Rhywogaeth mewn perygl: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
VolkovBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: bs:Ugrožena vrsta yn tynnu: hu:Veszélyeztetett fajok
TXiKiBoT (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 40: Llinell 40:
[[la:Species periclitata]]
[[la:Species periclitata]]
[[lt:Nykstanti rūšis]]
[[lt:Nykstanti rūšis]]
[[ml:വംശനാശ ഭീഷണി നേരിടുന്ന ജീവികള്‍]]
[[ml:വംശനാശ ഭീഷണി നേരിടുന്ന ജീവികൾ]]
[[mr:चिंताजनक प्रजाती]]
[[mr:चिंताजनक प्रजाती]]
[[ms:Spesies terancam]]
[[ms:Spesies terancam]]

Fersiwn yn ôl 12:16, 6 Chwefror 2010

Teigr Siberia, is-rywogaeth sydd mewn perygl difrifol.

Rhywogaeth mewn perygl yw rhywogaeth o anifail neu blanhigyn dydd mewn perygl o ddifodiant, un ai oherwydd fod ei niferoedd yn isel neu bod bygythiad i'r amgylchedd. Yn ôl Undeb Cadwraeth y Byd (IUCN), mae tua 40% o rywogaethau mewn perygl. Mae gan lawer o wledydd ddeddfau cadwraeth yn gwarchod rhai o'r rhywogaethau yma, er bod effeithiolrwydd y deddfau yn amrywio'n fawr.

Statws cadwraeth unrhyw rywogaeth yw'r tebygrwydd y gallai'r rhywogaeth honno wynebu difodiant. Y mwyaf adnabyddus o'r rhestri statws cadwraeth yw Rhestr Goch yw IUCN.

Mae categoriau'r IUCN yn cynnwys:

  • Wedi ei ddifodi: dim unigolion o'r rhywogaeth ar ôl, er enghraifft y Dodo.
  • Wedi ei ddifodi yn y gwyllt: rhai unigolion ar ôl, ond dim poblogaeth naturiol yn y gwyllt.
  • Mewn perygl difrifol: siawns uchel iawn o ddifodiant yn y dyfodol agos, er enghraifft Rheinoseros Jafa.
  • Mewn perygl: siawns uchel o ddifodiant yn y dyfodol, er enghraifft y Morfil Glas, Teigr, Albatross
  • Archolladwy: siawns uchel o ddifodiant yn y tymor hir, er enghraifft y Llew, Gaur.
  • Dibynnu ar gadwraeth: er nad oes bygythiad ar hyn o bryd, mae'n ddibynnol ar raglenni cadwraeth, er enghraifft Caiman Du
  • Bron dan fygythiad: gall ddod dan fygythiad yn y dyfodol agos.
  • Dim bygythiad: dim bygythiad ar hyn o bryd.