Graffiti: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS |
Dim crynodeb golygu Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS |
||
Llinell 6: | Llinell 6: | ||
==Graffiti Cymraeg== |
==Graffiti Cymraeg== |
||
*Graffiti 'ieithyddol': |
|||
Cywiro cam-dreigliad |
|||
[[File:Graffiti ‘ieithyddol’ Cymraeg - ‘cywiro’ treigliad.png|thumb|Graffiti ‘ieithyddol’ Cymraeg - ‘cywiro’ treigliad]] |
|||
Cywiro cam-sillafiad |
|||
[[File:Graffito ‘ieithyddol’ (cywiro camsillafiad oedd yn fwriadol).png|thumb|Graffito ‘ieithyddol’ (cywiro camsillafiad oedd yn fwriadol)]] |
|||
Chwarae ar eiriau |
|||
[[File:Graffito yn dangos chwarae ar eiriau trwy gyfnewid ‘dir’ a din (Caernarfon).jpg|thumb|Graffito yn dangos chwarae ar eiriau trwy gyfnewid ‘dir’ a ‘din’ (Caernarfon) - enghraifft o glyfrwch ieithyddol y Cofis hyd yn oed yn genre y strydoedd cefn.]] |
|||
*Cofnodi tywydd anarferol (yn hanesyddol). |
*Cofnodi tywydd anarferol (yn hanesyddol). |
||
[[File:Graffiti ym Mhen y Garret, Llanberis yn cofnodi tywydd anarferol.png|thumb|Graffiti ym Mhen y Garret, Llanberis yn cofnodi tywydd anarferol]] |
[[File:Graffiti ym Mhen y Garret, Llanberis yn cofnodi tywydd anarferol.png|thumb|Graffiti ym Mhen y Garret, Llanberis yn cofnodi tywydd anarferol]] |
Fersiwn yn ôl 18:21, 15 Ionawr 2019
Graffiti (o'r gair Eidaleg graffiti) yw delweddau neu ysgrifen a roddir ar arwynebau gweladwy cyhoeddus fel muriau a phontydd. Mae graffiti o ryw fath wedi bodoli ers cyfnodau cynnar iawn mewn hanes, e.e. yn Ngroeg yr Henfyd a'r Ymerodraeth Rufeinig. Yn aml mae'r graffiti cynharaf yn cymryd y ffurf o dorri enw neu neges ar garreg mewn mannau cyhoeddus (e.e. "Roeddwn i yma" ar golofn adeilad). Gyda threigliad amser mae graffiti wedi newid a heddiw ceir yr hyn a elwir yn "graffiti modern", sef creu graffiti ar arwyneb cyhoeddus gan ddefnyddio paentiau sbrae, pens marcer, a deunyddiau eraill. Pan greir graffiti o'r fath heb ganiatad y perchennog gellir ei ystyried yn fandaliaeth, sy'n drosedd yn y rhan fwyaf o wledydd y byd.
Gall graffiti gael ei ddefnyddio i gyfleu neges wleidyddol neu gymdeithasol (er enghraifft "Do all you can, the English need the water" mewn toiled cyhoeddus yng Nghymru - cyfeiriad at Gapel Celyn[1]), neu fel math o "hysbysebu" (mae nifer o giangiau cymdogaeth yn nodi eu tiriogaeth felly yn ninasoedd yr Unol Daleithiau, er enghraifft). Erbyn heddiw mae rhai mathau o graffiti yn cael eu hystyried yn weithiau celf modern, a gellir eu gweld mewn sawl arddangosfa ac amgueddfa ledled y byd.
Graffiti Cymraeg
- Graffiti 'ieithyddol':
Cywiro cam-dreigliad
Cywiro cam-sillafiad
Chwarae ar eiriau
- Cofnodi tywydd anarferol (yn hanesyddol).
Tynnodd Steve Roddick y llun hwn o graffiti gan chwarelwr ar wal Pen y Garret, chwarel Dinorwig yn cofnodi eira ar yr Wyddfa ym mis Mehefin.
Meddai'r meteorolegydd Huw Holland Jones:
- The weather map for 13 June 1956 shows a NW airstream right from north of Iceland. I would think therefore the report of snow on Snowdon to be genuine.... Snow on our hills in the first 2 weeks of June was not unusual pre- the 1980's.[2]