Mewnfudo: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B robot yn ychwanegu: hi:आव्रजन |
|||
Llinell 6: | Llinell 6: | ||
Yng [[Cymru|Nghymru]] mae'r ymateb yn wahanol. Y pryder yng Nghymru yw bod nifer o fewnduwyr o Loegr yn symud i mewn i'r [[Fro Gymraeg]] gan beryglu dyfodol yr iaith [[Gymraeg]] yn ei chadarnleoedd olaf trwy beidio cymathu â'r gymuned a chodi prisiau tai y tu hwnt i gyrraedd pobl leol. Yn wahanol i Loegr mae'r ymateb cryfaf i'r sefyllfa yn dod o'r [[asgell-chwith]] genedlaetholgar yn hytrach na'r asgell-dde. Un o'r grwpiau amlycaf yn y cyd-destun hwn yw'r mudiad [[Cymuned (mudiad)|Cymuned]]. |

||
==Mewnfudo |
==Mewnfudo i America o Gymru== |
||
Yn y 18ed a'r 19eg ganrif cafwyd [[Americanwyr Cymreig|mewnfudo |
Yn y 18ed a'r 19eg ganrif cafwyd [[Americanwyr Cymreig|mewnfudo i America o Gymru]]. Symudodd llawer o [[Crynwyr|Grynwyr]] Cymreig i [[Pennsylvania|Bennsylvania]]. |
||
{{eginyn}} |
{{eginyn}} |
Fersiwn yn ôl 18:43, 5 Ionawr 2010
Mewnfudo yw symud i mewn i wlad i fyw ynddi, gan unigolyn neu unigolion o wlad arall. Oherwydd y problemau cymdeithasol sy'n gallu codi pan fo nifer fawr o bobl yn mewnfudo mae'n bwnc llosg mewn sawl gwlad.
Mewn cyd-destun Prydeinig, ac yn arbennig yn achos Lloegr, mae nifer o bobl yn pryderu am y mewnfudo o wledydd Asiaidd a'r Caribî. Mae hynny wedi bod yn faes ffrwythlon i fudiadau asgell-dde fel y BNP a UKIP sy'n ceisio elwa ar hiliaeth. Mae ymateb llywodraeth Prydain i hyn wedi amrywio dros y blynyddoedd. Dadleuodd Tony Blair fod angen rheoli mewnfudo, yn arbennig yn achos ceiswyr noddfa. Cymhlethir y sefyllfa gan y Rhyfel yn erbyn Terfysgaeth a'r alwad am gyflwyno cardiau cydnabod.
Yng Nghymru mae'r ymateb yn wahanol. Y pryder yng Nghymru yw bod nifer o fewnduwyr o Loegr yn symud i mewn i'r Fro Gymraeg gan beryglu dyfodol yr iaith Gymraeg yn ei chadarnleoedd olaf trwy beidio cymathu â'r gymuned a chodi prisiau tai y tu hwnt i gyrraedd pobl leol. Yn wahanol i Loegr mae'r ymateb cryfaf i'r sefyllfa yn dod o'r asgell-chwith genedlaetholgar yn hytrach na'r asgell-dde. Un o'r grwpiau amlycaf yn y cyd-destun hwn yw'r mudiad Cymuned.
Mewnfudo i America o Gymru
Yn y 18ed a'r 19eg ganrif cafwyd mewnfudo i America o Gymru. Symudodd llawer o Grynwyr Cymreig i Bennsylvania.