Socrates: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Zorrobot (sgwrs | cyfraniadau) B robot yn newid: vi:Sokrates |
TobeBot (sgwrs | cyfraniadau) B robot yn ychwanegu: tt:Сократ |
||
Llinell 122: | Llinell 122: | ||
[[tl:Socrates]] |
[[tl:Socrates]] |
||
[[tr:Sokrates]] |
[[tr:Sokrates]] |
||
[[tt:Сократ]] |
|||
[[uk:Сократ]] |
[[uk:Сократ]] |
||
[[ur:سقراط]] |
[[ur:سقراط]] |
Fersiwn yn ôl 06:56, 7 Chwefror 2010
Athronydd cynnar a hynod ddylanwadol o Athen, gwlad Groeg, oedd Socrates (Groeg: Σωκράτης): ef yn ôl llawer a osododd sylfeini athroniaeth Orllewinol. Fe'i ganwyd oddeutu 470 CC, ac fe fu farw yn 399 CC yn Athen.
Treuliodd y rhan fwyaf o'i fywyd yn ymchwilio'n frwd i'r syniad o ddoethineb, trwy ddadlau a rhesymu gyda chyfeillion, disgyblion ac athronyddwyr yr oes. Ym mhen amser, daethpwyd i'w adnabod fel y dyn mwyaf doeth yng Ngroeg.
Roedd gan bobl farnau tra-gwahanol am Socrates: rhai yn uchel eu parch ohonno, eraill yn ei gollfarnu. Roedd ganddo ddilynwyr brwd (megis Platon), a gelynion ffyrnig yn ogystal.
Yn hen ddyn, fe syrthiodd i warth awdurdodau gwladwriaeth Athen. Fe'i gorchmynwyd i ymatal rhag ymddiddan cyhoeddus, ac i beidio ymwneud â phendefigion ifanc; ond fe barhaodd i wneud hynny yn ôl ei arfer.
Yn ôl yr hanesion traddodiadol, pan yn 70 oed, fe'i arestiwyd gan yr awdurdodau. Fe'i cyhuddwyd o lygru moes pobl ifanc, dyfeisio duwiau newydd, ac anffyddiaeth, ac fe'i deddfrydwyd i farwolaeth. Er iddo gael cyfle i ffoi o Athen penderfynodd aros yn ei ddinas, a bu farw trwy yfed diod wenwynig o hemloc.