Brwydr Pharsalus: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn newid: pt:Batalha de Farsalos
D'ohBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: ro:Bătălia de la Pharsalus
Llinell 31: Llinell 31:
[[pl:Bitwa pod Farsalos]]
[[pl:Bitwa pod Farsalos]]
[[pt:Batalha de Farsalos]]
[[pt:Batalha de Farsalos]]
[[ro:Bătălia de la Pharsalus]]
[[ru:Битва при Фарсале]]
[[ru:Битва при Фарсале]]
[[sl:Bitka pri Farzalu]]
[[sl:Bitka pri Farzalu]]

Fersiwn yn ôl 16:28, 10 Chwefror 2010

Brwydr Pharsalus

Brwydr dyngedfennol y rhyfel cartref Rhufeinig rhwng Iŵl Cesar a Gnaeus Pompeius Magnus oedd Brwydr Pharsalus, a ymladdwyd yn 48 CC gerllaw Pharsalus (Farsala heddiw) yng nghanolbarth Gwlad Groeg.

Yn 49 CC, croesodd Cesar a'i fyddin Afon Rubicon, y ffin rhwng ei dalaith ei hun a'r Eidal, gan ddechrau rhyfel cartref yn Rhufain. Cymerodd Pompeius blaid y Senedd, yn erbyn Cesar.

Enciliodd Pompeius i Brundisium cyn croesi i Wlad Groeg, a'r rhan fwyaf o Senedd Rhufain gydag ef. Croesodd Ceasr a'i fyddin ar ei ôl. Gorchfygwyd Pompeius gan Cesar ym Mrwydr Pharsalus, a ffôdd Pompeius i'r Aifft. Pan gyrhaeddodd yno, llofruddiwyd ef ar orchymyn y brenin Ptolemy XIII. Gadawodd hyn Cesar yn feistr ar Rufain.