Llanfair Pwllgwyngyll: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Luke~cywiki (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
JAnDbot (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 45: Llinell 45:
[[fr:Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogoch]]
[[fr:Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogoch]]
[[fy:Llanfair PG]]
[[fy:Llanfair PG]]
[[hi:ख़्लानवाइरपुख़्लग्विनगिख़्लगोगेरअख़्वर्नड्रोबुख़्लख़्लानटिसिल्योगोगोगोख़]]
[[hr:Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogoch]]
[[hr:Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogoch]]
[[hu:Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogoch]]
[[hu:Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogoch]]

Fersiwn yn ôl 08:51, 15 Chwefror 2010

Llanfairpwll
Ynys Môn

Pentref a chymuned ar Ynys Môn yw Llanfair Pwllgwyngyll (neu Llanfairpwllgwyngyll; Llanfairpwll ar lafar yn lleol). Fe'i lleolir ar ffordd yr A5 tua 3 milltir i'r gorllewin o Borthaethwy.

Yr enw

Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogoch yw enw gwneud y pentref. Ei enw gwreiddiol oedd Llanfair Pwllgwyngyll ond fe'i estynnwyd gan ddyn lleol yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ar ôl i'r rheilffordd gyrraedd yr ynys (1846-1850) i geisio denu twristiaid. Yn ôl Syr John Morris-Jones, teiliwr lleol a ddyfeisiodd yr enw, ond nid yw'n ei enwi. Dyma'r enw hiraf yng Nghymru, a'r trydydd hiraf yn y byd. Does fawr neb ond y Bwrdd Croeso yn defnyddio'r enw hir. Fel arfer mae'r pentref yn cael ei alw yn Llanfairpwll (gan siaradwyr Cymraeg) neu Llanfair PG (gan siaradwyr Saesneg). Pwllgwyngyll oedd enw'r dreflan ganoloesol lle safai'r eglwys yn yr Oesoedd Canol (pwll + yr ansoddair gwyn + coed cyll). Cyfeiria 'Llantysilio' at blwyf eglwysig Llandysilio.

Hanes

Yn yr Oesoedd Canol roedd plwyf (Llanfair) Pwllgwyngyll yn rhan o gwmwd Dindaethwy, yng nghantref Menai.

Yn y pentref hwn y dechreuodd mudiad y Women's Institute yn 1915.

Y pentref

Twristiaid tu allan i'r orsaf yn Llanfairpwll

Mae gorsaf reilffordd yma, ar Reilffordd Arfordir Gogledd Cymru, ond mae mwyafrif y trenau yn mynd trwyddo i Gaergybi neu i Fangor heb aros.

Gweler hefyd

Arwydd efo cyfieithiad Saesneg yr enw
Arwydd efo cyfieithiad Saesneg yr enw