Llandarcy: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Thaf (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Thaf (sgwrs | cyfraniadau)
B Trefi CNPT
Llinell 22: Llinell 22:
*[http://www.princes-foundation.org/index.php?id=171 Coed Darcy Urban Village]
*[http://www.princes-foundation.org/index.php?id=171 Coed Darcy Urban Village]
*[http://www.geograph.org.uk/search.php?i=3221625 www.geograph.co.uk : lluniau Llandarcy a'r ardal cyfagos]
*[http://www.geograph.org.uk/search.php?i=3221625 www.geograph.co.uk : lluniau Llandarcy a'r ardal cyfagos]

{{Trefi CNPT}}


[[Categori:Pentrefi Castell-nedd Port Talbot]]
[[Categori:Pentrefi Castell-nedd Port Talbot]]

Fersiwn yn ôl 13:22, 19 Chwefror 2010

Llandarcy

Pentref ger Castell-nedd ym mwrdeistref sirol Castell-nedd Port Talbot yw Llandarcy, a chyn-safle purfa olew cyntaf y Deyrnas Unedig. Safai'r pentref ger cyffordd 43 yr M4. Cyllunwyd yn wreiddiol fel tref newydd i gartrefu gweithwyr y purfa a adeiladwyd gan gwmni BP rhwng 1918 ac 1922.[1]

Hanes

Dewiswyd Llandarcy fel safle'r burfa olew oherwydd ei agosatrwydd â Phorthladd Abertawe, i le cafodd olew crai ei gludo dros y môr o'r Dwyrain Canol. Cafodd y safle ei ddifrodi gan fomio Luftwaffe ym 1940.[2] Ar ei bwynt uchaf, roedd y burfa'n gyflogwr o bwys yn ne-orllewin Cymru, gyda dros 2600 o weithwyr.[3] Ond, roedd hefyd yn gyfrifol am lygredd diwydiannol yng Nghors Crymlyn gerllaw, ardal a ddynodwyd fel Lleoliad Diddorbed Wyddonol Arbennig.[4] Cafodd graddfa'r gweithgareddau ar y safleu eu lleihau'n raddol dros y blynyddoedd, a caewyd y safle ym 1998.[5]

Enwyd y pentref ar ôl William Knox D'Arcy (cyfarwyddwr a sefydlodd y cwmni olew Anglo-Persian, rhagflaenydd BP), ac adeiladwyd tua 250 o dai allan o gerrig ynghyd a chanolfan gymunedol a siop leol.

Roedd y pentref yn leoliad llofruddiaeth y merched ysgol Pauline Floyd, Geraldine Hughes a Sandra Newton ym 1973. Arhosodd eu llofruddiwr yn anwybyddus am 29 mlynedd, tan 2002, pan gymerwyd tystiolaeth DNA gan Heddlu De Cymru o fedd Joe Kappen, a weithiodd fel dyn drws, gyrrwr loriau a bysiau. Bu farw Kappen o gancr yr ysgyfaint ar 17 Mehefin 1990, yn 49 oedd, ac aeth a'i gyfrinach gydag ef i'w fedd.[6]

Chwaraeon a hamdden

Rhedodd gwmni BP hefyd glwb chwaraeon a hamdden. Yn dilyn cau'r burfa, prynwyd y ganolfan gan gwmni Llandarcy Park Ltd, a ail-ddatblygodd y safle gyda chlwb heini a iechyd newydd, gwesty a bwyty.[7] Mae Llandarcy yn gartref i'r Glamorgan Health & Racquets Club, sydd â ystod o gyfleusterau chwaraeon allanol a dan do,[8] ac Academi Chwaraeon Llandarcy, sydd â un o'r unig ddau faes ymarfer gwair dan do yng Nghymru.[9]

Ail-ddatblygiad

Defnyddwyd y tir a oedd heb ei ddefnyddio wedi lleihau'r burfa, ar gyfer nifer o whanol bethau. Adeiladwyd swyddfeydd newydd ardalol ar gyfer Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru a datblygwyd y tir ger yr hen fynedfa i'r burfa ger yr M4 yn barc busnes.[10] Mae gweddill y tir brownfield lle lleolwyd y burfa hefyd yn cael ei ail-ddatblygu'n bentref newydd, sef Coed Darcy. Mae gan Ymddiriodolaeth y Tywysog ddiddordeb yn y cynllun, sy'n ceisio ei ddatblygu fel "Pentref Trefol", yn yr un modd a datblygwyd pentref Poundbury yn Dorset.[11]

Cyfeiriadau

Dolenni allanol