chwarae ar eiriau a iaith, yn aml mewn ffordd wreiddiol iawn. Un o'r rhai cyntaf i wneud hyn yn amlwg i DB oedd ysgrifen mewn pensil ar wal toiled Eisteddfod Llangefni: "Ynys Môn, lle am dwrw a cwrw!". Ond daeth awdur-graffiti arall wedyn gyda'i feiro i gywiro'r c yn cwrw i'r treiglad llaes (cywirach), sef ch. Daeth trydydd graffitydd wedyn gyda phensil arall i ddylunio saeth yn pwyntio at yr c gyda'r gair gair "twpsyn"!

Dyma nifer o enghreifftiau eraill ar yr un thema ieithyddol:

Cywiro cam-dreigliad

Graffiti ‘ieithyddol’ Cymraeg - ‘cywiro’ treigliad

Cywiro cam-sillafiad

Graffito ‘ieithyddol’ (cywiro camsillafiad oedd yn fwriadol)

Chwarae ar eiriau

Graffito yn dangos chwarae ar eiriau trwy gyfnewid ‘dir’ a ‘din’ (Caernarfon) - enghraifft o glyfrwch ieithyddol y Cofis hyd yn oed yn genre y strydoedd cefn.
  • Cofnodi tywydd anarferol (yn hanesyddol).
Graffiti ym Mhen y Garret, Llanberis yn cofnodi tywydd anarferol

Tynwyd y llun hwn o graffiti gan chwarelwr ar wal Pen y Garret, chwarel Dinorwig yn cofnodi eira ar yr Wyddfa ym mis Mehefin yn 1956 (sylwer hefyd y cyfrifon ar dde uchaf y ddelwedd).

Meddai'r meteorolegydd Huw Holland Jones:

The weather map for 13 June 1956 shows a NW airstream right from north of Iceland. I would think therefore the report of snow on Snowdon to be genuine.... Snow on our hills in the first 2 weeks of June was not unusual pre- the 1980's.[2]
  • Graffiti gwleidyddol

Gweler y cyflwyniad. Mae'r graffito Cofia Dryweryn yn eiconig.

  • Graffiti rhywiol

Efallai y mwyaf cyffredin, yn cael nodweddu gan eiriau Sacsonaidd syml am yr organau rhywiol a dyluniadau amrwd ohonynt.

  • Graffiti hiraethus

Ar ynysoedd Erch, Yr Alban, bu heneb cyn-hanesyddol Maes Howe yn fan cysgodi i filwyr Scandinafaidd fil o flynyddoedd yn ôl. Gellir dychmygu eu diflastod wrth ymochel yno, wrth i un ohonynt gerfio ar y graig yn sgript y Rwniaid am ei hiraeth am ei gariad (enw Nordig).

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

  1. Nigel Rees, Graffiti lives OK, 1979.
  2. Bwletin Llên Natur rhif 22[1]
Chwiliwch am Graffiti
yn Wiciadur.
Eginyn erthygl sydd uchod am gelf. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.