Castell Odo: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→Llyfryddiaeth: cat |
|||
Llinell 10: | Llinell 10: | ||
{{Bryngaerau Cymru}} |
{{Bryngaerau Cymru}} |
||
[[Categori:Adeiladau ac adeiladwaith yng Ngwynedd]] |
|||
[[Categori:Bryngaerau Cymru]] |
[[Categori:Bryngaerau Cymru]] |
||
[[Categori: |
[[Categori:Safleoedd archaeolegol Gwynedd]] |
||
[[Categori:Llŷn]] |
[[Categori:Llŷn]] |
Fersiwn yn ôl 17:33, 5 Chwefror 2010
Bryngaer sy'n dyddio o ddechrau Oes yr Haearn ac a leolir gerllaw Aberdaron, Gwynedd, yw Castell Odo. Mae'n gorwedd ger y ffordd B4413, rhyw filltir a hanner o'r pentref.
Mae'r gaer ar fryn gweddol fychan, sydd wedi ei amgylchynu gan ddau gylch o amddiffynfeydd. Y cylch allanol yw'r hynaf, ac ymddengys ei fod wedi bod o bren yn wreiddiol, cyn i'r wal bren gael ei throi yn amddiffynfeydd pridd. Ceir olion cytiau crwn ar ben y bryn, rhai efallai wedi eu hadeiladu cyn i'r amddiffynfeydd gael eu codi. Darganfuwyd crochenwaith yma sy'n dyddio o ddiwedd Oes yr Efydd, felly credir fod y safle yma yn un o'r cynharaf o'i bath yng Nghymru. Gellir gweld olion o leiaf wyth tŷ cerrig tu mewn i'r amddiffynfeydd.
Llyfryddiaeth
- Lynch, Frances (1995) Gwynedd (A guide to ancient and historic Wales) (Llundain:HMSO) ISBN: 0-11-701574-1