William Williams, Pantycelyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
trefnu, cat |
|||
Llinell 7: | Llinell 7: | ||
Roedd yn awdur toreithiog yn y Gymraeg. Ei enw barddol oedd "Pantycelyn" ond fe'i adnabyddir hefyd fel "Y Pêr Ganiedydd" oherwydd dwysder a melysder ei ganu. Ysgrifennodd rai emynau Saesneg. Mae ei emyn, ''Guide me, O thou great Jehovah'' (sy'n cynnwys y geiriau 'Bread of Heaven, feed me now and evermore', ac a genir fel arfer ar yr emyn-dôn ''Cwm Rhondda'') yn parhau yn hynod boblogaidd yn fyd-eang. |
Roedd yn awdur toreithiog yn y Gymraeg. Ei enw barddol oedd "Pantycelyn" ond fe'i adnabyddir hefyd fel "Y Pêr Ganiedydd" oherwydd dwysder a melysder ei ganu. Ysgrifennodd rai emynau Saesneg. Mae ei emyn, ''Guide me, O thou great Jehovah'' (sy'n cynnwys y geiriau 'Bread of Heaven, feed me now and evermore', ac a genir fel arfer ar yr emyn-dôn ''Cwm Rhondda'') yn parhau yn hynod boblogaidd yn fyd-eang. |
||
==Llyfryddiaeth== |
|||
===Llyfrau Pantycelyn=== |
===Llyfrau Pantycelyn=== |
||
*''Aleluia'' (1742-49) |
*''Aleluia'' (1742-49) |
Fersiwn yn ôl 21:17, 4 Hydref 2006
William Williams (1717-11 Ionawr 1791); bardd, emynydd ac awdur rhyddiaith.
Ei fywyd
Cafodd droedigaeth wrth wrando ar Howel Harris yn pregethu yn Nhalgarth yn 1737. Er iddo fod yn gurad i Theophilus Evans am gyfnod, gwrthodwyd ei urddo yn offeiriad yn Eglwys Loegr yn 1743 oherwydd ei gysylltiadau â'r Methodistiaid. Ar ôl hynny canolbwyntiodd ar weithio dros y mudiad Methodistaidd. Roedd yn bregethwr teithiol a daeth yn enwog am ei allu arbennig i arwain seiadau. Ef ynghyd â Daniel Rowland a Howel Harris oedd prif arweinwyr y Methodistiaid yng Nghymru yn y ddeunawfed ganrif. Trwy ei emynau, yn enwedig, ef yw un o'r dylanwadau pwysicaf ar y diwylliant Cymraeg yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a'r ugeinfed ganrif. Saif Capel Coffa William Williams Pantycelyn yn Llanymddyfri. Claddwyd ef yn Eglwys Llanfair-ar-y-bryn ar gyrion tref Llanymddyfri.
Ei waith
Roedd yn awdur toreithiog yn y Gymraeg. Ei enw barddol oedd "Pantycelyn" ond fe'i adnabyddir hefyd fel "Y Pêr Ganiedydd" oherwydd dwysder a melysder ei ganu. Ysgrifennodd rai emynau Saesneg. Mae ei emyn, Guide me, O thou great Jehovah (sy'n cynnwys y geiriau 'Bread of Heaven, feed me now and evermore', ac a genir fel arfer ar yr emyn-dôn Cwm Rhondda) yn parhau yn hynod boblogaidd yn fyd-eang.
Llyfryddiaeth
Llyfrau Pantycelyn
- Aleluia (1742-49)
- Caniadau y rhai sydd ar y Môr o Wydr (1762)
- Ffarwel Weledig, Groesaw Anweledig Bethau (1763-69)
- Gloria in Excelsis (1771-72)
- Golwg ar Deyrnas Crist (1756)
- Bywyd a Marwolaeth Theomemphus (1764)
- Pantheologia, neu hanes holl grefyddau'r byd (1762)
- Crododil Afon yr Aifft (1767)
- Hanes Bywyd a Marwolaeth Tri Wyr o Sodom a'r Aifft (1768)
- Drws y Society Profiad (1777)
- Cyfarwyddwr Priodas (1777)
Astudiaethau
Ceir llyfryddiaeth lawn o weithiau gan Bantycelyn ac amdano yn Derec Llwyd Morgan (gol.), Meddwl a Dychymyg Williams Pantycelyn (Llandysul: Gwasg Gomer, 1991)