Medb: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
TXiKiBoT (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: ru:Медб
Llinell 29: Llinell 29:
[[fr:Medb]]
[[fr:Medb]]
[[it:Medb]]
[[it:Medb]]
[[nl:Medb]]
[[ja:メイヴ]]
[[ja:メイヴ]]
[[nl:Medb]]
[[pl:Maeve]]
[[pl:Maeve]]
[[pt:Maeve]]
[[pt:Maeve]]
[[ru:Медб]]
[[sv:Medb]]
[[sv:Medb]]

Fersiwn yn ôl 21:15, 6 Ionawr 2010

Carnedd Medb ar ben Cnoc na Riabh

Mae Medb, brenhines Connacht yn Iwerddon, hefyd Meabh neu Maeve yn gymeriad ym mytholeg Iwerddon, yn enwedig yn y Táin Bó Cúailnge ("Cyrch Gwartheg Cúailnge"), un o'r gweithiau pwysicaf yn llenyddiaeth gynnar Iwerddon. Credir ei bod yn wreiddiol yn dduwies sofraniaeth, a bod yn brenin yn ei phriodi yn seremonïol.

Roedd Medb yn ferch i Eochaid Feidlech, Uchel Frenin Iwerddon. Priododd nifer o weithiau. Ei gŵr cyntaf oedd Conchobar mac Nessa o Ulster, ond ni pharhaodd y briodas yn hir. Priododd Conchobar chwaer Medb, Eithne, wedyn, ond llofruddiodd Medb hi.

Mae Medb ac un arall o'i gwŷr, Ailill yn ymddangos yn y Táin Bó Cúailnge. Pan mae Medb ac Ailill yn cymharu eu cyfoeth, maent bron yn gyfartal, ond mae Ailill yn berchen ar y tarw Finnbhennach. Ar un adeg roedd y tarw yn perthyn i Medb, ond gan ei fod yn anfodlon cael gwraig yn berchennog arno, crwydrodd i ffwrdd ac ymuno â buches Ailill. I geisio dod yn gyfartal â'i gŵr mae Medb yn codi byddin i ddwyn y tarw enwog Donn Cuailnge o Cúailnge (Cooley).

Mae melltith ar wŷr Wlster, a'r unig un sydd ar gael i amddiffyn Wlster yw'r arwr dwy ar bymtheg oed Cúchulainn. Llwydda byddin Connacht i gipio'r tarw tra mae Cúchulainn yn cyfarfod merch, ond mae Cúchulainn yn galw ar yr hen hawl i fynnu ymladd un yn erbyn un ger rhyd. Pery'r ymladd am fisoedd, gyda Cúchulainn yn gorchfygu rhyfelwyr gorau Connacht un ar ôl y llall.

Yn y diwedd mae rhyfelwyr Wlster yn dechrau deffro, a gorfodir byddin Medb i encilio. Maent yn llwyddo i ddwyn Donn Cuailnge yn ôl i Connacht, ond wedi cyrraedd yno mae'n ymladd a Finnbhennach. Lleddir Finnbhennach, ond mae Donn Cuailnge ei hun yn cael ei glwyfo'n farwol.

Lladdwyd Medb gan Furbaide, mab Eithne, fel dial am lofruddiaeth ei fam. Yn ôl y chwedl, claddwyd hi dan garnedd 40 troedfedd o uchder ar gopa Cnoc na Riabh (Saesneg: Knocknarea) ger Sligo.

Llyfryddiaeth