Bracla: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Llinell 9: | Llinell 9: | ||
===Ysgolion=== |
===Ysgolion=== |
||
Mae yna |
Mae yna bedair ysgol ar yr ystad. |
||
*Ysgol Gynradd Gymraeg Bro Ogwr |
*Ysgol Gynradd Gymraeg Bro Ogwr |
Fersiwn yn ôl 12:08, 5 Hydref 2006
Pen-y-bont ar Ogwr Bragle |
|
Mae Bragle, neu Bracla, yn faesdref i dref Pen-y-bont ar Ogwr, i'r dwyrain o'r dref ei hun. Ystad preswyl enfawr gydag oddeutu 12,000 o drigolion yw hi sydd ar lethr deheuol Bryn Bragle. Codwyd ar diroedd Tŷ Waunscil a Fferm Tremaen. Cododd y cyngor lleol yr ystad gwreiddiol yn y gorllewin o amgylch chwarel Tremaen yn y 50au, ond codwyd y rhan fwyaf o'r ystad gan gwmnïau preifat o'r 70au ymlaen. O dan yr ystad mae nifer o dwnelau a ddefnyddiwyd yn yr Ail Ryfel Byd i storio arfau a gynhyrchwyd yn ffatri Tredŵr gerllaw. Defnyddiwyd rhai o'r twnelau wedyn gan GCHQ. Mae nifer o nentydd bychain yn codi o ffynhonnau yn y galchfaen sydd yn y bryn ac yn llifo i lawr i Afon Ewenni yn Nhredŵr. Yr un mwyaf yw'r Nant Sana.
Mae'r ystad yn dal i ehangu ar diroedd Fferm Tremaen sydd ar ôl (yn cynnwys y ffermdy ei hun!) ac ar draws dolau'r Nant Morfa tuag at bentref Coety i'r gogledd.
Ysgolion
Mae yna bedair ysgol ar yr ystad.
- Ysgol Gynradd Gymraeg Bro Ogwr
- Ysgol Archddeon John Lewis yr Eglwys yn Nghymru
- Ysgol Gynradd Tremaen
- Ysgol Gynradd Bragle
Cyfeiriadau