Bara fflat: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 3: Llinell 3:
[[File:Fladenbrot.JPG|thumb|toes bara fflat yn gorffwys cyn cael eu pobi, Yr Aifft]]
[[File:Fladenbrot.JPG|thumb|toes bara fflat yn gorffwys cyn cael eu pobi, Yr Aifft]]
[[File:Fladenbrot1.JPG|bawd|Ffwrn bobi yn yr Aifft]]
[[File:Fladenbrot1.JPG|bawd|Ffwrn bobi yn yr Aifft]]
Mae '''bara fflat''' yn [[bara|fara]] syml, os nad y baraf mwyaf elfennol. Mae'n cynnwys [[blawd]] [[ŷd]] fel [[gwenith]], [[halen]] a [[dŵr]] ac yn aml heb [[burum|furum]]. Gelwir bara heb furum yn [[bara croyw|fara croyw neu fara cri]] (ac er bod bara fflat fel arfer heb furum, nid dyna'r sefyllfa bod tro). Un math o fara fflat yw [[bara pita]] sy'n cynnwys rhywfaint o furum. Gan fod [[toes]] bara fflat yn codi ond ychydig yn unig, mae'n cael ei [[pobi|bobi]] bron fel crempog tenau - dim ond milimetrau o drwch drwchus sydd i'r bara gorffenedig.
Mae '''bara fflat''' yn [[bara|fara]] syml, os nad y baraf mwyaf elfennol. Mae'n cynnwys [[blawd]] [[ŷd]] fel [[gwenith]], [[halen]] a [[dŵr]] ac yn aml heb [[burum|furum]]. Gelwir bara heb furum yn [[bara croyw|fara croyw]] neu [[bara croyw|fara crai]] neu [[bara croyw|bara dilefain]] (ac er bod bara fflat fel arfer heb furum, nid dyna'r sefyllfa bod tro). Un math o fara fflat yw [[bara pita]] sy'n cynnwys rhywfaint o furum. Gan fod [[toes]] bara fflat yn codi ond ychydig yn unig, mae'n cael ei [[pobi|bobi]] bron fel crempog tenau - dim ond milimetrau o drwch drwchus sydd i'r bara gorffenedig.


Gellir cynnwys cynhwysion eraill unai wrth bobi'r bara neu wedi gwneud. Er enghraifft [[winwns]], hadau, [[cnau]], powdwr [[tsili]], [[llysiau'r bara]], [[pupur]].
Gellir cynnwys cynhwysion eraill unai wrth bobi'r bara neu wedi gwneud. Er enghraifft [[winwns]], hadau, [[cnau]], powdwr [[tsili]], [[llysiau'r bara]], [[pupur]].

Fersiwn yn ôl 12:43, 13 Ionawr 2019

Yufka Twrcaidd
Yufka Twrcaidd
Bara fflat yn pobi o flaen tân agored, ar sac
toes bara fflat yn gorffwys cyn cael eu pobi, Yr Aifft
Ffwrn bobi yn yr Aifft

Mae bara fflat yn fara syml, os nad y baraf mwyaf elfennol. Mae'n cynnwys blawd ŷd fel gwenith, halen a dŵr ac yn aml heb furum. Gelwir bara heb furum yn fara croyw neu fara crai neu bara dilefain (ac er bod bara fflat fel arfer heb furum, nid dyna'r sefyllfa bod tro). Un math o fara fflat yw bara pita sy'n cynnwys rhywfaint o furum. Gan fod toes bara fflat yn codi ond ychydig yn unig, mae'n cael ei bobi bron fel crempog tenau - dim ond milimetrau o drwch drwchus sydd i'r bara gorffenedig.

Gellir cynnwys cynhwysion eraill unai wrth bobi'r bara neu wedi gwneud. Er enghraifft winwns, hadau, cnau, powdwr tsili, llysiau'r bara, pupur.

Hanes

Y bara fflat yw'r cam cynharaf o ddatblygiad y bara ac mae'n deillio'n uniongyrchol o rysáit y grawnfwyd hynaf, sef, uwd - un o brydau pwysicaf ers dechrau amaethyddiaeth. Roedd yr Aifftiaid a'r Swmeriaid yn gyfarwydd â coginio math o fara fflat, hynny yw, uwd wedi'u pobi o garreg, o leiaf ers y 5ed mileniwm cyn Crist. Yn 2018 darganfuwyd briwsio bara wedi eu rhan-losgi mewn safle o gyfnod diwylliant y Natwffi ('Natufian') a elwir yn Shubayqa 1, yn Harrat ash Sham yn yr Anialwch Ddu yng Ngwlad yr Iorddonen yn dyddio'n ôl i 14,400 CC, sef 4,000 o flynyddoedd cyn cychwyn amaethyddiaeth yn y rhanbarth. Dadansoddwyd bod y bara fflat wedi ei wneud, mwy na thebyg, â barlys gwyllt, ŷd 'einkorn', ceirch a Bolboschoenus glaucus sef math o diwber (tuber).[1][2]

Gwyddys a bwyteir bara fflat ym mhob cwr o'r byd, ac mae'n yn dal i fod y ffordd fwyaf cyffredin o baratoi bara hyd heddiw.

Nodweddion Rhanbarthol

Pane carasau o Sardinia

Yn India a Phacistan, ceir bara fflat (a elwir yn roti) mewn sawl amrywiaeth, megis yn feddwl a thrwchus fel y bara nân neu naan; popadom papur-denau; chipati tenau a fwyteir mewn bwytai Indiaidd yng Nghymru (ystyd "nân" yw bara mewn Persieg نان, wrth archebu "bara nân" rydym yn gofyn am bara bara!). Ceir hefyd y paratha menynog; y puri gyda blawn grawn cyflawn. Ym Malaysia ceir bara fflat Roti Canai.

<ae bara fflat Arabaidd, y chubz fel arfer yn denau ac yn cynnwys ond cwstyn uchaf ac isaf. Gellir eu hagor felly fel cwdyn â'u llenwi â chig neu lysiau i'w bwyta. Fel rheol ychwanegi pinsied o halen fel fod y burum yn chwyddo'n well.

Yn Iran a Thwrci, pobir y bara mewn ffwrn o gerrig poethion [1]. Ceir bara tenau lavash (gelwir hefyd yn yufka mewn Twrceg) a bara fflat tewach gyda burum o'r enw pide yn Nhwrci.

Ceir amrywiaeth o'r bara yma yng Ngwlad Groeg ond sydd ychydig yn denheuach a gelwir hi'n fara pita. Mae'r ffilo o Wlad Groeg hefyd yn debyg i'r bara yufka Twrceg. Daw'r gair "filo" o'r Groeg φύλλο = "deilen" (sillefir hefyd yn fillo neu fyllo yn Saesneg) neu'r malsoukayng Ngogledd Affrica . Ceir amwyriaethau arbenigol ar y bara yma megis, spanakopita , galaktoboureko neu brik sef dymplings wedi eu ffrio mewn gwledydd fel Twnisia.

Yn Israel, bara pita yw'r bara mwyaf poblogaidd. Mae'r matze yn fath o bara fflat neu fara croyw arbennig a ddefnyddir ar gyfer gŵyl Pesach yr Iddewon; o'r bara yma y daw bara cymun.

Yn yr Eidal o'r bara focaccia y datbygodd y pizza enwog ac rhanbarth Romagna ceir bara fflat y piadina. Yn ardal mynyddoedd yr Alpau yng ngogledd y wladwriaeth ceir tyrth Almaenig y Schüttelbrot a'r Vinschgauer.

Pobir y podpłomyk yng Ngwlad Pwyl sy'n fara syml gall hefyd gael ei gorchuddio gyda bwydydd neu flasau eraill.

Ceir tunnbröd yn Sweden sy'n fara caled. Yng Ngwlad yr Iâ ceir dau fath o fara fflat: y laufabrauð ("bara deilen", bara collddail"), a breir wrth ffrio mewn braster dafad ac a fwytir adeg y Nadolig. Mae'n fara brai a chaled fel creision ac addurnir hi â phatrymau cain. Y bara fflat arall yw: flatbrauð sy'n fara amrwd a ddefnyddir yn aml ar gyfer brachdannau. Yn Norwy ceir gwahaniaeth rhwng lefts, bara meddal crempogllyd a'r flatbrød sy'n denau a brai.

Mae pobl y Sámi yn draddodiadol yn cynhyrchu bara fflat meddal o'r enw gáhkko a gresir yng ngwres tân agored.

Yn yr Amerig, mae bara fflat tenau y tortilla sydd wedi eu gwneud y corn neu yd bellach yn fyd-enwog ac yn boblogaidd iawn yng Nghymru mewn bwytau neu fel bwyd archfarchnadoedd gyda bwydydd Mecsiacanaidd.

Bwyri bara fflat meddal injera yn Ethiopia a ddefnyddir fel ffordd o fwyta pryd o fwyd, gyda'r bara fflat yn gweithredu fel fforc neu gadach bwytadwy wrth gasglu'r bwyd ynghyd i'w fwyta.

Gwneir yr hallulla yn Chile sy'n fara fflat crwn gwyn o flawd gwenith, burum, llaeth, dŵr, halen a menyn.

Bara Fflat

Ceir sawl bopty a bwyty yng Nghymru bellach sy'n pobi bara fflat fel rhan o'i darpariaeth. Yn ei plith mae bwyty Baravin yn Aberystwyth sy'n arbenigo mewn pizza pobi ar y safle ac yn cynnig bara fflat gyda halen a pherlysiau fel byr-bryd. Ceir hefyd Becws yn Aberteifi sy'n pobi ei bara amrywiol ei hunain.

Dolenni

Cyfeiriadau