Albert Westhead Pryce-Jones: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dafyddt (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
→Gyrfa bêl-droed: newid url i www.welshsoccerarchive.co.uk, replaced: wfda → welshsoccerarchive (2) using AWB |
||
Llinell 30: | Llinell 30: | ||
==Gyrfa bêl-droed== |
==Gyrfa bêl-droed== |
||
Ar ôl gadael y Brifysgol, ymunodd Pryce-Jones â'i frawd, [[William Ernest Pryce-Jones]] yn nhîm [[C.P.D. Y Drenewydd|Y Drenewydd]] ac roedd y ddau yn rhan o'r tîm drechodd [[C.P.D. Wrecsam|Wrecsam]] yn rownd derfynol [[Cwpan Cymru]] ym 1894-95<ref>{{cite web |url=http:// |
Ar ôl gadael y Brifysgol, ymunodd Pryce-Jones â'i frawd, [[William Ernest Pryce-Jones]] yn nhîm [[C.P.D. Y Drenewydd|Y Drenewydd]] ac roedd y ddau yn rhan o'r tîm drechodd [[C.P.D. Wrecsam|Wrecsam]] yn rownd derfynol [[Cwpan Cymru]] ym 1894-95<ref>{{cite web |url=http://welshsoccerarchive.co.uk/welshcup_final_detail.php?id=18 |title=Welsh Cup Final 1894-95 |published=welshsoccerarchive.co.uk |work=Welsh Football Data Archive}}</ref> ac yn yr un tymor casglodd ei unig gap rhyngwladol wrth chwarae dros [[Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru|Gymru]] mewn gêm gyfartal 1-1 yn erbyn [[Tîm pêl-droed cenedlaethol Lloegr|Lloegr]] yn y Queen's Club, [[Llundain]].<ref>{{cite web |url=http://eu-football.info/_match.php?id=4412 |title=England 1-1 Wales |published=eu-football.info}}</ref> |
||
==Bywyd busnes== |
==Bywyd busnes== |
Fersiwn yn ôl 19:15, 26 Tachwedd 2018
Gwybodaeth Bersonol | |||
---|---|---|---|
Dyddiad geni | 26 Mai 1870 | ||
Man geni | Y Drenewydd, Cymru | ||
Dyddiad marw | 17 Awst 1946 | (76 oed)||
Man lle bu farw | Buenos Aires, Ariannin | ||
Gyrfa Lawn* | |||
Blwyddyn | Tîm | Ymdd† | (Gôl)† |
1884-1889 | Ysgol Amwythig | ||
1889-1893 | Prifysgol Caergrawnt | ||
1889-1897 | Y Drenewydd | ||
Tîm Cenedlaethol | |||
1895 | Cymru | 1 | (0) |
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd.. † Ymddangosiadau (Goliau). |
Cyn ŵr busnes a phêl-droediwr Cymreig oedd Albert Westhead Pryce-Jones OBE (26 Mai 1870 – 17 Awst 1946). Llwyddodd i ennill Cwpan Cymru gyda'r Drenewydd yn ogystal ag ennill 1 cap dros Gymru ym 1895.
Bywyd cynnar
Roedd Pryce-Jones yn fab i Syr Pryce Pryce-Jones, perchennog busnes gwerthu drwy'r post y Royal Welsh Warehouse ac Aelod Seneddol Bwrdeistref Trefaldwyn. Cafodd Pryce-Jones ei addysg yn Ysgol Amwythig lle roedd yn gricedwr a phêl-droediwr o fri.[1] Ym 1889 aeth i astudio yng Ngholeg Clare, Caergrawnt lle cynrychiolodd Prifysgol Caergrawnt mewn pêl-droed a tenis yn ogystal a bod yn gapten ar dîm criced y Coleg.[1]
Gyrfa bêl-droed
Ar ôl gadael y Brifysgol, ymunodd Pryce-Jones â'i frawd, William Ernest Pryce-Jones yn nhîm Y Drenewydd ac roedd y ddau yn rhan o'r tîm drechodd Wrecsam yn rownd derfynol Cwpan Cymru ym 1894-95[2] ac yn yr un tymor casglodd ei unig gap rhyngwladol wrth chwarae dros Gymru mewn gêm gyfartal 1-1 yn erbyn Lloegr yn y Queen's Club, Llundain.[3]
Bywyd busnes
Ar ôl gadael y Brifysgol, ymunodd â busnes ei dad yn Y Drenewydd. Roedd Pryce-Jones hefyd yn aeod o'r Fyddin Diriogaethol fel swyddog yn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig.[4]. Ym 1911 symudodd i Calgary yng Nghanada ym 1911 er mwyn sefydlu cangen o'r RWW yn y ddinas a cheisio disodli'r Hudson Bay Company fel prif fusnes masnachol yr ardal.[4][5]
Aeth y busnes yng Nghanada i'r wal pan adawodd Pryce-Jones er mwyn dychwelyd i Brydain Fawr er mwyn brwydro yn y Rhyfel Byd Cyntaf.[5]
Rhyfel Byd Cyntaf
Ar ddechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf cododd Pryce-Jones fataliwn lleol yn Calgary er mwyn hwylio i ymladd dros yr Ymerodraeth. Gadawodd yr 113th Lethbridge (Calgary) Highlanders am Loegr ym mis Medi 1916 ond oherwydd colledion enbyd yn ystod y brwydro yn Ffrainc cafodd y bataliwn ei rannu rhwng sawl bataliwn Canadaidd arall.[4][6]
Bu farw ei fab, Reginald 'Rex' Pryce-Jones, yn ystod Brwydr y Somme ar 18 Tachwedd 1916.[7]
Ymddeoliad
Ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, bu Pryce-Jones yn byw yn Llundain cyn symud i fyw i'r Ariannin ym 1938, lle bu farw ym 1946.[1]
Gweler hefyd
Ei frodyr:
- Edward Pryce-Jones AS
- Y Cyrnol Henry Morris Pryce-Jones, CB; CVO; DSO, MC; MVO
- William Ernest Pryce-Jones
Cyfeiriadau
- ↑ 1.0 1.1 1.2 Davies, Gareth M.; Garland, Ian (1991). Who's Who of Welsh International Soccer Players. Bridge Books. t. 171. ISBN 1 872424 11 2.
- ↑ "Welsh Cup Final 1894-95". Welsh Football Data Archive. Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ "England 1-1 Wales". Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ 4.0 4.1 4.2 Jackson, Jasmin (2006). On the Way!. Trafford Publishing. t. 51. ISBN 1412031397.
- ↑ 5.0 5.1 "Canadian Museum of History". Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ "Colonels of the Canadian Expeditionary Force: The Welshman". Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ "Rex Pryce-Jones". Canadian Virtual War Memorial. Unknown parameter
|published=
ignored (help)