Graffiti: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS |
Dim crynodeb golygu Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS |
||
Llinell 8: | Llinell 8: | ||
*Graffiti 'ieithyddol': |
*Graffiti 'ieithyddol': |
||
Un o nodweddion llawer o graffiti Cymraeg eu hiaith yw eu tueddiad i chwarae a geiriau a iaith, yn aml mewn ffordd wreiddiol iawn. Un o'r rhai cyntaf i wneud hyn yn amlwg i DB oedd ysgrifen mewn pensil ar wal toiled Eisteddfod Llangefni: "Ynys Môn, lle am dwrw a cwrw!". Ond daeth awdur-graffiti arall wedyn gyda'i feiro i gywiro'r ''c'' yn cwrw i'r treiglad llaes (cywirach), sef ''ch''. Daeth trydydd graffitydd wedyn gyda phensil arall i ddylunio saeth yn pwyntio at yr ''c'' gyda'r gair gair "twpsyn"! |
|||
Dyma nifer o enghreifftiau eraill ar yr un thema: |
|||
Cywiro cam-dreigliad |
Cywiro cam-dreigliad |
Fersiwn yn ôl 19:24, 15 Ionawr 2019
Graffiti (o'r gair Eidaleg graffiti) yw delweddau neu ysgrifen a roddir ar arwynebau gweladwy cyhoeddus fel muriau a phontydd. Mae graffiti o ryw fath wedi bodoli ers cyfnodau cynnar iawn mewn hanes, e.e. yn Ngroeg yr Henfyd a'r Ymerodraeth Rufeinig. Yn aml mae'r graffiti cynharaf yn cymryd y ffurf o dorri enw neu neges ar garreg mewn mannau cyhoeddus (e.e. "Roeddwn i yma" ar golofn adeilad). Gyda threigliad amser mae graffiti wedi newid a heddiw ceir yr hyn a elwir yn "graffiti modern", sef creu graffiti ar arwyneb cyhoeddus gan ddefnyddio paentiau sbrae, pens marcer, a deunyddiau eraill. Pan greir graffiti o'r fath heb ganiatad y perchennog gellir ei ystyried yn fandaliaeth, sy'n drosedd yn y rhan fwyaf o wledydd y byd.
Gall graffiti gael ei ddefnyddio i gyfleu neges wleidyddol neu gymdeithasol (er enghraifft "Do all you can, the English need the water" mewn toiled cyhoeddus yng Nghymru - cyfeiriad at Gapel Celyn[1]), neu fel math o "hysbysebu" (mae nifer o giangiau cymdogaeth yn nodi eu tiriogaeth felly yn ninasoedd yr Unol Daleithiau, er enghraifft). Erbyn heddiw mae rhai mathau o graffiti yn cael eu hystyried yn weithiau celf modern, a gellir eu gweld mewn sawl arddangosfa ac amgueddfa ledled y byd.
Graffiti Cymraeg
- Graffiti 'ieithyddol':
Un o nodweddion llawer o graffiti Cymraeg eu hiaith yw eu tueddiad i chwarae a geiriau a iaith, yn aml mewn ffordd wreiddiol iawn. Un o'r rhai cyntaf i wneud hyn yn amlwg i DB oedd ysgrifen mewn pensil ar wal toiled Eisteddfod Llangefni: "Ynys Môn, lle am dwrw a cwrw!". Ond daeth awdur-graffiti arall wedyn gyda'i feiro i gywiro'r c yn cwrw i'r treiglad llaes (cywirach), sef ch. Daeth trydydd graffitydd wedyn gyda phensil arall i ddylunio saeth yn pwyntio at yr c gyda'r gair gair "twpsyn"!
Dyma nifer o enghreifftiau eraill ar yr un thema:
Cywiro cam-dreigliad
Cywiro cam-sillafiad
Chwarae ar eiriau
- Cofnodi tywydd anarferol (yn hanesyddol).
Tynnodd Steve Roddick y llun hwn o graffiti gan chwarelwr ar wal Pen y Garret, chwarel Dinorwig yn cofnodi eira ar yr Wyddfa ym mis Mehefin.
Meddai'r meteorolegydd Huw Holland Jones:
- The weather map for 13 June 1956 shows a NW airstream right from north of Iceland. I would think therefore the report of snow on Snowdon to be genuine.... Snow on our hills in the first 2 weeks of June was not unusual pre- the 1980's.[2]