Richard Davies: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Robbot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn newid: en:Richard Davies (bishop)
Llinell 12: Llinell 12:
*D.R. Thomas, ''The Life and Work of Richard Davies and William Salesbury'' (Croesoswallt, 1902)
*D.R. Thomas, ''The Life and Work of Richard Davies and William Salesbury'' (Croesoswallt, 1902)



[[Categori:Llenorion Cymraeg|Davies, Richard]]
[[Categori:Y Beibl Cymraeg|Davies, Richard]]
{{DEFAULTSORT:Davies, Richard}}
[[Categori:Cristnogaeth yng Nghymru|Davies, Richard]]
[[Categori:Genedigaethau 1501]]
[[Categori:Esgobion Tyddewi|Davies, Richard]]
[[Categori:Marwolaethau 1581]]
[[Categori:Esgobion Llanelwy|Davies, Richard]]
[[Categori:Cristnogaeth yng Nghymru]]
[[Categori:Pobl o Ddyffryn Conwy|Davies, Richard]]
[[Categori:Esgobion Tyddewi]]
[[Categori:Genedigaethau 1501|Davies, Richard]]
[[Categori:Esgobion Llanelwy]]
[[Categori:Marwolaethau 1581|Davies, Richard]]
[[Categori:Llenorion Cymraeg]]
[[Categori:Y Beibl Cymraeg]]
[[Categori:Pobl o Gonwy]]


[[en:Richard Davies (bishop)]]
[[en:Richard Davies (bishop)]]

Fersiwn yn ôl 00:00, 16 Chwefror 2010

Am enghreifftiau eraill o bobl o'r enw Richard Davies, gweler Richard Davies (gwahaniaethu).

Esgob a chyfieithydd oedd Richard Davies (?1501 - 7 Tachwedd 1581), a aned yn y Gyffin, ger tref Conwy. Yn ystod ei yrfa egwlwysig bu'n esgob Llanelwy a Tyddewi. Fe'i cofir yn bennaf am ei waith ar y cyd â William Salesbury yn cyfieithu'r Testament Newydd i'r Gymraeg. Roedd yn ewythr i'r ysgolhaig Siôn Dafydd Rhys (John Davies).

Cafodd ei addysg ym Mhrifysgol Rhydychen lle daeth dan ddylanwad y diwygwyr Protestannaidd. Ar ôl treulio cyfnod mewn alltudiaeth yn ninas Frankfurt yn yr Almaen oherwydd ei ffydd ar ddiwedd teyrnasiad Mair I o'r Alban, dychwelodd i Gymru a chafodd ei apwyntio'n esgob Llanelwy ac yna yn 1561 yn esgob Tyddewi.

Gweithiai'n ddyfal gyda William Salesbury i berswadio senedd San Steffan i basio deddf i awdurdodi cyfieithu'r Beibl a'r Llyfr Gweddi Gyffredin i'r Gymraeg a phan gafwyd y ddeddf honno yn 1563 ymunodd â Salesbury yn ei blas yn Abergwili i gyfieithu'r Testament Newydd gyda fo. Richard Davies yw awdur yr Epistol at y Cembru ('Llythyr at y Cymry') a geir ar ddechrau Testament Newydd 1567; cafodd ddylanwad mawr ar hanesyddiaeth Cymru.

Roedd Richard Davies yn noddwr hael i feirdd a llenorion ei oes a gwnaeth gryn dipyn i gael gwared â'r llygredd oedd yn rhemp yn yr eglwys ar y pryd.

Llyfryddiaeth

  • D.R. Thomas, The Life and Work of Richard Davies and William Salesbury (Croesoswallt, 1902)