Thomas Ifor Rees: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
BDim crynodeb golygu |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
{{Gwybodlen person/Wicidata | fetchwikidata=ALL | onlysourced=no | suppressfields= dinasyddiaeth | nationality = {{banergwlad|Cymru}} | dateformat = dmy}} |
{{Gwybodlen person/Wicidata | fetchwikidata=ALL |image=T Ifor Rees.jpg| onlysourced=no | suppressfields= dinasyddiaeth | nationality = {{banergwlad|Cymru}} | dateformat = dmy}} |
||
[[Diplomyddiaeth|Diplomydd]], cyfieithydd ac awdur [[Llyfr taith|llyfrau taith]] oedd '''Thomas Ifor Rees''' ([[16 Chwefror]] [[1890]] – [[11 Chwefror]] [[1977]]), a anwyd yn [[Rhydypennau]], [[Bow Street]], ger [[Aberystwyth]], [[Ceredigion]], yn fab i'r cerddor J. T. Rees a'i wraig Elizabeth Davies.<ref>http://ukwhoswho.com/view/article/oupww/whowaswho/U158858</ref> |
[[Diplomyddiaeth|Diplomydd]], cyfieithydd ac awdur [[Llyfr taith|llyfrau taith]] oedd '''Thomas Ifor Rees''' ([[16 Chwefror]] [[1890]] – [[11 Chwefror]] [[1977]]), a anwyd yn [[Rhydypennau]], [[Bow Street]], ger [[Aberystwyth]], [[Ceredigion]], yn fab i'r cerddor J. T. Rees a'i wraig Elizabeth Davies.<ref>http://ukwhoswho.com/view/article/oupww/whowaswho/U158858</ref> |
||
Fersiwn yn ôl 20:01, 2 Ionawr 2019
Thomas Ifor Rees | |
---|---|
Ganwyd | 16 Chwefror 1890, 1890 Rhydypennau |
Bu farw | 11 Chwefror 1977, 1977 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | diplomydd |
Swydd | ambassador of the United Kingdom to Bolivia |
Cyflogwr | |
Tad | John Thomas Rees |
Diplomydd, cyfieithydd ac awdur llyfrau taith oedd Thomas Ifor Rees (16 Chwefror 1890 – 11 Chwefror 1977), a anwyd yn Rhydypennau, Bow Street, ger Aberystwyth, Ceredigion, yn fab i'r cerddor J. T. Rees a'i wraig Elizabeth Davies.[1]
Cafodd ei addysg yng Ngholeg Prifysgol Cymru Aberystwyth gan raddio yn 1910. Roedd yn was sifil a threuliodd nifer o flynyddoedd tramor yn cynnwys cyfnod fel llysgennad Prydain ym Molifia.
Gyrfa
Daeth yn aelod o'r llu llysgenhadol yn 1913.
Bu iddo ymddeol yn 1950.
Gwaith llenyddol
Ysgrifennodd dri llyfr taith: In and Around the Valley of Mexico (1953), yn Saesneg, a Sajama (1960) ac Illimani (1964) am deithiau yn Ne America yn Gymraeg. Ystyrir y ddau lyfr olaf yn glasuron o lyfrau taith yn y Gymraeg. Maent yn cynnwys nifer o luniau a dynwyd gan yr awdur ei hun hefyd, sy'n eu gwneud yn gyfrolau deniadol.
Cyfieithodd nofelau gan René Bazin, Xavier de Maistre, J.R. Jiminez, C.F. Ramuz a Henri Troyat i'r Gymraeg, ynghyd â'r gerdd Elegy written in a Country Churchyard gan Thomas Gray a fersiwn Edward Fitzgerald o Rubaiyat Omar Khayyām.
Llyfryddiaeth
- In and around the valley of Mexico (1953)
- Sajama: teithiau or ddau gyfandir (Mécsico, Nicaragua, Peru, Bolivia) (1960)
- Illimani yn nhiroedd y gorllewin : teithiau ac atgofion (1964)
Cyfeiriadau