Dodona: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 14: Llinell 14:
*Stuart Rossiter (gol.), ''Greece'' yn y gyfres ''Blue Guides'' (Llundain, 1973). Disgrifiad manwl o'r safle, gyda mapiau.
*Stuart Rossiter (gol.), ''Greece'' yn y gyfres ''Blue Guides'' (Llundain, 1973). Disgrifiad manwl o'r safle, gyda mapiau.
*Oskar Seyffert, ''A Dictionary of Classical Antiquities'' (Llundain, 1902)
*Oskar Seyffert, ''A Dictionary of Classical Antiquities'' (Llundain, 1902)

[[Categori:Gwlad Groeg]]
[[Categori:Safleoedd Clasurol]]
[[Categori:Mytholeg Glasurol]]

Fersiwn yn ôl 15:20, 1 Hydref 2006

Temenos Zeus yn Dodona
Map o'r safle

Hen ganolfan grefyddol ger Ioaninna yn nhalaith Epiros (Epirus), gogledd-orllewin Gwlad Groeg.

Ystyrid Oracl y duw Zeus yn Dodona fel un o'r rhai hynaf yn Ngwlad Groeg ac roedd yn mwynhau parch mawr ymhlith y Groegwyr. Mae'r bardd Groeg Homer yn cyfeirio at "Dodona gaeafol" yn yr Iliad ac yn yr Odyssey. Dywed y daearyddwr Strabo fod yr oracl wedi cael ei symud yno o Skotoussa yn Thessaly ar orchymyn y duw Apollo, ond yn ôl yr hanesydd Herodotus sefydlwyd yr oracl ar ôl i golomen o Thebes (yn yr Aifft) lanio ar hen dderwydden a dyfai yno.

Yn ôl Homer eto gwasanaethid yr oracl gan offeiriaid, y selloi, nad olchant eu traed ac a gysgai ar y llawr, ond yn erbyn y cyfnod clasurol gwasanaethai offeiriadesau yno. Roeddent yn daroganu ar ôl disgyn mewn perlewyg, fel y bythones yn Delphi. Mae Herodotus yn dweud fod yr oracl yn siarad trwy sibrwd dail y dderwydden.

Cafodd y safle ei gloddio am y tro cyntaf yn 1875 ac ers 1952 mae Gwasanaeth Archaeolegol Gwlad Groeg wedi cloddio yno yn achlysurol.

Y prif olion sydd i'w gweld yno heddiw yw'r Theatr (mewn lliw oren ar y map), a godwyd yn amser Pyrrhus (297 C.C.-272 C.C.), yr acropolis (lliw brown), Teml Aphrodite (rhif 10 ar y map) a safle'r oracl ei hun, Temenos Zeus Naios (rhif 11 ar y map). Mae yno hefyd basilica cynnar (rhif 16).

Llyfryddiaeth

  • Stuart Rossiter (gol.), Greece yn y gyfres Blue Guides (Llundain, 1973). Disgrifiad manwl o'r safle, gyda mapiau.
  • Oskar Seyffert, A Dictionary of Classical Antiquities (Llundain, 1902)