Pelagius: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B robot yn newid: fi:Pelagius (teologi)
TXiKiBoT (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: ko:펠라기우스
Llinell 43: Llinell 43:
[[it:Pelagio]]
[[it:Pelagio]]
[[ja:ペラギウス]]
[[ja:ペラギウス]]
[[ko:펠라기우스]]
[[la:Pelagius]]
[[la:Pelagius]]
[[nl:Pelagius (monnik)]]
[[nl:Pelagius (monnik)]]

Fersiwn yn ôl 14:46, 23 Ionawr 2010

Am bobl eraill o'r un enw gweler Pelagius (gwahaniaethu).

Diwinydd Brythonig oedd Pelagius (tua 350 - tua 418), a wrthwynebai athrawiaeth Awstin o Hippo am ras anorchfygol. Condemniwyd ef a'i ddysgeidiaeth, a elwir weithiau yn 'Belagiaeth', am fod yn heresïol yn nes ymlaen ond am gyfnod bu'n eithaf dylanwadol. Yn y traddodiad Cymreig cyfeirir ato weithiau fel Morgan (sy'n deillio o 'môranedig' efallai, cyfystyr â'r enw Lladin Pelagius).

Cymharol ychydig a wyddom am ei hanes ei hun. Roedd yn frodor o Brydain, o dras Brythonig, a deithiodd i ddinas Rhufain ac ymsefydlu yno; ffaith sy'n awgrymu ei fod yn ddinesydd Rhufeinig. Daeth yn adnabyddus yno fel dysgawdwr gyda chylch o ddisgyblion o dras bonheddig. Cyhoeddodd ei fod yn bosibl i ddyn ymberffeithio heb ymyraeth Duw ac arweiniodd hynny iddo gael ei gyhuddo o wrthod ag athrawiaeth pechod gwreiddiol.

Wrth i'r Fisigothiaid baratoi i ymosod ar Rufain yn 410, ffoes o'r ddinas honno i dalaith Rufeinig Affrica. Yno wynebodd wrthwynebiad ffyrnig Awstin o Hippo. Oddi yno ffoes i Balesteina.

Ysgrifenodd sawl traethawd yn egluro ei athrawiaeth, yn cynnwys De Natura a De Liber Arbitrio. Cafodd athrawiaeth Pelagius ei chyhoeddi'n anathema yn y 5ed ganrif a'r ganrif olynol. Cadarnheuwyd hynny gan benderfyniad Cyngor Trent (1545-1563). Roedd ei athrawiaeth yn wrthun i'r Calfiniaid.

Un o'i ddisgyblion ysbrydol oedd yr awdur a adweinir fel Y Brython Sisilaidd. Ysgrifenodd gyfres o lithiau radicalaidd yn dwyn y teitl De Divitis ("Ynghylch y Goludog"), llithiau a leisiodd gefnogaeth i'r blaid radicalaidd ymhlith dilynwyr Pelagius. Ceir ynddynt syniadau herfeiddiol iawn, sosialaidd eu naws, am greu cymdeithas gwbl gyfartal gydag eiddo yn cael ei rhannu gan bawb. Ei ebychair oedd Tolle divitem" ("I lawr â'r goludog!").

Mae'r dystiolaeth yn gymysg am ddylanwad Pelagiaeth yn y Brydain ôl-Rufeinig a'r Gymru gynnar. Yn ôl traddodiad, ymwelodd Sant Garmon (Germanicus) â Phrydain i ymladd dylanwad 'Pelagiaeth'; awgryma hynny fod dilynwyr Pelagius yn niferus yno. Mae Gildas yn cyhuddo'r Brenin Maelgwn Gwynedd o fod yn Belagiad. Yn ôl Buchedd Dewi, llyfr canoloesol sy'n honni adrodd hanes bywyd Dewi Sant, cynhaliwyd synod Llanddewi Brefi yn y 6ed ganrif, lle galwyd ar Ddewi i gondemnio 'Pelagiaeth', oherwydd pryder fod dylanwad Pelagius yn gryf yng Nghymru. Nid yw'n amhosibl felly mai Cymro oedd Pelagius, ond does dim modd profi hynny.

Llyfryddiaeth

  • Brinley R. Rees, Pelagius: A Reluctant Heretic (Woodbridge, 1988)

Gweler hefyd