Gweithredydd (cysylltiadau rhyngwladol): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crewyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Yn namcaniaeth cysylltiadau rhyngwladol, unrhyw endid sydd yn chwarae rhan mewn cysylltiadau rhyngwladol yw '''gw...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 00:25, 4 Ionawr 2010

Yn namcaniaeth cysylltiadau rhyngwladol, unrhyw endid sydd yn chwarae rhan mewn cysylltiadau rhyngwladol yw gweithredydd[1] neu actor. Defnyddir y term yn eang yn yr oes fodern gan ei fod yn osgoi cyfyngiadau'r term gwladwriaeth ac yn cydnabod bod nifer o endidau bellach yn dylanwadu ar gysylltiadau rhyngwladol[2] a bod yr hen safbwynt gwladwriaeth-ganolog wedi newid.

Bodolir gwahanol ddamcaniaethau i geisio ddiffinio'r system ryngwladol yn nhermau gweithredyddion; arloesol yn y maes hwn oedd dadl Oran Young o blaid model gweithredydd-cymysg yn y 1970au. Yn fwy penodol, mae ysgolheigion ers hynny wedi awgrymu dosbarthu gweithredyddion yn ôl y tasgau maent yn eu perfformio, pwy neu beth mae'r tasgau hyn yn effeithio arnynt, neu eu lefel o ymreolaeth (yn hytrach na'r hen fodel o weld gweithredyddion rhyngwladol yn nhermau eu sofraniaeth).[2]

Mae gweithredyddion yn cynnwys:

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Ffynhonnell

  • Evans, G. a Newnham, J. The Penguin Dictionary of International Relations (Lloegr, Penguin, 1998).