Afon Ceirw: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
[[Delwedd:Afon Ceirw - geograph.org.uk - 157716.jpg|250px|bawd|Afon Ceirw ger ei tharddle yn llifo i gyfeiriad [[Cerrig-y-drudion]].]]
Mae '''Afon Ceirw''' yn [[afon]] yng [[gogledd Cymru|ngogledd Cymru]]. Ei hyd yw tua 14 milltir.
Mae '''Afon Ceirw''' yn [[afon]] yng [[gogledd Cymru|ngogledd Cymru]]. Ei hyd yw tua 14 milltir.



Fersiwn yn ôl 21:01, 6 Chwefror 2010

Afon Ceirw ger ei tharddle yn llifo i gyfeiriad Cerrig-y-drudion.

Mae Afon Ceirw yn afon yng ngogledd Cymru. Ei hyd yw tua 14 milltir.

Mae'r afon yn tarddu yn y bryniau yn ardal Uwch Aled rhwng Carnedd y Filiast (2194') a Garn Prys (1747') yn ne sir Conwy, tua 4 milltir i'r gorllewin o Gerrigydrudion. Ar ôl llifo i gyfeiriad y dwyrain mae'n troi i'r de-ddwyrain ger Cerrigydrudion ac yn llifo'n gyfochrog â lôn yr A5 heibio i bentrefi bychain Llangwm a'r Maerdy ac ymlaen i'r Ddwyryd yn Sir Ddinbych. Rhai milltiroedd ar ôl hynny mae hi'n llifo i afon Dyfrdwy ger Corwen.

Mae enw'r afon yn atgof o'r amser pan geid nifer o geirw ac anifeiliad gwyllt eraill ar fryniau Cymru.

Eginyn erthygl sydd uchod am fwrdeistref sirol Conwy. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.