Titanic (ffilm 1997): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B nodyn
Alexbot (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 61: Llinell 61:
[[en:Titanic (1997 film)]]
[[en:Titanic (1997 film)]]
[[eo:Titanic (1997)]]
[[eo:Titanic (1997)]]
[[es:Titanic (1997)]]
[[es:Titanic (película de 1997)]]
[[et:Titanic (film)]]
[[et:Titanic (film)]]
[[eu:Titanic (1997ko filma)]]
[[eu:Titanic (1997ko filma)]]

Fersiwn yn ôl 08:20, 11 Ionawr 2010

Titanic

Poster y Ffilm
Cyfarwyddwr James Cameron
Cynhyrchydd Jon Landau
James Cameron
Ysgrifennwr James Cameron
Serennu Leonardo DiCaprio
Kate Winslet
Billy Zane
Frances Fisher
Victor Garber
Cerddoriaeth James Horner
Sinematograffeg Russell Carpenter
Golygydd Conrad Buff
James Cameron
Richard A. Harris
Dylunio
Cwmni cynhyrchu Yn rhyngwladol
20th Century Fox
UDA/Canada
Paramount Pictures
Dyddiad rhyddhau 19 Rhagfyr, 1997
Amser rhedeg 194 munud
Gwlad Unol Daleithiau
Iaith Saesneg
Gwefan swyddogol
(Saesneg) Proffil IMDb

Ffilm ramantaidd Americanaidd gan y cyfarwyddwr James Cameron yw Titanic (1997). Mae'n serennu Leonardo DiCaprio fel Jack Dawson a Kate Winslet fel Rose DeWitt Bukater, dau berson o ddosbarthiadau cymdeithasol gwahanol iawn sy'n cwympo mewn cariad ar fordaith anffortunus y llong. Mae'r prif gymeriadau a'r llinnyn stori ramantaidd sy'n ganolog i'r ffilm yn ffuglennol, ond mae rhai cymeriadau (fel aelodau o griw'r llong) yn seiliedig ar gymeriadau hanesyddol. Adroddir y stori gan Gloria Stuart, sy'n chwarae rhan Rose pan yn hen wraig.

Dechreuodd y broses gynhyrchu ym 1995, pan ffilmiodd Cameron ffilm go iawn o'r hyn sydd ar ôl o'r Titanic gwreiddiol. Dychmygodd stori gariad fel modd o ddenu'r gynulleidfa at y drychineb go iawn. Dechreuodd y ffilmio yn yr Akademik Mstislav Keldysh - a gynorthwyodd Cameron i ffilmio'r drylliad gwreiddiol - ar gyfer y golygfeydd cyfoes, ac adeiladwyd ail-grëad o'r llong yn Playas de Rosarito, Baja Califfornia. Defnyddiodd Cameron fodelau i raddfa a delweddaeth gyfrifiadurol i ail-greu'r llong-ddrylliad. Ar y pryd, Titanic oedd y ffilm ddrutaf i gael ei chreu erioed, yn costio tua $200 miliwn UDA gyda chyllid wrth Paramount Pictures a 20th Century Fox. Aeth y ddau gwmni bron yn fethdal yn ystod y broses cynhyrchu.

Bwriadwyd rhyddhau'r ffilm yn wreiddiol ar yr 2il o Orffennaf, 1997, ond roedd yr oedi ôl-gynhyrchu wedi golygu na chafodd y ffilm ei rhyddhau tan y 19eg o Ragfyr, 1997. Daeth y ffilm yn lwyddiant beirniadaol a masnachol enfawr, gan ennill unarddeg o Wobrau'r Academi, gan gynnwys y Ffilm Orau. Y ffilm hon yw'r ffilm a wnaeth fwyaf o arian erioed, gan wneud cyfanswm o $1.8 biliwn.

Cymeriadau

Eginyn erthygl sydd uchod am ffilm. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol