Jalal al-Din Muhammad Rumi: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
TXiKiBoT (sgwrs | cyfraniadau) B robot yn ychwanegu: war:Rumi |
B robot yn newid: fr:Djalâl ad-Dîn Rûmî |
||
Llinell 38: | Llinell 38: | ||
[[fa:جلالالدین محمد بلخی]] |
[[fa:جلالالدین محمد بلخی]] |
||
[[fi:Jalal ad-Din Muhammad Balkhi-Rumi]] |
[[fi:Jalal ad-Din Muhammad Balkhi-Rumi]] |
||
[[fr: |
[[fr:Djalâl ad-Dîn Rûmî]] |
||
[[fy:Tjelal ed-Din Rûmy]] |
[[fy:Tjelal ed-Din Rûmy]] |
||
[[gan:努眉]] |
[[gan:努眉]] |
Fersiwn yn ôl 22:33, 17 Chwefror 2010
Bardd telynegol a chyfrinydd oedd Jalal al-Din Muhammad Rumi neu Jalaluddin Rumi (Perseg: مولانا جلال الدین محمد رومی , Twrceg: Mevlânâ Celâleddin Mehmed Rumi) ) (Rumi: Mohammed Ibn Mohammed, 1207 - 1273), a aned yn Balkh ym Mhersia Fawr (rhan o Affganistan heddiw). Cafodd y llysenw 'Rumi' ("Rhufeinig") am ei fod yn byw am y rhan fwyaf o'i oes mewn rhan o Asia Leiaf a oedd yn dal i fod dan reolaeth yr Ymerodraeth Fysantaidd ar y pryd. Ei enw poblogaidd yn Nhwrci yw Mevlana.
Ymsefydlodd Rumi yn ninas Iconium (Konya heddiw) yn Twrci yn 1226 a sefydlu enwad newydd a adnabyddir heddiw fel y "Derfishiaid Chwyrlïol".
Fel llenor yn yr iaith Berseg cyfansoddai nifer o gerddi telynegol, cyfriniol eu naws, a geir yn y casgliad Divani Shamsi Tabriz. Mae'r rhan fwyaf ar ffurf ghazalau (math o ganeuon serch) i'w feistr cyfriniol Shamsi Tabriz ("Haul Tabriz"); telynegau am gariad wedi'i drawsnewid yn gariad dwyfol ydynt. Ysgrifennodd yn ogystal arwrgerdd ar ddysgeidiaeth y Swffiaid, Masnavi y ma' navi.
Mae ei goleg (medresa) a'i feddrod i'w gweld yn ninas Konya ac yn ganolfan pererindod hyd heddiw.