Sisili: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
TXiKiBoT (sgwrs | cyfraniadau)
SieBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: arz:سيسيليا
Llinell 51: Llinell 51:
[[ang:Sicilia]]
[[ang:Sicilia]]
[[ar:صقلية]]
[[ar:صقلية]]
[[arz:سيسيليا]]
[[ast:Sicilia]]
[[ast:Sicilia]]
[[az:Siciliya]]
[[az:Siciliya]]

Fersiwn yn ôl 18:33, 14 Chwefror 2010

Nodyn:Gwybodlen Rhanbarthau'r Eidal Ynys yng nghanol y Môr Canoldir a rhanbarth o'r Eidal yw Sicilia (hefyd Sisili neu Sicily) (Eidaleg a Sisilieg Sicilia). Mae Culfor Messina yn gorwedd rhwng yr ynys a'r tir mawr. Ei harwynebedd tir, gan gynnwys y mân ynysoedd, yw 25,710 km² (9927 milltir²). Y brifddinas yw Palermo.

Daearyddiaeth

Sisili yw'r ynys fwyaf yn y Môr Canoldir. Gyda'r ynysoedd llai oddi amgylch (Ynysoedd Égadi ac Ynysoedd Lipari yw'r ddau grŵp mwyaf) mae'n rhanbarth hunanlywodraethol yn yr Eidal. Mae'r ynys yn fynyddig iawn, gan godi i 1800m ym Mynydd Etna.

Hanes

Ymsefydlai'r Groegiaid ar yr ynys o'r 8fed ganrif CC ymlaen. Meddianwyd rhan o'r ynys gan y Carthaginiaid yn fuan ar ôl hynny a bu cryn ymrafael rhwng y ddwy blaid am rai canrifoedd. Fe'i meddianwyd gan y Rhufeiniaid yn ail hanner y drydedd ganrif CC ac erbyn 211 CC roedd yn dalaith Rufeinig.

Goresgynwyd yr ynys gan yr Arabiaid yn y 9fed ganrif a datblygodd diwylliant hybrid unigryw ar yr ynys. Yn 1060 cyrhaeddodd y Normaniaid a meddianwyd yr ynys ganddynt yn eu tro. Yn 1266 coronwyd Siarl I, brenin Napoli a Sisili yn frenin Angevinaidd cyntaf Sisili. Cwnwerwyd yr ynys gan deyrnas Aragon yn 1284 yn sgîl Cyflafan y Gosber Sisiliaidd.

Creuwyd Teyrnas y Ddwy Sisili yn 1815 gan Ferdinand I o Awstria a Hwngari. Cipiodd Garibaldi yr ynys yn 1860 ac unwyd Sisili â gweddill yr Eidal. Am flynyddoedd bu hanes yr ynys yn ansefydlog a llawn tensiynau cymdeithasol oherwydd cyflwr economaidd y wlad, tlodi a grym y Maffia a cheidwadwyr eglwysig. Ymfudodd nifer fawr o Sisiliaid tlawd i'r Unol Daleithiau oherwydd hynny.

Sicilia o'r gofod
Taleithiau Sicilia

Economi

Erbyn heddiw mae economi yr ynys yn bur ffynnianus. Un o'r diwydiannau mwyaf yw twristiaeth.

Cysylltiad Allanol

Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol