Robat Arwyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Cell Danwydd (sgwrs | cyfraniadau)
gwybodaeth o wefan RA
BDim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Cyfansoddwr a anwyd yn Nhalysarn, [[Gwynedd]], ond sy'n byw yn [[Rhuthun]], [[Sir Ddinbych]] ers [[1981]] yw '''Robert Arwyn Jones''' a adnabyddir ers 1982 fel '''Robat Arwyn'''.
Cyfansoddwr a anwyd yn Nhalysarn, [[Gwynedd]], ond sy'n byw yn [[Rhuthun]], [[Sir Ddinbych]] ers [[1981]] yw '''Robert Arwyn Jones''' (ganwyd Tachwedd [[1959]]) a adnabyddir ers 1982 fel '''Robat Arwyn'''.


Graddiodd mewn Cerddoriaeth ym [[Prifysgol Caerdydd|Mhrifysgol Caerdydd]] yn 1980 a chafodd Ddiploma mewn Llyfrgellyddiaeth yng Ngholeg Llyfrgellwyr Cymru, Aberystwyth yn 1981. Symudodd o'r coleg i Ddinbych lle bu'n gweithio fel llyfrgellydd. Oddi yno symudodd i [[Rhuthun|Ruthun]] gan weithio yn yr Hen Garchar, ger yr archifdy.
Graddiodd mewn Cerddoriaeth ym [[Prifysgol Caerdydd|Mhrifysgol Caerdydd]] yn 1980 a chafodd Ddiploma mewn Llyfrgellyddiaeth yng Ngholeg Llyfrgellwyr Cymru, Aberystwyth yn 1981. Symudodd o'r coleg i Ddinbych lle bu'n gweithio fel llyfrgellydd. Oddi yno symudodd i [[Rhuthun|Ruthun]] gan weithio yn yr Hen Garchar, ger yr archifdy.
Llinell 45: Llinell 45:


{{DEFAULTSORT:Arwyn, Robat}}
{{DEFAULTSORT:Arwyn, Robat}}
[[Categori:Genedigaethau 1959]]
[[Categori:Arweinyddion Cymreig]]
[[Categori:Arweinyddion Cymreig]]
[[Categori:Cyfansoddwyr Cymreig]]
[[Categori:Cyfansoddwyr Cymreig]]

Fersiwn yn ôl 20:31, 1 Ionawr 2019

Cyfansoddwr a anwyd yn Nhalysarn, Gwynedd, ond sy'n byw yn Rhuthun, Sir Ddinbych ers 1981 yw Robert Arwyn Jones (ganwyd Tachwedd 1959) a adnabyddir ers 1982 fel Robat Arwyn.

Graddiodd mewn Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd yn 1980 a chafodd Ddiploma mewn Llyfrgellyddiaeth yng Ngholeg Llyfrgellwyr Cymru, Aberystwyth yn 1981. Symudodd o'r coleg i Ddinbych lle bu'n gweithio fel llyfrgellydd. Oddi yno symudodd i Ruthun gan weithio yn yr Hen Garchar, ger yr archifdy.

Gyda'r prifardd Robin Llwyd ab Owain cyfansoddodd y gerddoriaeth i ganeuon megis: 'Gwin Beaujolais', 'Pedair Oed' a 'Brenin y Sêr'. Bu Robat Arwyn hefyd yn flaenllaw iawn gyda'r grwp gwerin Trisgell yn y 1980au a Chôr Ieuenctid Rhuthun (yna 'Côr Rhuthun) yn ddiweddarach, gan ddod yn arweinydd arnynt wedi marwolaeth Morfydd Vaughan-Evans yn Ionawr 2008. Mae ganddo ddau o blant.[1] Cyfansoddodd yr alaw i rai o'r caneuon mewn dramâu cerdd fel Ceidwad y Gannwyll (1985), Iarlles y Ffynnon (1992-3) a Pwy bia'r Gân? (2003).

Yn 2009 rhyddhawyd CD gan dri offeiriad Pabyddol o Iwerddon ar label Sony. Roedd y caneuon yn cynnwys Benedictus gan Robat Arwyn.

Trisgell

Bu'n aelod o'r grwp Trisgell yn y 1980au cynnar. Dyma ddetholiad o ganeuon a recordiwyd ganddyn nhw:

Teitl y gân Clip sain Blwyddyn cyhoeddi Rhif Catalog
Fel Un 2012 Sain SCD 2669
Gwin Beaujolais Delwedd:Gwin Beaujolais - Trisgell.ogg 2012 Sain SCD 2669
Llanelidan 2012 Sain SCD 2669

Sioeau cerdd

Cyfansoddodd Robat Arwyn y gerddoriaeth i rai o'r caneuon yn y sioeau canlynol:

  • Ceidwad y Gannwyll (1985). Comisiwn gan Eisteddfod Genedlaethol y Rhyl.
  • Rhys a Meinir (1987). Perfformiwyd gan Gwmni Theatr ardal Rhuthun yn 1987.
  • Iarlles y Ffynnon (1996). Comisiwn gan Gyngor Sir Gwynedd. Perfformiwyd gan ddisgyblion Ysgol Glan Cegin, Maesgeirchen, Chwefror 1996.
  • Pwy bia'r Gân? (2003). Comisiynwyd gan Adran y Gymraeg, Cyngor Sir Ddinbych a'i pherfformio gan blant Blynyddoedd 5 a 6 ysgolion dalgylch Rhuthun yn Hydref 2003.

Llyfrau

Mae'r cyfansoddwr wedi cyhoeddi oddeutu deg o gasgliadau o ganeuon, gan gynnwys Atgof o'r Sêr (Curiad), Er Hwylio'r Haul (Curiad), Er Mwyn Yfory (Y Lolfa) a Gwin Beaujolais (Y Lolfa). [2]

Cyfeiriadau


Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.