Hoyw: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Garik (sgwrs | cyfraniadau)
B Gramadeg
Garik (sgwrs | cyfraniadau)
Aileiriad
Llinell 5: Llinell 5:
Yn wreiddiol mae'r gair yn golygu ''hapus'', ''llon'', ''sionc'', ''bywiog'' neu ''diofal''.<ref>[[Geiriadur Prifysgol Cymru]], tud. 1901.</ref> Mae gan ''hoyw'' yn ei ystyr traddodiadol nifer fawr o [[tarddair|darddeiriau]], yn cynnwys ''hoywad'' (addurniad neu daclusiad), ''hoywi'' (i wneud rhywbeth yn hoyw), ''hoywaidd'' (bron yn gyfystyr â ''hoyw''), ''hoywder'' (y briodwedd o fod yn hoyw), a nifer o [[cyfansoddair|gyfansoddeiriau]] megis ''hoywdon'', ''hoywfro'' a ''hoyw-wyrdd''.<ref>{{dyf gwe | teitl = Fersiwn Cryno o Argraffiad Cyntaf [[Geiriadur Prifysgol Cymru]] | url = http://www.aber.ac.uk/geiriadur/pdf/GPC0018-06.pdf | dyddiadcyrchiad = 20 Ebrill | blwyddyncyrchiad = 2008 | cyhoeddwr = [[Prifysgol Aberystwyth]] }} Chwiliwch y ffeil am "hoyw".</ref>
Yn wreiddiol mae'r gair yn golygu ''hapus'', ''llon'', ''sionc'', ''bywiog'' neu ''diofal''.<ref>[[Geiriadur Prifysgol Cymru]], tud. 1901.</ref> Mae gan ''hoyw'' yn ei ystyr traddodiadol nifer fawr o [[tarddair|darddeiriau]], yn cynnwys ''hoywad'' (addurniad neu daclusiad), ''hoywi'' (i wneud rhywbeth yn hoyw), ''hoywaidd'' (bron yn gyfystyr â ''hoyw''), ''hoywder'' (y briodwedd o fod yn hoyw), a nifer o [[cyfansoddair|gyfansoddeiriau]] megis ''hoywdon'', ''hoywfro'' a ''hoyw-wyrdd''.<ref>{{dyf gwe | teitl = Fersiwn Cryno o Argraffiad Cyntaf [[Geiriadur Prifysgol Cymru]] | url = http://www.aber.ac.uk/geiriadur/pdf/GPC0018-06.pdf | dyddiadcyrchiad = 20 Ebrill | blwyddyncyrchiad = 2008 | cyhoeddwr = [[Prifysgol Aberystwyth]] }} Chwiliwch y ffeil am "hoyw".</ref>


Yn [[20fed ganrif|yr ugeinfed ganrif]] lledaenodd y defnydd o ''hoyw'' fel term i ddisgrifio cyfunrywioldeb. Datblygodd y synnwyr newydd hwn dan ddylanwad y gair [[Saesneg]] ''gay'', sef, yn ei ystyr traddodiadol, y cyfieithiad agosaf at ''hoyw'', ond oedd wedi cael ei gymhwyso at gyfunrywioldeb yn ystod y cyfnod hwn. Heddiw mae ''hoyw'' wedi ei safoni fel y term Cymraeg anffurfiol i ddisgrifio cyfunrywioldeb,<ref>Gweler defnydd o'r gair ''hoyw'' gan y [[BBC]] ([http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_5240000/newsid_5246400/5246482.stm]), [[Cynulliad Cenedlaethol Cymru]] ([http://new.wales.gov.uk/news/ThirdAssembly/Equality/2007/1824414/?lang=cy]), [[GIG Cymru|Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru]] ([http://www.wales.nhs.uk/w-searchresults.cfm?q=hoyw&requiredfields=DC%252Elanguage%3Acym]), a'r mudiad hawliau [[LHDT]] [[Stonewall (DU)|Stonewall]] ([http://www.stonewallcymru.org.uk/cymru/welsh/]).</ref> gydag ''hoywon'' fel gair lluosog am gyfunrywiolion. Ond er bod ''hoyw'' yn cyfeirio at holl bobl gyfunrywiol mewn rhai cyd-destunau, mae'r term ''[[lesbiad]]'' yn rhyw-benodol (mae'n disgrifio menywod cyfunrywiol yn unig), felly weithiau defnyddir ''hoyw'' a ''hoywon'' i ddisgrifio dynion yn unig (gweler [[Cyfunrywioldeb#Terminoleg a geirdarddiad|terminoleg cyfunrywioldeb]]). Gall hefyd disgrifio pethau sy'n gyffredin i bobl gyfunrywiol, e.e. hanes hoyw, cerddoriaeth hoyw. Weithiau defnyddir y gair ''hoyw'' i gyfeirio at berthnasoedd rhwng pobl o'r un ryw, er enghraifft ''priodas hoyw'', er bod rhai cefnogwyr [[LHDT]] yn annog yn erbyn y defnydd hwn ar y sail ei fod yn eithrio pobl [[deurywioldeb|ddeurywiol]] a [[trawsrywedd|thrawsryweddol]] ac yn annog defnyddio ''cyfunryw'' yn lle.
Yn [[20fed ganrif|yr ugeinfed ganrif]] lledaenodd y defnydd o ''hoyw'' fel term i ddisgrifio cyfunrywioldeb. Datblygodd y synnwyr newydd hwn dan ddylanwad y gair [[Saesneg]] ''gay'', sef, yn ei ystyr traddodiadol, y cyfieithiad agosaf at ''hoyw''; oherwydd y newid yn ystyr y gair Saesneg, a oedd wedi cael ei gymhwyso at gyfunrywioldeb erbyn degawdau cynnar y ganrif, gweliwyd newid yn ystyr y gair Cymraeg hefyd. Heddiw mae ''hoyw'' wedi ei safoni fel y term Cymraeg anffurfiol i ddisgrifio cyfunrywioldeb,<ref>Gweler defnydd o'r gair ''hoyw'' gan y [[BBC]] ([http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_5240000/newsid_5246400/5246482.stm]), [[Cynulliad Cenedlaethol Cymru]] ([http://new.wales.gov.uk/news/ThirdAssembly/Equality/2007/1824414/?lang=cy]), [[GIG Cymru|Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru]] ([http://www.wales.nhs.uk/w-searchresults.cfm?q=hoyw&requiredfields=DC%252Elanguage%3Acym]), a'r mudiad hawliau [[LHDT]] [[Stonewall (DU)|Stonewall]] ([http://www.stonewallcymru.org.uk/cymru/welsh/]).</ref> gydag ''hoywon'' fel gair lluosog am gyfunrywiolion. Ond er bod ''hoyw'' yn cyfeirio at holl bobl gyfunrywiol mewn rhai cyd-destunau, mae'r term ''[[lesbiad]]'' yn rhyw-benodol (mae'n disgrifio menywod cyfunrywiol yn unig), felly weithiau defnyddir ''hoyw'' a ''hoywon'' i ddisgrifio dynion yn unig (gweler [[Cyfunrywioldeb#Terminoleg a geirdarddiad|terminoleg cyfunrywioldeb]]). Gall hefyd disgrifio pethau sy'n gyffredin i bobl gyfunrywiol, e.e. hanes hoyw, cerddoriaeth hoyw. Weithiau defnyddir y gair ''hoyw'' i gyfeirio at berthnasoedd rhwng pobl o'r un ryw, er enghraifft ''priodas hoyw'', er bod rhai cefnogwyr [[LHDT]] yn annog yn erbyn y defnydd hwn ar y sail ei fod yn eithrio pobl [[deurywioldeb|ddeurywiol]] a [[trawsrywedd|thrawsryweddol]] ac yn annog defnyddio ''cyfunryw'' yn lle.


Yn y Saesneg, defnydd dadleuol o'r term ''gay'' yw i ddisgrifio rhywbeth annymunol, e.e. ''that's so gay'' ("mae hwnna mor hoyw"). Nid yw'r cymhwysiad hwn fel term dirmygus wedi'i drosglwyddo i Gymraeg gyffredin.<ref>Er hyn, gweler defnydd ar un sgwrs ar [[maes-e]] o ''hoyw'' fel gair sarhaus. [http://maes-e.com/viewtopic.php?f=28&t=19652&p=294819]</ref>
Yn y Saesneg, defnydd dadleuol o'r term ''gay'' yw i ddisgrifio rhywbeth annymunol, e.e. ''that's so gay'' ("mae hwnna mor hoyw"). Nid yw'r cymhwysiad hwn fel term dirmygus wedi'i drosglwyddo i Gymraeg gyffredin.<ref>Er hyn, gweler defnydd ar un sgwrs ar [[maes-e]] o ''hoyw'' fel gair sarhaus. [http://maes-e.com/viewtopic.php?f=28&t=19652&p=294819]</ref>

Fersiwn yn ôl 19:07, 31 Rhagfyr 2009

Mae'r dudalen hon am y gair "hoyw". Am wybodaeth am y cyfeiriadedd rhywiol gweler cyfunrywioldeb.
Cyfeiriadedd rhywiol
rhan o rywoleg
Gwahaniaethau

Anrhywioldeb · Cyfunrywioldeb · Deurywioldeb · Heterorywioldeb · Hollrywioldeb · Paraffilia · Unrhywioldeb

Labeli

Cwestiynu · Hoyw · Lesbiad · Queer

Dulliau

Graddfa Kinsey · Grid Klein

Astudiaeth

Bioleg · Demograffeg · Meddygaeth · Seicoleg

Anifeiliaid

Cyfunrywioldeb
mewn anifeiliaid
 ·

Gweler hefyd

Rhyngrywioldeb · Trawsrywedd · Trawsrywioldeb

Y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu

Ansoddair Cymraeg yw hoyw sydd, yn draddodiadol, yn golygu sionc neu bywiog, ond sydd yn aml mewn defnydd cyfoes yn cael ei ddefnyddio fel y term anffurfiol am gyfunrywiol.

Yn wreiddiol mae'r gair yn golygu hapus, llon, sionc, bywiog neu diofal.[1] Mae gan hoyw yn ei ystyr traddodiadol nifer fawr o darddeiriau, yn cynnwys hoywad (addurniad neu daclusiad), hoywi (i wneud rhywbeth yn hoyw), hoywaidd (bron yn gyfystyr â hoyw), hoywder (y briodwedd o fod yn hoyw), a nifer o gyfansoddeiriau megis hoywdon, hoywfro a hoyw-wyrdd.[2]

Yn yr ugeinfed ganrif lledaenodd y defnydd o hoyw fel term i ddisgrifio cyfunrywioldeb. Datblygodd y synnwyr newydd hwn dan ddylanwad y gair Saesneg gay, sef, yn ei ystyr traddodiadol, y cyfieithiad agosaf at hoyw; oherwydd y newid yn ystyr y gair Saesneg, a oedd wedi cael ei gymhwyso at gyfunrywioldeb erbyn degawdau cynnar y ganrif, gweliwyd newid yn ystyr y gair Cymraeg hefyd. Heddiw mae hoyw wedi ei safoni fel y term Cymraeg anffurfiol i ddisgrifio cyfunrywioldeb,[3] gydag hoywon fel gair lluosog am gyfunrywiolion. Ond er bod hoyw yn cyfeirio at holl bobl gyfunrywiol mewn rhai cyd-destunau, mae'r term lesbiad yn rhyw-benodol (mae'n disgrifio menywod cyfunrywiol yn unig), felly weithiau defnyddir hoyw a hoywon i ddisgrifio dynion yn unig (gweler terminoleg cyfunrywioldeb). Gall hefyd disgrifio pethau sy'n gyffredin i bobl gyfunrywiol, e.e. hanes hoyw, cerddoriaeth hoyw. Weithiau defnyddir y gair hoyw i gyfeirio at berthnasoedd rhwng pobl o'r un ryw, er enghraifft priodas hoyw, er bod rhai cefnogwyr LHDT yn annog yn erbyn y defnydd hwn ar y sail ei fod yn eithrio pobl ddeurywiol a thrawsryweddol ac yn annog defnyddio cyfunryw yn lle.

Yn y Saesneg, defnydd dadleuol o'r term gay yw i ddisgrifio rhywbeth annymunol, e.e. that's so gay ("mae hwnna mor hoyw"). Nid yw'r cymhwysiad hwn fel term dirmygus wedi'i drosglwyddo i Gymraeg gyffredin.[4]

Cyfeiriadau

  1. Geiriadur Prifysgol Cymru, tud. 1901.
  2.  Fersiwn Cryno o Argraffiad Cyntaf Geiriadur Prifysgol Cymru. Prifysgol Aberystwyth. Adalwyd ar 20 Ebrill, 2008. Chwiliwch y ffeil am "hoyw".
  3. Gweler defnydd o'r gair hoyw gan y BBC ([1]), Cynulliad Cenedlaethol Cymru ([2]), Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru ([3]), a'r mudiad hawliau LHDT Stonewall ([4]).
  4. Er hyn, gweler defnydd ar un sgwrs ar maes-e o hoyw fel gair sarhaus. [5]
Eginyn erthygl sydd uchod am faterion lesbiaidd, hoyw, deurywiol neu drawsryweddol. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato