Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Lleuad"

Jump to navigation Jump to search
Ychwanegwyd 9 beit ,  2 flynedd yn ôl
dim crynodeb golygu
[[Delwedd:Phase and libration of the Moon at hourly intervals (2012).ogv|bawd|chwith|310px|Gwahanol ystumiau, mewn blwyddyn gron]]
 
Ar [[20 Gorffennaf]] [[1969]] glaniodd ddau ofodwr [[UDA|Americanaidd]] yn y [[modiwl lleuad]] ''Eagle'' - sef rhan o'r llong gofod [[Apollo 11]] - arni, ac un ohonynt, [[Neil Armstrong]], oedd y dyn cyntaf i gerdded ar y lleuad. Rhwng 1969 a 1972, ymwelodd 27 o ddynion â'r Lleuad; cerddodd 12 ohonynt arni. Gadawodd y criw olaf, sef Eugene Cernan a Harrison Schmitt, yn 1972. Mae gan sawl gwlad gynllun i anfon pobl i'r Lleuad rhywbryd yn y 30 blwyddyn nesaf, gan gynnwys y [[UDA]] a [[Tsieina]].
 
== Dwy ochr y Lleuad ==
Mae hi'n goel eitha cryf hydnoed heddiw – fod y lleuad yn dylanwadu ar gyflwr pethau byw o bob math. H.y. wrth i'r lleuad gryfhau (neu dod i'w llawnder) fe fyddai'n ysgogi tyfiant ac wrth iddi leihau, neu wanio, byddai egni pethau byw yn lleihau yn ogystal. O ganlyniad, arferai ffermwyr a garddwyr gynllunio'u gwaith o amgylch y lleuad ac yn darllen Almanac Caergybi neu Almanac y Miloedd i gael dyddiadau cyflyrau'r lleuad yn fanwl bob mis.
 
Byddid yn hau yn y gerddi a'r caeau ar y cynnydd (yn chwarter cynta'r lleuad newydd os yn bosib) fel bod planhigion ifanc yn egino a thyfu a rhoddid [[iâr|ieir]] i orri fel bo'r cywion yn deor a chynyddu efo'r lleuad. Dyma'r adeg i hel planhigion meddyginiaethol hefyd fel eu bod yn fwy effeithiol. Yn ogystal byddai coed ffrwythau yn cael eu tocio a'u himpio a byddai priodasau a dîls busnes yn fwy llwyddiannus pe digwyddant pan fo'r lleuad ar gynnydd. Byddid hefyd yn lladd a halltu mochyn pan fo'r lleuad ar ei '"chelder'" (Morgannwg).
 
Adeg gwendid neu '"dywyllwch'" y lleuad y dylsid tynnu chwyn o'r ddaear, pigo ffrwythau, tynnu llysiau, medi'r cnydau a thorri ffyn neu goed (er mwyn i'r coedyn aeddfedu'n iawn). Casglwyd ffrwythau gan y credid y byddai golau'r lleuad yn gwneud i'r ffrwythau bydru'n gynt.
 
Llawnder y lleuad oedd yr adeg orrau i roi tarw i'r fuwch, myharen i'r defaid, a chawsai'r rhai fyddai'n priodi ar leuad llawn lond tŷ o blant. Dyma hefyd yr adeg orrau i gneifio'r defaid ac i dorri eich gwallt! Byddai'r lleuad llawn yn peri i ferched esgor, yn enwedig os oeddent eisoes ychydig yn hwyr – cymaint felly nes yr arferai Nyrs Jones (y fydwraig) o Nefyn alw'r lleuad llawn yn "Leuad Babis".
 
===Hen enwau===
Bu'r lleuad llawn dros y canrifoedd yn goleuo'r nos inni a cheir enwau arni, fel '"Hen Lantar y Plwy'", '"Canwyll y Plwy'", '"y Lanter Fawr'" a '"Haul Tomos Jôs'" ac roedd hi'n arfer ar un adeg i gyfarfodydd ac [[eisteddfod]]au lleol gael eu cynnal oddeutu'r lleuad llawn – er mwyn i'r goleuni fod o gymorth i bobl gerdded adre liw nos.
 
Cawsai y lleuad llawn cynta ar ôl Cyhydnos yr hydref (22ain o Fedi) ei alw'n '"Lleuad Fedi'" neu '"Leuad y Cynheuaf'", pryd y ceid y '"Naw Nos Olau'". Byddai'r Naw Nos Olau yn eithriadol o bwysig i ffermwyr ar un adeg oherwydd ei goleuni llachar - bron fel golau dydd am o leia' y 4 noson cyn, ac ar ôl y lleuad llawn ei hun. Roedd hyn yn eithriadol o hwylus at gario'r ysgubau [[ŷd]] i'r teisi ac am y byddai'r lleuad yn codi hefo'r machlud gellid dal ati i gario o'r caeau (h. y., cyn dyddiau'r dyrnwr medi) ymhell i'r nos – hyd y wawr pe bai angen.
 
===Lwc, anlwc a darogan===
 
===Lloerig===
Fe dybid ers talwm fod y lleuad yn effeithio ar gyflwr meddyliol pobl, a tan tua canrif yn ôl roedd yn cael ei hystyried fel un o brif achosion gwallgofrwydd. Mae'r geiriau “Lunatic” yn Saesneg a '"Lloerig'" yn Gymraeg yn cyfeirio at hynny - ac mae'r Lunacy Act (neu Ddeddf Lloerigrwydd) 1842, yn dweud yn ddigon clir bod rhywun lloerig yn dioddef o '"benwendid'" yn y cyfnod a ddilynai'r lleuad lawn. Roedd yn anlwcus iawn cysgu yng ngolau'r lleuad oherwydd hynny – rhag ofn ichi fynd dan ei ddylanwad!
 
===Dyn neu Sgwarnog y Lleuad===
133

golygiad

Llywio