Traeth Coch: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
manion
B robot yn ychwanegu: nn:Traeth Coch
Llinell 16: Llinell 16:


[[en:Traeth Coch]]
[[en:Traeth Coch]]
[[nn:Traeth Coch]]

Fersiwn yn ôl 23:23, 11 Ionawr 2010

Delwedd:TraethCoch.JPG
Traeth Coch

Mae Traeth Coch yn draeth tywodlyd, llydan ar ochr ddwyreiniol Ynys Môn. Mae'n gorwedd rhwng Trwyn Dwlban ger pentref Benllech i'r gorllewin a Llaniestyn i'r dwyrain. Caiff ei adnabod fel Red Wharf Bay yn Saesneg.

Rhed afon Nodwydd i'r traeth, sy'n ffurfio bae agored tua dwy filltir a hanner o led, ger pentref Pentraeth ; mae enw'r pentref hwnnw yn awgrymu fod y traeth yn ymestyn ymhellach i'r tir yn yr oesoedd a fu.

Bu Traeth Coch yn ddrwg-enwog am ei smyglwyr yn y gorffennol. Fe'i cysylltir hefyd â Gwrachod Llanddona ; dywedir yr ymsefydlodd y gwrachod a'u gwŷr yn yr ardal ar ôl i'w llong gael ei dryllio ar y Traeth Coch.

Ar un adeg roedd rheilffordd ar hyd ymyl orllewinol y traeth yn cysylltu Benllech a Pentre Berw, a phrif linell rheilffordd y Gogledd.

Eginyn erthygl sydd uchod am Ynys Môn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato