Euddogwy: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) ehangu, interwici |
ehangu fymryn; cat |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Sant neu esgob Cymreig oedd '''Euddogwy''' |
[[Sant]] neu [[esgob]] [[Cymry|Cymreig]] oedd '''Euddogwy''' ([[Lladin]]: '''Oudoceus''') (blodeuai tua diwedd y [[6ed ganrif]]). |
||
Ceir buchedd iddo, y ''Vita Beati Oudocei'', yn [[Llyfr Llandaf]], lle dywedir ei fod yn fab i Buddig, tywysog o [[Llydaw|Lydaw]], ac Anauued, chwaer sant [[Teilo]]. Addysgwyd ef gan Teilo ac fe'i dilynodd fel esgob. Dywedir iddo gydnabod |
Ceir buchedd iddo, y ''Vita Beati Oudocei'', yn [[Llyfr Llandaf]], lle dywedir ei fod yn fab i Buddig, tywysog o [[Llydaw|Lydaw]], ac Anauued, chwaer sant [[Teilo]]. Addysgwyd ef gan Teilo ac fe'i dilynodd fel esgob. Dywedir iddo gydnabod uchafiaeth [[Archesgob Caergaint]] a mynd ar [[Pererindod|bererindod]] i [[Rhufain|Rufain]], ond mae'n anhebygol iawn fod yr honiad cyntaf yn wir a gellir derbyn ei fod yn tarddu o awydd [[Esgobaeth Llandaf|esgobaeth newydd Llandaf]], a sefydlwyd gan y [[Y Normaniaid yng Nghymru|Normaniaid]], i bwysleisio awdurdod Caergrawnt (a Rhufain) ar draul [[Esgobaeth Tyddewi]] a'r Eglwys Gymreig. Ei wylmabsant yw [[2 Gorffennaf]]. |
||
Barn [[G.H. Doble]] oedd mai esgob oedd Euddogwy, ac nad oedd yn cael ei ystyried yn sant yn y cyfnod cynnar. Dim ond wedi i'w fuchedd gael ei ysgrifennu yn [[Llandaf]] yn y cyfnod Normanaidd y dechreuwyd ei ystyried fel sant. Mae'n un o'r tri sant y cysegrwyd [[Eglwys Gadeiriol Llandaf]] iddynt, ond credir mai person gwahanol a roddodd ei enw i eglwys [[Llandogo]] yng [[Gwent|Ngwent]], ac os felly nid oes unrhyw eglwys arall wedi ei chysegru iddo. |
Barn [[G.H. Doble]] oedd mai esgob oedd Euddogwy, ac nad oedd yn cael ei ystyried yn sant yn y cyfnod cynnar. Dim ond wedi i'w fuchedd gael ei ysgrifennu yn [[Llandaf]] yn y cyfnod Normanaidd y dechreuwyd ei ystyried fel sant. Mae'n un o'r tri sant y cysegrwyd [[Eglwys Gadeiriol Llandaf]] iddynt, ond credir mai person gwahanol a roddodd ei enw i eglwys [[Llandogo]] yng [[Gwent|Ngwent]], ac os felly nid oes unrhyw eglwys arall wedi ei chysegru iddo. |
||
==Llyfryddiaeth== |
==Llyfryddiaeth== |
||
*G. H. Doble. (1971). ''Lives of the Welsh Saints'', gol. D. Simon Evans. |
*G. H. Doble. (1971). ''Lives of the Welsh Saints'', gol. D. Simon Evans. |
||
*''Vita Beati Oudocei'': J. Rhys a J. Gwenogvryn Evans (gol.), ''The Book of Llandâv'' (Rhydychen, 1893; adargraffiad ffacsimili, Llyfrgell Cenedlaethol Cymru, 1979). |
|||
[[Categori:Seintiau Cymru]] |
[[Categori:Seintiau Cymru]] |
||
[[Categori:Genedigaethau'r 6ed ganrif]] |
|||
[[Categori:Esgobaeth Llandaf]] |
|||
[[en:Oudoceus]] |
[[en:Oudoceus]] |
Fersiwn yn ôl 19:45, 25 Ionawr 2010
Sant neu esgob Cymreig oedd Euddogwy (Lladin: Oudoceus) (blodeuai tua diwedd y 6ed ganrif).
Ceir buchedd iddo, y Vita Beati Oudocei, yn Llyfr Llandaf, lle dywedir ei fod yn fab i Buddig, tywysog o Lydaw, ac Anauued, chwaer sant Teilo. Addysgwyd ef gan Teilo ac fe'i dilynodd fel esgob. Dywedir iddo gydnabod uchafiaeth Archesgob Caergaint a mynd ar bererindod i Rufain, ond mae'n anhebygol iawn fod yr honiad cyntaf yn wir a gellir derbyn ei fod yn tarddu o awydd esgobaeth newydd Llandaf, a sefydlwyd gan y Normaniaid, i bwysleisio awdurdod Caergrawnt (a Rhufain) ar draul Esgobaeth Tyddewi a'r Eglwys Gymreig. Ei wylmabsant yw 2 Gorffennaf.
Barn G.H. Doble oedd mai esgob oedd Euddogwy, ac nad oedd yn cael ei ystyried yn sant yn y cyfnod cynnar. Dim ond wedi i'w fuchedd gael ei ysgrifennu yn Llandaf yn y cyfnod Normanaidd y dechreuwyd ei ystyried fel sant. Mae'n un o'r tri sant y cysegrwyd Eglwys Gadeiriol Llandaf iddynt, ond credir mai person gwahanol a roddodd ei enw i eglwys Llandogo yng Ngwent, ac os felly nid oes unrhyw eglwys arall wedi ei chysegru iddo.
Llyfryddiaeth
- G. H. Doble. (1971). Lives of the Welsh Saints, gol. D. Simon Evans.
- Vita Beati Oudocei: J. Rhys a J. Gwenogvryn Evans (gol.), The Book of Llandâv (Rhydychen, 1893; adargraffiad ffacsimili, Llyfrgell Cenedlaethol Cymru, 1979).