Oesoffagws: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: sco:Thrapple
SieBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: ug:ھەزىم يولى
Llinell 88: Llinell 88:
[[tl:Lalanga]]
[[tl:Lalanga]]
[[tr:Yemek borusu]]
[[tr:Yemek borusu]]
[[ug:ھەزىم يولى]]
[[uk:Стравохід]]
[[uk:Стравохід]]
[[yi:וושט]]
[[yi:וושט]]

Fersiwn yn ôl 13:56, 9 Chwefror 2010


1 Chwarrennau poer 2 Parotid 3 Isdafod 4 Isfantol 5 Y geg 6 gwacter 7 Tafod 8 Oesoffagws (y llwnc) 9 Pancreas 10 Stumog 11 Pibell pancreatig 12 Iau (Afu) 13 coden fustl (gallbladder) 14 Diwodenwm 15 Dwythell y bustl (common bile duct) 16 Coluddyn mawr 17 Coluddyn traws (transverse colon) 18 Coluddyn esgynnol (ascending colon) 19 Coluddyn disgynnol (descending colon) 20 Coluddyn bach 21 Coluddyn dall (caecum) 22 Cwlwm y coledd (appendix) 23 Rectwm 24 Anws

Peipen allan o gyhyr a geir mewn rhai anifeiliaid ydyw'r esophagus (America) neu oesophagus (Lloegr) neu ar lafar: y llwnc. Mae bwyd yn cael ei basio drwyddo ar ei daith o'r ceg i'r stumog. O'r Lladin y daw'r gair a hwnnw yn ei dro'n fenthyciad o'r Groeg oisophagos (οισοφάγος), sef "mynediad y bwyd". Mewn bodau dynol caiff ei leoli yr un lefel â fertibra C6 ac mae'n 25-30 cm o hyd, gan ddiweddu yng ngheg y stumog.

Mae iddo dair rhan: y rhan yddfol, thoracsig ac abdominal.

Ei waith

Drwy'r broses o wringhelliad (neu beristalisis), mae bwyd yn teithio drwyddo i'r stumog. Gwringhelliad ydy'r broses o gyhyrau'n cyfangu gan leihau a gwthio'r bwyd ar ei daith. Gan nad oes ganddo leining miwcws (yn wahanol i'r stumog) gall asid y stumog gnoi i fewn iddo gan ei greithio. I fod yn fanwl gywir, mae'n cysylltu'r argeg (ffaryncs) sef y lle gwag hwnnw a ddefnyddir hefyd gan y system respiradu a'r stumog ble mae'r ail ran o'r broses dreulio yn digwydd.