Abaty Grace Dieu: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
Gwybodlen WD
Llinell 1: Llinell 1:
{{Gwybodlen lle
| gwlad = {{banergwlad|Cymru}}
}}
Abaty [[Sistersaidd]] oedd '''Abaty Grace Dieu''', a sefydlwyd ar gais John, Arglwydd Trefynwy yn [[1226]]. Roedd yn dŷ cangen o [[Abaty Dore]], oedd ei hun yn dŷ cangen o [[Abaty Morimund]] yn [[Ffrainc]]. Lleolid hi ychydig i'r gogledd o [[Trefynwy|Drefynwy]].
Abaty [[Sistersaidd]] oedd '''Abaty Grace Dieu''', a sefydlwyd ar gais John, Arglwydd Trefynwy yn [[1226]]. Roedd yn dŷ cangen o [[Abaty Dore]], oedd ei hun yn dŷ cangen o [[Abaty Morimund]] yn [[Ffrainc]]. Lleolid hi ychydig i'r gogledd o [[Trefynwy|Drefynwy]].



Fersiwn yn ôl 13:08, 30 Tachwedd 2018

Abaty Grace Dieu
Mathabaty Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1226 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirTrefynwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.814246°N 2.797477°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethheneb gofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwMM158 Edit this on Wikidata

Abaty Sistersaidd oedd Abaty Grace Dieu, a sefydlwyd ar gais John, Arglwydd Trefynwy yn 1226. Roedd yn dŷ cangen o Abaty Dore, oedd ei hun yn dŷ cangen o Abaty Morimund yn Ffrainc. Lleolid hi ychydig i'r gogledd o Drefynwy.

Fel sefydliad estron, nid oedd yn boblogaidd gyda'r Cymry. Dinistriwyd yr abaty yn un o ymgyrchoedd Llywelyn Fawr yn 1233. Ail-sefydlwyd yr abaty ar safle newydd, ar lan Afon Trothi, 6 km i'r gorllewin o Drefynwy, erbyn 1236. Talodd Llywelyn iawndal iddynt yr un flwyddyn.

Abaty tlawd fu Grace Dieu erioed; amcangyfrifwyd ei werth fel £18 yn asesiad 1291 (o'i gymharu a £145 ar gyfer Abaty Tyndyrn gerllaw), ac yn 1335, esgymunwyd yr abad am fethu talu ei ddegwm. Adeg chwalu'r mynachlogydd, dim ond dau fynach oedd yno, a dim ond £19 oedd yr amcangyfrif o werth yr abaty. Nid oes dim o'i gweddillion yn weladwy.

Llyfryddiaeth