Marion Eames: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎Ar gyfer plant: yn ol fy llyf
BDim crynodeb golygu
Llinell 39: Llinell 39:
[[Delwedd:Y Stafell Ddirgel.jpg|bawd|150px|chwith|Clawr [[Y Stafell Ddirgel]]]]
[[Delwedd:Y Stafell Ddirgel.jpg|bawd|150px|chwith|Clawr [[Y Stafell Ddirgel]]]]


Parhai Marion Eames i ysgrifennu, gan gynnwys bod yn rhan o griw ysgrifennwyr cynnar Pobl y Cwm. Cafodd afael ar ddeunydd crai ei nofel gyntaf, ''[[Y Stafell Ddirgel]]'', yn yr erthygl '[[Crynwriaeth yng Nghymru|Crynwyr Cymreig]] Ardaloedd Dolgellau' a ymddangosodd mewn cyfrol o'r [[Y Geninen|Geninen]] yn 1889. Roedd darllen yr erthygl eisoes wedi ei hysgogi i ysgrifennu stori fer ar gyfer cystadleuaeth yn ''[[Y Cymro]]'', a hynny cyn iddi fynd i Lundain. Cyhoeddwyd ''Y Stafell Ddirgel'' ym 1969, a'i derbyn yn frwdfrydig gan y beirniaid llenyddol. Cyhoeddodd 6 nofel i oedolion i gyd ynghyd â nofelau ar gyfer plant a rhai gweithiau eraill.
Parhai Marion Eames i ysgrifennu, gan gynnwys bod yn rhan o griw ysgrifennwyr cynnar ''[[Pobol y Cwm]]''. Cafodd afael ar ddeunydd crai ei nofel gyntaf, ''[[Y Stafell Ddirgel]]'', yn yr erthygl '[[Crynwriaeth yng Nghymru|Crynwyr Cymreig]] Ardaloedd Dolgellau' a ymddangosodd mewn cyfrol o'r [[Y Geninen|Geninen]] yn 1889. Roedd darllen yr erthygl eisoes wedi ei hysgogi i ysgrifennu stori fer ar gyfer cystadleuaeth yn ''[[Y Cymro]]'', a hynny cyn iddi fynd i Lundain. Cyhoeddwyd ''Y Stafell Ddirgel'' ym 1969, a'i derbyn yn frwdfrydig gan y beirniaid llenyddol. Cyhoeddodd 6 nofel i oedolion i gyd ynghyd â nofelau ar gyfer plant a rhai gweithiau eraill.


Canmolir ei gwaith gan feirniaid llenyddol am ei dawn adrodd stori ac ysgrifennu [[deialog]], a'u gallu i greu naws sawl cyfnod hanes penodol mewn mannau penodol, rhai megis Dolgellau a Phenbedw yn gyfarwydd iddi. Seilir ei gwaith ar ymchwil hanesyddol trylwyr.<ref>''Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru'', gol. Meic Stephens (Gwasg Prifysgol Cymru, 1986).</ref> Addaswyd ''Y Stafell Ddirgel'' a'r ''Rhandir Mwyn'' ar gyfer y teledu gan y BBC, yn fuan ar ôl eu cyhoeddi, ar adeg pan oedd safon [[drama deledu|dramau teledu]] Cymraeg yn codi'n gyflym iawn. Gwnaeth y ddwy gyfres argraff ar wylwyr teledu nad oeddynt wedi darllen y nofelau. Ymddengys y thema alltudedd yn ei nofelau dro ar ôl tro.
Canmolir ei gwaith gan feirniaid llenyddol am ei dawn adrodd stori ac ysgrifennu [[deialog]], a'u gallu i greu naws sawl cyfnod hanes penodol mewn mannau penodol, rhai megis Dolgellau a Phenbedw yn gyfarwydd iddi. Seilir ei gwaith ar ymchwil hanesyddol trylwyr.<ref>''Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru'', gol. Meic Stephens (Gwasg Prifysgol Cymru, 1986).</ref> Addaswyd ''Y Stafell Ddirgel'' a'r ''Rhandir Mwyn'' ar gyfer y teledu gan y BBC, yn fuan ar ôl eu cyhoeddi, ar adeg pan oedd safon [[drama deledu|dramau teledu]] Cymraeg yn codi'n gyflym iawn. Gwnaeth y ddwy gyfres argraff ar wylwyr teledu nad oeddynt wedi darllen y nofelau. Ymddengys y thema alltudedd yn ei nofelau dro ar ôl tro.

Fersiwn yn ôl 13:30, 10 Rhagfyr 2018

Marion Eames
Geni 5 Chwefror 1921(1921-02-05)
Penbedw, Lloegr
Marw 3 Ebrill 2007(2007-04-03) (86 oed)
Galwedigaeth Nofelydd, bardd
Addysg Ysgol Dr Williams, Dolgellau.
Math o lên Nofelau hanesyddol
Gwaith nodedig Y Stafell Ddirgel, Y Rhandir Mwyn
Cymar Griffith Williams

Awdur nifer o nofelau hanesyddol Cymraeg oedd Marion Eames (5 Chwefror 19213 Ebrill 2007).

Bywyd a gwaith

Fe'i ganwyd i rieni Cymreig, ym Mhenbedw, Lloegr, ond fe'i magwyd yn Nolgellau, Meirionnydd er yn 4 oed. Dywedodd yn ddiweddarach mai ychydig o Gymraeg oedd ganddi pan symudodd i Ddolgellau. Ni allodd droi at siarad Cymraeg yn rhugl nes iddi symud i Aberystwyth am gyfnod o waith. Roedd hi wedi gadael Ysgol Dr Williams, Dolgellau yn 16 oed. Cafodd swydd yn Llyfrgell y Sir, Dolgellau. Yno bu raid iddi ddarllen llyfrau Cymraeg, a hynny a barodd iddi werthfawrogi llenyddiaeth Cymru ac i ymfalchïo yn ei Chymreictod. Penderfynodd ei bod am fod yn rhugl yn y Gymraeg. Cafodd y cyfle i wneud hynny pan symudodd i weithio am gyfnod o 2 flynedd fel llyfrgellydd ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth. Bwrodd ati i ymarfer siarad Cymraeg gyda'u ffrindiau newydd yno gan gynnwys ar aelwyd yr Urdd. Magodd ddigon o hyder i ddal ati i siarad Cymraeg pan ddychwelodd i weithio yn llyfrgell Dolgellau eto, a hynny yn wyneb rhagfarn ei chydnabod yn Nolgellau oedd wedi arfer meddwl amdani fel Saesnes yn hytrach na Chymraes.

Roedd Marion Eames wedi bod yn ysgrifennu straeon byrion yn Saesneg ers dyddiau ysgol. Wedi dychwelyd i Ddolgellau dechreuodd ysgrifennu erthyglau yn Saesneg a Chymraeg i bapurau Plaid Cymru, a daeth yn drefnydd rhanbarthol ar gyfer Plaid Cymru. Cafodd swydd golygydd y papur wythnosol lleol, Y Dydd ond, gan gymaint oedd pwysau'r gwaith arni, bu raid iddi roi'r gorau iddi, gan beidio â gweithio o gwbl am gyfnod. Y pryd hynny fe ail-daniwyd ei diddordeb mewn cerddoriaeth. Enillodd ar y ddeuawd cerdd dant yn Eisteddfodau Cenedlaethol Caerffili (1950) ac Aberystwyth (1952), ac enillodd ar ganu i hunangyfeiliant y delyn yn Eisteddfod Genedlaethol Llangefni (1957). Gyda chymorth grant fach aeth i astudio'r piano a'r delyn yng Ngholeg Cerdd Guildhall yn Llundain, gyda'r bwriad o ddychwelyd i Ddolgellau yn athrawes cerddoriaeth. Ond tra yn Llundain cyfarfu â'r newyddiadurwr Griffith Williams a'i briodi yn 1955. Bu'n gweithio i'r cylchgrawn Home & Country cyn i'r ddau ohonynt achub cyfle i ddychwelyd i Gymru, gan symud i Forgannwg lle y bu Marion yn gynhyrchydd radio i'r BBC yng Nghaerdydd hyd nes iddi ymddeol ym 1980.

Clawr Y Stafell Ddirgel

Parhai Marion Eames i ysgrifennu, gan gynnwys bod yn rhan o griw ysgrifennwyr cynnar Pobol y Cwm. Cafodd afael ar ddeunydd crai ei nofel gyntaf, Y Stafell Ddirgel, yn yr erthygl 'Crynwyr Cymreig Ardaloedd Dolgellau' a ymddangosodd mewn cyfrol o'r Geninen yn 1889. Roedd darllen yr erthygl eisoes wedi ei hysgogi i ysgrifennu stori fer ar gyfer cystadleuaeth yn Y Cymro, a hynny cyn iddi fynd i Lundain. Cyhoeddwyd Y Stafell Ddirgel ym 1969, a'i derbyn yn frwdfrydig gan y beirniaid llenyddol. Cyhoeddodd 6 nofel i oedolion i gyd ynghyd â nofelau ar gyfer plant a rhai gweithiau eraill.

Canmolir ei gwaith gan feirniaid llenyddol am ei dawn adrodd stori ac ysgrifennu deialog, a'u gallu i greu naws sawl cyfnod hanes penodol mewn mannau penodol, rhai megis Dolgellau a Phenbedw yn gyfarwydd iddi. Seilir ei gwaith ar ymchwil hanesyddol trylwyr.[1] Addaswyd Y Stafell Ddirgel a'r Rhandir Mwyn ar gyfer y teledu gan y BBC, yn fuan ar ôl eu cyhoeddi, ar adeg pan oedd safon dramau teledu Cymraeg yn codi'n gyflym iawn. Gwnaeth y ddwy gyfres argraff ar wylwyr teledu nad oeddynt wedi darllen y nofelau. Ymddengys y thema alltudedd yn ei nofelau dro ar ôl tro.

Llyfryddiaeth

Cyfrol deyrnged gan Richard R. Evans

Gwaith Marion Eames

Nofelau ar gyfer oedolion

Ar gyfer plant

  • Sionyn a Siarli (1977)
  • Sionyn a Siarli a'r Bws Hud
  • Duwies y Llyn yng Nghyfres Cled (2000)
  • Baner Beca (2004) – am derfysgoedd Beca

Arall

  • A Private Language? (1997) – yn seiliedig ar gyfres o ddarlithoedd ar lenyddiaeth Gymraeg a thraddododd i fewnfudwyr i Wynedd, ar gyfer y Workers' Educational Association.[2]

Astudiaethau

  • Richard E Evans, Marion Eames yn y gyfres Llên y Llenor (Gwasg Pantycelyn, 2003)
  • Branwen Jarvis, 'Pam Nofel Hanesyddol?' yn y gyfrol Rhyddid y Nofel, gol. Gerwyn Williams

Cyfeiriadau

  • Prif ffynhonnell – Portread – Marion Eames, cynhyrchiad teledu 'Y Bont' ar gyfer S4C (1998)
  1. Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru, gol. Meic Stephens (Gwasg Prifysgol Cymru, 1986).
  2. The Independent (6 Ebrill 2007)

Dolen allanol