Elmet: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
map |
TXiKiBoT (sgwrs | cyfraniadau) B robot yn ychwanegu: id:Elmet |
||
Llinell 39: | Llinell 39: | ||
[[fr:Elmet]] |
[[fr:Elmet]] |
||
[[gl:Elmet]] |
[[gl:Elmet]] |
||
[[id:Elmet]] |
|||
[[it:Regno dell'Elmet]] |
[[it:Regno dell'Elmet]] |
||
[[nl:Elmet]] |
[[nl:Elmet]] |
Fersiwn yn ôl 15:29, 19 Ionawr 2010
Allwedd: |
Teyrnas Frythonig ôl-Rufeinig oedd Elmet (Cymraeg Diweddar: Elfed) a adwaenid yng Nghymru'r Oesoedd Canol fel un o deyrnasoedd yr Hen Ogledd.[1] Roedd ei thiriogaeth yn yr hyn sy'n awr yn Swydd Efrog yn ngogledd Lloegr, yn yr ardal o gwmpas dinas Leeds. Nid oes sicrwydd am ei ffiniau, ond credir fod Afon Sheaf yn ffin iddi yn y de, ac Afon Wharfe yn y dwyrain. Yn y gogledd roedd yn ffinio ar Deira ac yn y de ar Mercia.
Ymosodwyd ar Elmet gan Northumbria yn hydref 616 neu 626. yn yr Historia Brittonum, a briodolir i Nennius, ceir sôn am Edwin, brenin Northumbria "occupauit Elmet, et expulit Cretic, regem illius regionis" ("meddiannodd Elmet ac alltudiodd Certic, brenin y wlad honno").
Cedwir yr enw mewn nifer o enwau lleoedd yn y cylch, megis Barwick-in-Elmet a Sherburn-in-Elmet. Gelwir yr etholaeth seneddol yn "Elmet".
Ceir cyfeiriad at Elmet mewn arysgrif ar garreg fedd gynnar yn Llanaelhaearn yng Ngwynedd, "ALIOTVS ELMETIACOS HIC IACET", neu "Yma y gorwedd Aliortus o Elmet".
Cadwyd dwy gerdd yn Llyfr Taliesin i Gwallog ap Llaennog, oedd yn frenin Elfed tua diwedd y 6ed ganrif. Er bod testunau'r ddwy gerdd i'w cael yng nghanol y canu a dderbynnir fel cerddi dilys y Taliesin hanesyddol does dim sicrwydd eu bod yn waith y bardd hwnnw. Mae un o'r cerddi yn fawl i Wallog sy'n rhestru ei fuddugoliaethau ac mae'r llall yn farwnad iddo. Mae'r iaith yn ddigon astrus.[2]
Brenhinoedd Elmet
- Masgwig Gloff (c.460 - c.495)
- Llaennog ap Masgwig (c.495 - c.540)
- Arthwys ap Masgwig (c.540 - c.560)
- Gwallog ap Llaennog (c.560 - 590)
- Ceredig ap Gwallog (590 - 616) d. 618
Cyfeiriadau
Llyfryddiaeth
- David Rollason, Northumbria, 500-1100, Cambridge University Press (2003)
- Christopher A Snyder, The Britons, Blackwell Publishing (2003)
- Ifor Williams (gol.), Canu Taliesin (Caerdydd, 1960; adargraffiad 1977)