Thomas Wiliems: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
cat
Llinell 11: Llinell 11:
* Rhagymadrodd Thomas Wiliems i'w eiriadur. Yn: ''Rhyddiaith Gymraeg: Y gyfrol gyntaf, Detholion o Lawysgrifau 1488–1609'', gol. T. H. Parry Williams (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1954).
* Rhagymadrodd Thomas Wiliems i'w eiriadur. Yn: ''Rhyddiaith Gymraeg: Y gyfrol gyntaf, Detholion o Lawysgrifau 1488–1609'', gol. T. H. Parry Williams (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1954).



[[Categori:Geiriadurwyr Cymraeg|Wiliems, Thomas]]
[[Categori:Ysgolheigion Cymraeg|Wiliems, Thomas]]
{{DEFAULTSORT:Wiliems, Thomas}}
[[Categori:Hynafiaethwyr Cymreig|Wiliems, Thomas]]
[[Categori:Marwolaethau 1622]]
[[Categori:Pobl o Ddyffryn Conwy|Wilems, Thomas]]
[[Categori:Geiriadurwyr Cymraeg]]
[[Categori:Marwolaethau 1622|Wiliems, Thomas]]
[[Categori:Hynafiaethwyr Cymreig]]
[[Categori:Ysgolheigion Cymraeg]]
[[Categori:Pobl o Ddyffryn Conwy]]
[[Categori:Pobl o Gonwy]]

Fersiwn yn ôl 23:49, 15 Chwefror 2010

Geiriadurwr Cymraeg a hynafiaethydd brwd oedd Thomas Wiliems (1545 neu 1546 - 1622). Fe'i magwyd ym mhlwyf Trefriw, Arllechwedd Isaf, Sir Gaernarfon, cyn mynychu Prifysgol Rhydychen am adeg. Fe'i ordeiniwyd yn offeiriad Anglicanaidd, gan wasanaethu fel curad yn Nhrefriw tua 1573.

Ymddiddorai Thomas Wiliems yn fawr mewn hen lawysgrifau Cymraeg. Bu'n gyfrifol am gopïo nifer fawr ohonynt, gan gynnwys achau, gweithiau hanesyddol, gramadegau a gweithiau ieithyddol eraill.

Mae'n fwyaf adnabyddus am lunio geiriadur Lladin–Cymraeg (Peniarth 228), a gwplhawyd ym 1607, ac sy'n cynnwys rhestr o eiriau Cymraeg yn ôl trefn yr wyddor gydag enghreifftiau ohonynt o waith y beirdd. Teitl y geiriadur oedd Thesaurus Linguæ Latinæ et Cambrobritannicæ neu Trysawr yr iaith Latin ar Gymraec, ne’r Geiriadur cywoethocaf a helæthaf or wir dhiletiaith Vrytanæc, sef heniaith a chyphredin iaith ynys Brydain, ar Latin yn cyfateb pob gair. Wedy dechreu i scriuenu 4. Maij 1604. Seilir y geiriadur ar waith Thomas Thomas, printiwr cyntaf Prifysgol Caergrawnt, Dictionarium Linguae Latinae et Anglicanae, a dywed yn y rhagymadrodd iddo dreulio 30 o flynyddoedd i gaslgu'r deunydd. Ei nod wrth lunio'r geiriadur oedd 'i wneuthur yr eithaf o'm galhu dros vy ngwlat ag iaith naturiawl vy mam, a'm hanwylgu gereint yn holh Gymru' ac 'y gadw'r iaith einom … yn dragyvyth', ac mae'n beirniadu rhai o'i gydwladwyr am beidio â chynorthwyo ei waith ac am wrthod siarad Cymraeg wrth ei gilydd. Mae ychwanegiadau ganddo yn ei lawysgrifau yn awgrymu iddo fod wedi troi i Gatholigiaeth. Mae'n dyfynnu allan o weithiau Pabyddol wrth lunio ei eiriadur, heb ddefnyddio'r Beibl Protestannaidd Cymraeg. Ni chyhoeddwyd y geiriadur yn ystod ei oes, ond gwelodd olau dydd mewn ffurf dalfyredig fel rhan o eiriadur John Davies (Dictionarium duplex) ym 1632.

Cyfeiriwyd ato gan ei gydoeswyr fel Syr Thomas Wiliems, nid am iddo gael ei ddyrchafu felly ond am fod offeiriaid y cyfnod yn arfer ymarddel y teitl hwn. Bu farw cyn 13 Awst 1623, pryd ysgrifennodd Syr John Wynn o Wydir ei enw ar lawysgrif y geiriadur fel ei pherchennog.

Ffynonellau

  • Williams, J. E. Caerwyn. Thomas Wiliems, Y Geiriadurwr. Studia Celtica 16/17 (1981/2): 280-316.
  • Rhagymadrodd Thomas Wiliems i'w eiriadur. Yn: Rhyddiaith Gymraeg: Y gyfrol gyntaf, Detholion o Lawysgrifau 1488–1609, gol. T. H. Parry Williams (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1954).