Canu Llywarch Hen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 15: Llinell 15:
#Llywarch a Maen
#Llywarch a Maen
#Gwahodd Llywarch i Lanfawr (Llanfor)
#Gwahodd Llywarch i Lanfawr (Llanfor)
#Claf Abercuawg
#[[Abercuawg|Claf Abercuawg]]
#Mechydd ap Llywarch
#Mechydd ap Llywarch
#Enwau Meibion Llywarch Hen
#Enwau Meibion Llywarch Hen

Fersiwn yn ôl 16:57, 29 Rhagfyr 2009

Canu Llywarch Hen yw'r enw a roddwyd ar y cyfresi o englynion am yr arwr Llywarch Hen gan yr ysgolhaig Ifor Williams yn ei gyfrol o'r un enw (mae Canu Llywarch Hen, 1935, yn cynnwys y cerddi a adnabyddir fel Canu Heledd yn ogystal â cherddi eraill sy'n perthyn i'r cylch).

Cefndir

Aelod o deulu brenhinol Rheged yn yr Hen Ogledd oedd Llywarch Hen (fl. diwedd y 6ed ganrif). Mae'n bosibl ei fod wedi olynu Urien Rheged fel brenin Rheged (bu farw Owain fab Urien cyn ei dad), ond nid oes sicrwydd am hynny. Mae dyddiadau geni a marw Llywarch Hen yn anhysbys. Roedd yn gefnder i Urien Rheged ac yn un o ddisgynyddion Coel Hen. Ychydig iawn a wyddys amdano ar wahân i'r hyn a geir yn nhraddodiadau cynnar Cymru. Yn yr achau traddodiadol a elwir Bonedd Gwŷr y Gogledd mae'n un o ddisgynyddion Coel Hen, hendaid Rhodri Mawr ac eraill o frenhinoedd Cymru'r Oesoedd Canol. Dywedir mai Gwawr ferch Brychan oedd mam Llywarch ac Urien.[1]

Yn ddiweddarach trawsleolwyd y traddodiadau am Lywarch a'i feibion i Bowys a lluniwyd cyfres o englynion lled-hanesyddol, lled-chwedlonol, am ei fywyd. Fe'i portreadir ynddynt fel hen ŵr unig sy'n galaru colli ei 24 mab. Am ei fod yn siarad yn y person cyntaf mewn rhai o'r englynion hyn daethpwyd i ystyried mai ef a'u canodd, ond gwyddys erbyn heddiw eu bod yn gerddi amdano a fu'n rhan o gylch o chwedlau ehangach, efallai. Credir i'r cerddi gael eu cyfansoddi tua chanol y 9fed ganrif gan fardd neu feirdd o Bowys. Mae'r broses hon o drawsleoli arwyr yr Hen Ogledd i Gymru i'w gweld hefyd yn achos cymeriadau eraill, e.e. Taliesin, Gwyddno Garanhir, Myrddin, ac Urien Rheged hefyd.

Y cerddi

Ceir testunau'r englynion yn Llyfr Coch Hergest (y casgliad cyflawnaf a phwysicaf), Llyfr Du Caerfyrddin a llawysgrifau eraill. Yn y gyfrol Canu Llywarch Hen dosbarthodd Ifor Williams y cerddi canlynol fel cylch o gerddi sy'n ymwneud â Llywarch:

  1. Gwên ap Llywarch a'i dad
  2. Cân yr Henwr
  3. Urien Rheged
  4. Llywarch a Maen
  5. Gwahodd Llywarch i Lanfawr (Llanfor)
  6. Claf Abercuawg
  7. Mechydd ap Llywarch
  8. Enwau Meibion Llywarch Hen
  9. March Gwên
  10. Am Arwdir Eifionydd
  11. Am ei blant

Sylwer mai trefniant Ifor Williams yw hyn a bod trefn y cerddi yn amrywio yn y llawysgrifau. Syr Ifor hefyd biau deitlau'r cerddi (ac eithrio 'Enwau Meibion Llywarch Hen').

Cyfeiriadau

  1. Rachel Bromwich (gol.), Trioedd Ynys Prydein (Caerdydd, 1961; arg. newydd 1991), Atodiad II.

Llyfryddiaeth

  • Jenny Rowland (gol.), Early Welsh Saga Poetry (Caerdydd, 1990)
  • Ifor Williams (gol.), Canu Llywarch Hen (Caerdydd, 1935; sawl argraffiad diweddarach)

Gweler hefyd

Eginyn erthygl sydd uchod am lenyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.