Gogledd Iwerddon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu |
Gwybodlen Wicidata |

Llinell 1: | Llinell 1: | ||
{{Gwybodlen lle | suppressfields= gwlad image1 sir | enw_brodorol = '''Norlin Airlann'''
'''''Northern Ireland''''' | arwyddair = Quis separabit? | map lleoliad = [[File:LocationNorthernIreland.svg|270px]] | banergwlad = [[File:Flag of Northern Ireland.svg|170px]] }} |

{| border=1 align=right cellpadding=4 cellspacing=0 width=300 style="margin: 0 0 1em 1em; background: #f9f9f9; border: 1px #aaaaaa solid; border-collapse: collapse; font-size: 95%;" |

| style="background:#efefef;" align="center" colspan=2 | |

{| border="0" cellpadding="2" cellspacing="0" style="padding-top: 0.5em;" |

| align="center" width="170px" | [[Delwedd:Flag of UK.svg|140px|Baner]] |

| align="center" width="170px" | [[Delwedd:Flag of Northern Ireland.svg|140px|]] |

|'''''{{nowrap|Northern Ireland}}'''''
'''''{{nowrap|Tuaisceart Éireann}}'''''
'''''{{nowrap|Norlin Airlann}}'''''

'''{{nowrap|Gogledd Iwerddon}}''' |

| align="center" colspan=2 | ''[[Rhestr arwyddeiriau cenedlaethol|Arwyddair]]: Quis separabit?'' |

| align="center" colspan=2 | ''[[Anthem genedlaethol|Anthem]]: Danny Boy'' |

| align=center colspan=2 style="background: #ffffff;" | [[Delwedd:Map of Northern Ireland within the United Kingdom.svg|180px]] |

| '''[[Iaith swyddogol|Ieithoedd swyddogol]]''' |

| [[Saesneg]], [[Gwyddeleg]]
(siaredir hefyd [[Sgoteg Wlster]]) |

| '''[[Prifddinas]]''' |

| [[Belffast]] |

| '''[[Demograffeg Gogledd Iwerddon|Dinas fwyaf]]''' |

| [[Belffast]] |

| '''[[Prif Weinidog y Deyrnas Unedig|Prif Weinidog y DU]]''' || [[Theresa May]] |

| '''[[Prif Weinidog Gogledd Iwerddon|Prif Weinidog]]''' || neb |

| '''[[Ysgrifennydd Gwladol Gogledd Iwerddon|Ysgrifennydd Gwladol]]''' || [[James Brokenshire]] |

| '''[[Arwynebedd]]'''|| 14,130 [[Cilomedr sgwâr|km²]] (5,460 mill sg) |

| '''[[Poblogaeth]]'''
- Cyfrifiad [[2011]]
- Amcangyfrif [[2017]]
- [[Dwysedd poblogaeth|Dwysedd]] ||
1,810,863
1,868,700
122/km² |

| '''[[Arian breiniol]]''' |

| [[Punt sterling|Punt]] ([[ISO 4217|GBP]]) (£) |

| '''[[Cylchfa amser]]'''
- Haf |

| [[UTC]]
[[Amser Haf Prydain|UTC +1]] |

| '''[[Nawddsant]]''' |

| [[San Padrig]] |

Rhanbarth o'r [[Y Deyrnas Unedig|Deyrnas Unedig]] yw '''Gogledd Iwerddon''' ([[Gwyddeleg]]: '''''Tuaisceart Éireann''''', [[Saesneg]]: '''''Northern Ireland'''''; [[Sgoteg Wlster]]: '''''Norlin Airlann'''''), yng ngogledd-ddwyrain [[Iwerddon]]. Mae'n cynnwys chwech o 32 sir ynys [[Iwerddon]] - chwech o naw sir talaith Wledd neu [[Wlster]]. Mae iddi arwynebedd o 14,139 km² (5,459 milltir sgwâr), ac mae ganddi boblogaeth o 1,810,863 (Cyfrifiad 2011) (1,685,267, [[Cyfrifiad y Deyrnas Unedig 2001|Cyfrifiad 2001]]). [[Belffast]] yw'r [[prifddinas|brifddinas]]. |
Rhanbarth o'r [[Y Deyrnas Unedig|Deyrnas Unedig]] yw '''Gogledd Iwerddon''' ([[Gwyddeleg]]: '''''Tuaisceart Éireann''''', [[Saesneg]]: '''''Northern Ireland'''''; [[Sgoteg Wlster]]: '''''Norlin Airlann'''''), yng ngogledd-ddwyrain [[Iwerddon]]. Mae'n cynnwys chwech o 32 sir ynys [[Iwerddon]] - chwech o naw sir talaith Wledd neu [[Wlster]]. Mae iddi arwynebedd o 14,139 km² (5,459 milltir sgwâr), ac mae ganddi boblogaeth o 1,810,863 (Cyfrifiad 2011) (1,685,267, [[Cyfrifiad y Deyrnas Unedig 2001|Cyfrifiad 2001]]). [[Belffast]] yw'r [[prifddinas|brifddinas]]. |

Fersiwn yn ôl 08:28, 6 Rhagfyr 2018
Norlin Airlann Northern Ireland | |
Arwyddair | Quis separabit? |

Math | gwledydd y Deyrnas Unedig, tiriogaeth dramor gyfannol, gwlad ddi-sofran, gwlad |
Prifddinas | Belffast |
Poblogaeth | 1,852,168 |
Sefydlwyd | |
Cylchfa amser | UTC±00:00, Europe/Belfast, UTC+01:00 |
Nawddsant | Sant Padrig |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Saesneg, Gwyddeleg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Iwerddon |
Arwynebedd | 14,130 ±1 km² |
Yn ffinio gyda | Gweriniaeth Iwerddon |
Cyfesurynnau | 54.6075°N 6.6925°W |
Cod SYG | N92000002 |
GB-NIR | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon |
Corff deddfwriaethol | Cynulliad Gogledd Iwerddon |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Prif Weinidog Gogledd Iwerddon |
Arian | punt sterling |
Rhanbarth o'r Deyrnas Unedig yw Gogledd Iwerddon (Gwyddeleg: Tuaisceart Éireann, Saesneg: Northern Ireland; Sgoteg Wlster: Norlin Airlann), yng ngogledd-ddwyrain Iwerddon. Mae'n cynnwys chwech o 32 sir ynys Iwerddon - chwech o naw sir talaith Wledd neu Wlster. Mae iddi arwynebedd o 14,139 km² (5,459 milltir sgwâr), ac mae ganddi boblogaeth o 1,810,863 (Cyfrifiad 2011) (1,685,267, Cyfrifiad 2001). Belffast yw'r brifddinas.
Mae Gogledd Iwerddon yn cael ei llywodraethu gan Gynulliad Gogledd Iwerddon, yn Stormont, ac Ysgrifennydd Gwladol Gogledd Iwerddon sy'n atebol i lywodraeth San Steffan.
Fodd bynnag, hyd at 1800, roedd yr ynys gyfan (y Gogledd a'r De) yn un wlad - 'Teyrnas Iwerddon' - hyd nes i Loegr ei huno o dan Ddeddf Uno 1801 i'r hyn a alwyd yn 'Deyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon'. Wedi cread y Dalaith Rydd Wyddelig (Saorstat Eireann) ym 1922, allan o 26 o siroedd Iwerddon, parhaodd chwe sir y gogledd yn rhan o'r Deyrnas Unedig, a chafodd y wladwriaeth ei hail-enwi yn Deyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon ym 1927.
Yn ei gyfieithiad o un o ganeuon Tommy Makem, canodd Dafydd Iwan am y 'Pedwar Cae' (An Cheathrú Gort Glas). Gogledd Iwerddon ydyw'r pedwerydd cae - y cae sydd yn nwylo Lloegr, "ddaw eto yn rhydd medd hi."
Yr enw
Mae enw'r rhanbarth ei hun ac rhai enwau lleoedd o'i fewn yn bwnc dadleuol. Mae llawer yn dibynnu ar safbwyntiau gwleidyddol. Yr enghraifft enwocaf efallai yw dinas Derry/Londonderry, gyda'r ffurf Derry (Saesneg) neu Doire/Doire Cholm Chille (Gwyddeleg) yn cael ei defnyddio gan genedlaetholwyr Gwyddelig a Londonderry gan yr Unoliaethwyr.
'Gogledd Iwerddon' yw'r enw swyddogol ond mae nifer o Unoliaethwyr yn a'u cefnogwyr yn dal i defnyddio'r enw Ulster (Ulaidh). Ar y llaw arall, mae cenedlaetholwyr a gweriniaethwyr yn tueddu i gyfeirio at y rhanbarth fel 'Y Gogledd' (The North/North of Ireland) neu'r 'Chwe Sir' (Six Counties.
Unoliaethwyr
- Ulster (Ulaidh) yw'r enw hanesyddol am dalaith Wyddelig Wlster, gyda chwech o'i naw sir yn gorwedd yng Ngogledd Iwerddon. Mae cenedlaetholwyr yn gwrthod defnyddio'r enw i gyfeirio at Ogledd Iwerddon ond mae'r term "Ulster" yn cael ei defnyddio'n aml gan yr Unoliaethwyr a'r wasg Brydeinig i gyfeirio at Ogledd Iwerddon. Fe'i gwelir hefyd mewn enwau fel Radio Ulster, RUC, Ulster Unionist Party ac Ulster Volunteer Force (grwp paramilwrol).
- Y Dalaith (The Province / An Chúige) yw'r enw hanesyddol am dalaith Wyddelig Wlster ond fe'i defnyddir gan Unoliaethwyr ac eraill fel term am Ogledd Iwerddon. Yn ôl canllawiau'r BBC, mae "the province" yn dderbyniol ond dydy "Ulster" ddim. Mae'n argymell peidio defnyddio'r gair "Prydeinig" ("British") i gyfeirio at y bobl ond yn hytrach i ddefnyddio'r term niwtral "pobl Gogledd Iwerddon" ("people of Northern Ireland", a'r term "tir mawr" "mainland" wrth gyfeirio at Brydain Fawr mewn perthynas â Gogledd Iwerddon[1] Nid wy'r termau hyn yn dderbyniol gan y gymuned weriniaethol.
Cenedlaetholwyr/Gweriniaethwyr
Defnyddir sawl term gan weriniaethwyr a chenedlaetholwyr i gyfeirio at Ogledd Iwerddon:
- North of Ireland (Tuaisceart na hÉireann) - term sydd ddim yn cyfieithu i'r Gymraeg yn iawn ac sy'n pwysleisio fod y rhanbarth yn rhan o Iwerddon yn hytrach na'r DU.
- Gogledd-ddwyrain Iwerddon (North-East Ireland / Oirthuaisceart Éireann). Amrywiad ar yr uchod, llawer llai cyffredin.
- Y Chwe Sir (The Six Counties / na Sé Chontae) - term a ddefnyddir gan weriniaethwyr, e.e. Sinn Féin. Cyfeirir at Weriniaeth Iwerddon fel 'y 26 Sir' (Twenty-Six Counties)[2] Dadleuir fod defnyddio enw swyddogol y rhanbarth yn gyfystyr â derbyn ei fod yn perthyn i'r DU.
- The Occupied Six Counties.[3]
- British-Occupied Ireland. Fel Occupied Six Counties, defnyddir hyn gan weriniaethwyr sy'n gwrthwynebu Cytundeb Dydd Gwener y Groglith (Good Friday Agrrement).[4]
- Fourth Green Field (An Cheathrú Gort Glas). O'r gân Four Green Fields gan Tommy Makem.
Cyfeiriadau