C.P.D. Tref Y Fflint Unedig: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
newid url i www.welshsoccerarchive.co.uk, replaced: wfda → welshsoccerarchive (16) using AWB
BDim crynodeb golygu
Llinell 44: Llinell 44:


==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
{{cyfeiriadau|2}}


==Dolen allanol=
==Dolen allanol==
* [http://www.pitchero.com/clubs/flinttownunited Gwefan y clwb]
* [http://www.pitchero.com/clubs/flinttownunited Gwefan y clwb]



Fersiwn yn ôl 10:27, 27 Tachwedd 2018

Tref Y Fflint Unedig
Enw llawn Clwb Pêl-droed Tref Y Fflint Unedig
Llysenw(au) Y Gwŷr Sidan (The Silkmen)
Sefydlwyd 1886
Maes Cae y Castell
Cynghrair Cynghrair Undebol

Clwb pêl-droed o dref Y Fflint, Sir Y Fflint yw Clwb Pêl-droed Tref Y Fflint Unedig (Saesneg: Flint Town United Football Club) sy'n chwarae yng Nghynghrair Undebol Huws Gray, sef prif adran gogledd Cymru ac ail reng pyramid pêl-droed cenedlaethol Cymru.

Ffurfwyd y clwb yn 1886 fel C.P.D. Y Fflint[1] ac maent yn chwarae eu gemau cartref ar Cae y Castell. Niall McGuiness yw rheolwr y clwb.

Hanes

Ffurfiwyd C.P.D. Y Fflint ym 1886[1] gyda'r clwb yn cyrraedd rownd derfynol y Cwpan Amatur ym 1890-91 cyn colli yn erbyn C.P.D. Fictoria Wrecsam[2]. Llwyddodd Y Fflint hefyd i ddod yn aelodau gwreiddiol Cynghrair Arfordir Gogledd Cymru ac ennill y bencampwriaeth cyntaf un ym 1893-94[3][4].

Ym 1905, unodd tri o glybiau'r dref; Flint Town, Flint Athletic a Flint United Alkali Company i greu C.P.D. Tref Y Fflint (Saesneg: Flint Town Footbal Club) a sicrhawyd eu llwyddiant cyntaf yn rownd derfynol Cwpan Amatur Cymdeithas Bêl-droed Arfordir Gogledd Cymru ym 1909-10 pan drechwyd Pwllheli o gôl i ddim.[5] a llwyddodd y clwb i gyrraedd rownd derfynol Cwpan Cymru ym 1924-25 cyn colli yn erbyn Wrecsam[6].

Wedi'r Ail Ryfel Byd unodd C.P.D Tref Y Fflint gyda chlwb newydd o'r enw C.P.D. Athletic Y Fflint, oedd wedi bod yn chwarae yng Nghynghrair Dyserth[1], o dan yr enw C.P.D. Tref Y Fflint Unedig. Llwyddodd y clwb newydd i ennill Cwpan Amatur Cymru ym 1947-48[2] cyn ymuno â Chynghrair Cymru (Y Gogledd) ym 1949-50[7].

Daeth oes aur y clwb yn ystod y 1950au wrth i gyn chwaraewr rhyngwladol Cymru, Billy Hughes arwain y tîm i fuddugoliaeth dros Gaer yn rownd derfynol Cwpan Cymru o flaen torf o 15,584 ar Y Cae Ras[8].

Erbyn diwedd y 1960au roedd y clwb wedi disgyn i chwarae mewn cynghreiriau lleol a bu rhaid disgwyl tan 1988-89 am unrhyw lwyddiant pan enillodd y clwb Gynghrair Undebol y Gogledd[9]. Cafwyd gwahoddiad i fod yn rhan o gynghrair newydd y Gynghrair Undebol ar gyfer tymor 1990-91[10] gan ddod yn bencampwyr cyntaf y gynghrair newydd[11].

Ar ddiwedd tymor 1990-91 cafwyd gêm rhwng pencampwyr y Gynghrair Undebol a phencampwyr Cynghrair Cymru (Y De) er mwyn penderfynu pencampwyr Cymru. Llwyddodd Y Fflint i drechu Y Fenni i ddod yn bencampwyr cyntaf Cymru.[12]. Yn 1992 cafodd y clwb wahoddiad i fod yn un o'r 20 clwb yn nhymor cyntaf Uwch Gynghrair Cymru gan orffen y tymor cyntaf yn yr 16eg safle[13] cyn colli eu lle ym mhrif adran Cymru ar ddiwedd tymor 1997-98[14].

Anrhydeddau

  • Cwpan Cymru: 1
    • Ennillwyr: 1953-54
    • Cyrraedd y Rownd Derfynol: 1924-25
  • Cwpan Amatur Cymru: 1
    • Ennillwyr: 1947-48
    • Cyrraedd y Rownd Derfynol: 1890-91, 1939-40

Cyfeiriadau

  1. 1.0 1.1 1.2 "Profile:Flint Town United". Unknown parameter |published= ignored (help)
  2. 2.0 2.1 "Welsh Amateur Cup Results". Unknown parameter |published= ignored (help)
  3. "North Wales Coast League History". Unknown parameter |published= ignored (help)
  4. "North Wales Coast League: 1893-94". Unknown parameter |published= ignored (help)
  5. Davies, Gareth M. A Coast of Soccer Memories 1894-994. t. 313. ISBN 0-9524950-0-7.
  6. "Welsh Cup Final 1924-25". Unknown parameter |published= ignored (help)
  7. "Welsh League (North): 1949-50". Unknown parameter |published= ignored (help)
  8. "Welsh Cup Final: 1953-54". Unknown parameter |published= ignored (help)
  9. "Welsh Alliance: 1988-89". Unknown parameter |published= ignored (help)
  10. "Cymru Alliance History". Unknown parameter |published= ignored (help)
  11. "Cymru Alliance: 1990-91". Unknown parameter |published= ignored (help)
  12. "Cymru Alliance 1990-91". Unknown parameter |published= ignored (help)
  13. "Teithio'r Tymhorau: 1992-93". Unknown parameter |published= ignored (help)
  14. "Welsh Tables 1997-98". Unknown parameter |published= ignored (help)

Dolen allanol

Cynghrair Undebol, 2018-19

Airbus UK | Bangor | Bwcle | Cegidfa | Conwy | Dinbych | Gresffordd | Hotspur Caergybi |
Llanrhaeadr | Penrhyncoch | Porthmadog | Prestatyn | Rhuthun | Treffynnon Y Fflint | Y Rhyl