Rhyfel y Cynghreiriaid: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn newid: ko:동맹시 전쟁; cosmetic changes
Llinell 1: Llinell 1:
[[Delwedd:Denarius-Marsic Federation-Syd 627-1-.jpg|bawd|230px|Denarius a fathwyd gan y cyngheiriaid yn ystod Rhyfel y Cyngheiriaid]]
[[Delwedd:Denarius-Marsic Federation-Syd 627-1-.jpg|ewin bawd|230px|Denarius a fathwyd gan y cyngheiriaid yn ystod Rhyfel y Cyngheiriaid]]


Rhyfel a ymladdwyd yn [[yr Eidal]] rhwng [[91 CC]] a [[88 CC]] oedd '''Rhyfel y Cyngheiriaid''' ([[Lladin]]: ''Bellum soci(or)um'' neu ''Marsicum bellum''). Ymladdwyd y rhyfel rhwng [[Gweriniaeth Rhufain]] ar un ochr a nifer o bobloedd eraill yr Eidal oedd wedi bod mewn cynghrair a Rhufain ar yr ochr arall.
Rhyfel a ymladdwyd yn [[yr Eidal]] rhwng [[91 CC]] a [[88 CC]] oedd '''Rhyfel y Cyngheiriaid''' ([[Lladin]]: ''Bellum soci(or)um'' neu ''Marsicum bellum''). Ymladdwyd y rhyfel rhwng [[Gweriniaeth Rhufain]] ar un ochr a nifer o bobloedd eraill yr Eidal oedd wedi bod mewn cynghrair a Rhufain ar yr ochr arall.
Llinell 10: Llinell 10:


[[Categori:Gweriniaeth Rhufain]]
[[Categori:Gweriniaeth Rhufain]]



[[bg:Съюзническа война (91–88 пр.н.е.)]]
[[bg:Съюзническа война (91–88 пр.н.е.)]]
Llinell 24: Llinell 23:
[[it:Guerra sociale]]
[[it:Guerra sociale]]
[[ja:同盟市戦争]]
[[ja:同盟市戦争]]
[[ko:동맹국 전쟁]]
[[ko:동맹시 전쟁]]
[[nl:Bellum sociorum]]
[[nl:Bellum sociorum]]
[[no:Forbundsfellekrigen]]
[[no:Forbundsfellekrigen]]

Fersiwn yn ôl 03:10, 11 Chwefror 2010

Denarius a fathwyd gan y cyngheiriaid yn ystod Rhyfel y Cyngheiriaid

Rhyfel a ymladdwyd yn yr Eidal rhwng 91 CC a 88 CC oedd Rhyfel y Cyngheiriaid (Lladin: Bellum soci(or)um neu Marsicum bellum). Ymladdwyd y rhyfel rhwng Gweriniaeth Rhufain ar un ochr a nifer o bobloedd eraill yr Eidal oedd wedi bod mewn cynghrair a Rhufain ar yr ochr arall.

Ers i Rufaibn ddechrau ymestyn ei grym dros yr Eidal, roedd wedi gwneud cytundebau ar wahân a gwahanol civitates, gan eu hystyried fel cyngheiriaid (socii). Roedd gan y gyngheiriaid fesur helaeth o hunanlywodraeth, ond roedd rhaid iddynt gyflenwi milwyr i fyddinoedd Rhufain. Tyfodd anfodlonrwydd ar y drefn yma ymhlith y cyngheiriaid, a ddymunai ddod yn ddinasyddion Rhufeinig. Yn 91 CC, rhoddodd y tribunus plebis Marcus Livius Drusus minor gynnig ymlaen i roi dinasyddiaeth Rufeinig i'r socii, ond llofruddiwyd ef gan wrthwynebwyr y syniad cyn i'r cais lwyddo. Gwrthryfelodd y socii, gan greu cynghrair gyda Corfinium fel prifddinas.

Bu ymladd caled, ond llwyddodd Rhufain i sicrhau heddwch trwy ymestyn dinasyddiaeth Rhufeinig yn raddol, yn gyntaf i'r cyngheiriaid oedd wedi aros yn deyrngar i Rufain trwy'r Lex Iulia yn 90 CC. Yn 89 CC, rhoddodd y Lex Plautia Papiria ddinasyddiaeth Rufeinig i bawb yn yr Eidal i'r de o afon Po, ar yr amod eu bod yn rhoi gorau i'r ymladd o fewn dau fis. Rhoddodd y Lex Pompeia ddinasyddiaeth Ladin i bawb yn yr Eidal i'r gogledd o afon Po.

Llwyddodd hyn i roi diwedd ar yr ymladd yng ngogledd yr Eidal, ond parhaodd y Samnitiaid i ymladd hyd 82 CC. Yn y diwedd, gorchfygwyd hwy gan Lucius Cornelius Sulla.