Morgrugyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS |
Dim crynodeb golygu Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS |
||
Llinell 41: | Llinell 41: | ||
*morgrug |
*morgrug |
||
:[*mor (gw. mŷr1, a cf. mor2)+crug] |
::[*mor (gw. mŷr1, a cf. mor2)+crug] |
||
e.ll. (un. g. morgrugyn) ll. dwbl morgrugion, morgrugiaid. |
e.ll. (un. g. morgrugyn) ll. dwbl morgrugion, morgrugiaid. |
||
:Swol. Pryfed bychain cymdeithasol o deulu’r Formicidæ sy’n byw gan amlaf mewn nythod dan y ddaear ac a nodweddir gan eu trefn a’u diwydrwydd, bywion, grugion, mywion, hefyd yn ffig.: |
:Swol. Pryfed bychain cymdeithasol o deulu’r Formicidæ sy’n byw gan amlaf mewn nythod dan y ddaear ac a nodweddir gan eu trefn a’u diwydrwydd, bywion, grugion, mywion, hefyd yn ffig.: |
||
ants, also fig. |
ants, also fig. |
||
Enghraifft gynharaf: |
:Enghraifft gynharaf: |
||
14g. WM 4698-10, deng milltir adeugeint y clywei y morgrugyn y bore pan gychwhynnei [sic] y ar lwth. |
::14g. WM 4698-10, deng milltir adeugeint y clywei y morgrugyn y bore pan gychwhynnei [sic] y ar lwth. |
||
Fersiwn yn ôl 13:26, 14 Ionawr 2019
Morgrug | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Arthropoda |
Dosbarth: | |
Urdd: | Hymenoptera |
Is-urdd: | Apocrita |
Uwchdeulu: | Vespoidea |
Teulu: | Formicidae Latreille, 1809 |
Is-deuluoedd | |
Agroecomyrmecinae |
Grŵp llwyddiannus iawn o bryfed yw morgrug. Mae 11,844 o rywogaethau ledled y byd, yn enwedig mewn hinsoddau poeth. Mae llawer o forgrug yn ffurfio cytrefi o filiynau o unigolion.
Enwau ac etymoleg
- morgrug
- [*mor (gw. mŷr1, a cf. mor2)+crug]
e.ll. (un. g. morgrugyn) ll. dwbl morgrugion, morgrugiaid.
- Swol. Pryfed bychain cymdeithasol o deulu’r Formicidæ sy’n byw gan amlaf mewn nythod dan y ddaear ac a nodweddir gan eu trefn a’u diwydrwydd, bywion, grugion, mywion, hefyd yn ffig.:
ants, also fig.
- Enghraifft gynharaf:
- 14g. WM 4698-10, deng milltir adeugeint y clywei y morgrugyn y bore pan gychwhynnei [sic] y ar lwth.
- mŷr,
- [H. Grn. menƿionen [?sic], gl. formica, Crn. Diw. mwrrian, H. Lyd. moriuon, Llyd. C. meryenenn, Llyd. Diw. merien, merienenn, Gwydd. C. moirb: o’r gwr. IE. *moru̯i- ‘morgrugyn’, cf. e. lle Lladin Prydain Morionio; dichon fod y ff. un. yn adff. o’r ll.] eb. ll. myrion (bach. g. myrionyn, b. myrionen). Morgrugyn: ant.[1]
Enghraifft gynharaf:
- 1632 D, morgrug … est potiùs Tuberculum formicarum, quod Dem. Myrdwyn, à Myr, Formicæ, & Twyn. Nam Mor & Myr est Formica. Pl. Morion, & Myrion.
Morgrug hedegog
Credir mai tywydd arbennig syth yn sbarduno i freninesau gymryd i'r awyr yn eu miloedd ddiwedd yr haf. Bydd gwylannod, wenoliaid ac adar eraill yn manteisio ar gyflenwad parod o fwyd. Dyma gofnod gan Gwyn Williams, Rhuthun:
- Rhuthun, 26 Gorffennaf 2010, am tua 7 o'r gloch ar noson drymaidd gweddol gynnes, penderfynodd trigolion cannoedd o nythod morgrug hedfan i'r awyr yn Rhuthun. Roedd 'na o leiaf 10 o nythod yn fy ngardd innau - i gyd yn arllwys morgrug adeiniog i'r awyr. Tybed sawl nyth sydd na yn Rhuthun i gyd? Rhai miloedd mae'n siŵr. [2]
Dyma ddyddiadau eraill hedfan morgrug (yn nhrefn amser) yn Nhywyddiadur Llên Natur (mae'n debyg mai'r morgrugyn melyn Lasius flavusoedd y rhan fwyaf ohonynt):
- Minehead 26 Medi 1946: Mr. A. V. Cornish saw Jackdaws hawking flying ants.
- Sidmouth, Dyfnaint; 13Awst1987: “pla, pawb yn sylwi”.
- Birmingham, 6 Awst 1988: cwyno mawr eu bod yn mynd i bobman.
- Harlech, 11Awst1988: Porthdinllaen. *4Medi1988. Trefor, Arfon.
- 12 Awst 199X; Cwmistir, Tudweiliog
- 19 Awst 1990. Ynys Enlli
- 28 Gorffennaf 1992. Waunfawr
- 24 Awst 1994 “yn blastar dros y lôn”. Foryd Caernarfon
- 29 Awst 1994. Pontrug 6 Awst 2002: ”criw mawr o wylanod penddu uwchben”.
- Waunfawr; 26 Gorffennaf 2006: “ar hyd y lonydd a'r ceir(wel,un car llwyd,nid ar un coch wrth ei ymyl!)”.
- Dulyn,24 Gorffennaf 2008: adroddiad radio o Iwerddon.
- Llansadwrn 28 Gorffenaf 2008: Overcast during the evening with flying ants emerging; last year they were seen here on 23 August..Soon eight or more large dragonflies were overhead picking them off, it was a spectacular flying display.[1] [3]
Sylwer mai ym mis Gorffennaf mae'r cofnodion diweddaraf.