Gwyn Nicholls: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B robot yn ychwanegu: sv:Gwyn |
Sisyph (sgwrs | cyfraniadau) false |
||
Llinell 22: | Llinell 22: | ||
[[fr:Gwyn Nicholls]] |
[[fr:Gwyn Nicholls]] |
||
[[it:Gwyn Nicholls]] |
[[it:Gwyn Nicholls]] |
||
[[sv:Gwyn]] |
Fersiwn yn ôl 13:20, 28 Ionawr 2010
Roedd Erith Gwyn Nicholls (1874 - 24 Mawrth, 1939), yn chwaraewr Rygbi'r Undeb a enilodd 24 o gapiau i Gymru fel canolwr.
Er iddo gael ei eni yn Lloegr, yn Westbury-on-Severn, dechreuodd Nicholls ei yrfa fel chwaraewr rygbi gyda Sêr Caerdydd cyn chwarae i Gaerdydd yn 1893. Treuliodd bron y cyfan o'i yrfa yn chwarae i Gaerdydd, gan chwarae iddynt am 18 tymor. Yr unig eithriad oedd hanner tymor gyda Casnewydd yn 1901-02 pan ddechreuodd fusnes golchfa yno.
Enillodd ei 24 cap dros Gymru rhwng 1896 a 1906, gan gynnwys deg gêm fel capten. Ef oedd capten Cymru pan enillwyd y Goron Driphlyg yn 1902. Er ei fod wedi cyhoeddi ei ymddeoliad o rygbi rhyngwladol ar ddiwedd y tymor cynt, dychwelodd i fod yn gapten Cymru ar gyfer y fuddugoliaeth enwog dros y Crysau Duon yn 1905. Aeth ar daith i Awstralia gyda tîm yr Ynysoedd Prydeinig yn 1899, ac ef oedd yr unig Gymro ar y daith yma.
Ar 26 Rhagfyr 1949 cynhaliwyd agoriad swyddogol "Gatiau Coffa Gwyn Nicholls" ym Mharc yr Arfau. Agorwyd hwy gan ei gyd-chwaraewr Rhys Gabe.
Cyfeiriadau
David Parry-Jones (1999) Prince Gwyn: Gwyn Nicholls and the first golden age of Welsh rugby Seren
David Smith and Gareth Williams (1980) Fields of praise: the official history of the Welsh Rugby Union 1881-1981 (Gwasg Prifysgol Cymru) Press ISBN 0 7083 0766 3